Gething 'erioed wedi ystyried' ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020
大象传媒 Radio Wales
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wrth 大象传媒 Radio Wales y bore 'ma na wnaeth erioed ystyried ymddiswyddo wedi iddo ddefnyddio iaith anweddus tuag at gyd-aelod Cynulliad Llafur.
Fe wnaeth ddefnyddio rheg tra'n cyfeirio at Jenny Rathbone a oedd wedi gofyn cwestiwn iddo am berfformiad Llywodraeth Cymru am offer diogelwch i weithwyr iechyd.
Dywedodd: "Nes i erioed ystyried ymddiswyddo oherwydd rwy'n deall pa mor fawr yw'r her sy'n ein hwynebu a phwysigrwydd digamsyniol ac effaith y dewisiadau yr ydym yn eu gwneud bob un diwrnod."