´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • Cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra

  • Rhybudd y bydd hi'n anodd i bobl ifanc ddod o hyd i swydd

  • Pryder milfeddygon na all y diwydiant oroesi'r argyfwng

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.

    Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory gyda'r diweddaraf am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Diolch am ddarllen. Arhoswch yn ddiogel. Hwyl i chi am y tro.

  2. Rhai canolfannau ailgylchu Gwynedd i ailagorwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Cyngor Gwynedd

    Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd pump o’r wyth o ganolfannau ailgylchu yn y sir yn ailagor i geir yn unig o 26 Mai.

    Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, bydd rhaid i drigolion drefnu amser penodol ar-lein o flaen llaw drwy ymweld a , drwy ddefnyddio ap ApGwynedd neu trwy ffonio canolfan gyswllt y cyngor ar 01766 771000.

    Bydd y system newydd yn agor i gymryd archebion o 08:30 fore Gwener, 22 Mai.

    Bydd y canolfannau ailgylchu ym Mangor, Caernarfon, Dolgellau, Ffridd Rasus yn Harlech a Phwllheli ar agor rhwng 09:00 a 16:00 o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn i drigolion fydd wedi trefnu amser penodol o flaen llaw yn unig.

    Bydd canolfannau ailgylchu’r cyngor yng Ngarndolbenmaen, Blaenau Ffestiniog a’r Bala yn parhau ar gau am y tro.

    AilgylchuFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Llai na 10% o ddisgyblion bregus yn mynd i'r ysgolwedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    NSPCC

    Mae llai na 10% o'r disgyblion sy'n agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain wedi mynd i'r ysgol ers i'r cyfyngiadau ddod i rym, yn ôl NSPCC Cymru.

    Clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru taw dim ond 1,000 o blant bregus allan o 16,000 sydd wedi mynd i'r ysgol, a bod hanner rheiny mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ffigyrau presenoldeb wedi gwella yn yr wythnosau diwethaf ond maen nhw'n derbyn fod angen gwneud mwy.

    Cafodd ysgolion Cymru eu cau ym mis Mawrth mewn ymateb i'r pandemig, ond mae rhai'n dal ar agor ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr allweddol.

  4. Abertawe yn ennill Uwch Gynghrair y merchedwedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Yn sgil y newyddion yn gynharach bod cynghreiriau pêl-droed Cymru wedi dod i ben am y tymor, daeth cadarnhad hefyd mai Abertawe sydd wedi ennill Uwch Gynghrair y merched.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Nyrs o Abertawe wedi marw â coronafeirwswedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Mae teyrngedau wedi'u rhoi i nyrs fu farw gyda coronafeirws.

    Roedd Liz Spooner, 62, yn nyrs "ymroddedig" oedd â 41 mlynedd o brofiad yn gweithio yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

    Dywedodd cyfarwyddwr yr ysbyty, Jan Worthing bod Ms Spooner yn "gyd-weithiwr gwych a charedig".

    "Mae ei marwolaeth yn gadael bwlch enfawr yn nheulu Ysbyty Singleton," meddai.

    Liz SpoonerFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe
  6. Caniatáu cwrdd â pherthnasau 'dan ystyriaeth'wedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Gweinidogion Llywodraeth Cymru'n ystyried newid y rheolau Covid-19 yn dilyn cyngor gwyddonol.

    Read More
  7. Cwmnïau yn 'awyddus i ddychwelyd i'r gwaith'wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Mae yna awydd ymhlith cwmnïau yng Nghymru i "fynd yn ôl i'r gwaith" a "chael yr economi i symud eto", yn ôl Cadeirydd Siambr Fasnach De Cymru.

    Ond mae Paul Slevin yn rhybuddio y bydd busnesau'n wynebu "amser heriol" a'i bod yn "or-optimistaidd" meddwl y bydd yr economi yn "adlamu yn ôl o hyn".

    Mae Toyota ymhlith y cyflogwyr mawr yng Nghymru sydd wedi ailgychwyn cynhyrchu yn ddiweddar gyda mesurau diogelwch ychwanegol ar waith.

    Yn ôl cyfarwyddwr ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy, mae'r cwmni yn canolbwyntio ar ddiogelwch gweithwyr ac nad ydyn nhw "dan bwysau" i gynhyrchu'r maint arferol o waith o ganlyniad i'r amgylchiadau.

    Slevin
  8. Cyngor Caerdydd i adfer angladdau hirachwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Cyngor Caerdydd

    Bydd gwasanaethau angladd 45 munud o hyd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd unwaith eto o 26 Mai.

    Cafodd y gwasanaethau eu cyfyngu i 30 munud o hyd am 20 diwrnod yn sgil y rheolau pellter cymdeithasol.

    Cafodd angladdau hefyd eu cynnal ar chwe diwrnod er mwyn osgoi gorfodi pobl i aros yn rhy hir am wasanaeth wedi profedigaeth.

    Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr aelod o gabinet Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am wasanaethau profedigaeth fod eu staff "wedi gwneud gwaith gwych yn ystod cyfnod hynod heriol".

    "Ond fe wn i, fel pawb arall, y bydd y tîm yn falch ein bod unwaith eto'n gallu cynnig ychydig bach o amser ychwanegol i bobl gael galaru dros eu hanwyliaid," meddai.

    AngladdFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Ceredigion "ar flaen y gad"wedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'Ysbryd Aneurin Bevan yn fyw ac yn iach'wedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Pan ddechreuodd Phillip Dobbs - gweithiwr dur sydd wedi ymddeol - hunan ynysu yn Nhredegar, doedd ganddo neb i roi cymorth iddo.

    Roedd un perthynas iddo yn Birmingham mor bryderus nes iddyn nhw ffonio'r heddlu.

    Yr heddlu yn eu tro wnaeth ei annog i gysylltu gyda chriw o wirfoddolwyr sydd bellach wedi cludo 4,000 o eitemau i bobl sydd eu hangen ar draws Blaenau Gwent.

    Mae gweithlu cymunedol Tredegar wedi sicrhau fod pobl yn derbyn eitemau gan gynnwys bwyd, prydau ysgol a meddyginiaethau.

    Mae modd darllen mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    TredegarFfynhonnell y llun, Cymru Creations
  11. Cynghreiriau pêl-droed Cymru'n dod i benwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Mae Cei Connah wedi cael eu cyhoeddi fel enillwyr Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.

    Y prynhawn 'ma fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd cynghreiriau domestig yn dod i ben oherwydd y pandemig.

    Cei Connah felly fydd yn cynrychioli Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, tra bo'r Seintiau Newydd, Y Bala a'r Barri yn hawlio eu lle yng Nghynghrair Europa.

    Does dim manylion eto os fydd unrhyw dimau yn cael dyrchafiad neu'n cwympo i gynghrair is.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Apêl bwrdd iechyd gyda'r brig ar y gorwelwedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Pryder na fydd milfeddygfeydd yn goroesi'r argyfwngwedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Mae cymdeithas filfeddygol y BVA yn dweud bod perygl na fydd modd i rai canolfannau milfeddygol oroesi wedi argyfwng Covid-19, wrth iddyn nhw alw am gefnogaeth gadarn gan Lywodraeth Cymru.

    Yn ôl milfeddygon, mae'r straen yn cynyddu, nid yn unig yn fewnol ond ar berchnogion anifeiliaid anwes hefyd.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r trafferthion sy'n wynebu'r diwydiant" a bod rhai milfeddygfeydd yn gymwys i dderbyn grant o £10,000.

    Mae rhagor ar y stori yma ar ein hafan.

    Vet
  14. Cyfarfodydd rhithwir i gynnwys holl aelodau Senedd Cymruwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Mae Senedd Cymru wedi cadarnhau y bydd pob un o'r 60 Aelod yn gallu cymryd rhan yng nghyfarfodydd rhithwir y Senedd o fis Mehefin.

    Hyd yma nifer cyfyngedig sydd wedi gallu ymuno â'r cyfarfodydd Zoom nawr ei bod yn amhosib cynnal y sesiynau arferol ym Mae Caerdydd.

    Mae rhai wedi galw am gynnal cyfarfodydd 'hybrid' fel rhai TÅ·'r Cyffredin, ble mae rhai o'r Aelodau Seneddol yn y siambr a rhai yn cymryd rhan ar-lein.

    Yn ôl Mandy Jones, Aelod Plaid Brexit Gogledd Cymru o Senedd Cymru, mae cynnal cyfarfodydd hollol ddigidol yn creu problemau i unigolion fel hi sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gyda chysylltiadau band eang cymharol wael.

    "Mae'n golygu bod fy nghysylltiad ar-lein ddim o hyd yn ddigon cryf i mi allu gwneud fy holl waith o fy nghartref," meddai.

    Dywedodd llefarydd ar ran Senedd Cymru eu bod am gysylltu â Ms Jones i gynnig cefnogaeth, a bod yr adran dechnoleg gwybodaeth "heb gael gwybod am unrhyw broblemau band-eang gan ASau".

    Cyfarfod rhithwir Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  15. Achosion a marwolaethau Covid-19: Rhagor o fanylionwedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Ymateb Gwyddelod ifanc i neges heddwch yr Urddwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Roedd Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni Urdd Gobaith Cymru yn pwysleisio'r cyfle i anghofio arferion "hunanol a dinistriol" yn sgil y pandemig coronafeirws, ac ailystyried mynd yn ôl i'r drefn arferol pan fydd yr argyfwng drosodd.

    Dyma ymateb aelodau St Patrick's Troupe - perfformwyr ifanc o dras Wyddelig yn Llundain.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Cynllun profi gwreiddiol "wedi costio £40,000"wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Yn ôl Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cost cynllun ar y cyd â chwmni Amazon, sydd bellach wedi ei roi o'r neilltu nawr bod Cymru wedi ymuno â chynllun profion y Deyrnas Unedig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Y ffigyrau diweddaraf fesul bwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Map 19 Mai
    Graff 19 Mai
  19. Ystyried cartrefu'r digartref mewn canolfan awyr agoredwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020

    Cyngor Sir Fynwy

    Fe allai Canolfan Addysg Awyr Agored Gilwern yn Y Fenni fod yn llety brys dros dro ar gyfer naw person digartref yn ystod yr argyfwng coronafeirws, os fydd cabinet Cyngor Sir Fynwy'n cymeradwyo'r syniad yr wythnos nesaf.

    Mae'r cyngor wedi gwneud 101 o gynigion o lety i unigolion bregus ers mis Mawrth.

    Bydd y cyngor hefyd yn ystyried camau i wneud hi'n haws i bobl gadw pellter cymdeithasol yng nghanol trefi'r sir.

    Mae'r mesurau posib yn cynnwys caniatáu i fusnesau ehangu i'r stryd, estyn y gofod ar gyfer cerddwyr a gwella adnoddau i seiclwyr.

    Canolfan Addysfg Awyr Agoed GilwernFfynhonnell y llun, Andy Dolman/Geograph
  20. Niferoedd achosion a marwolaethau diweddarafwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 19 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cofnodi 17 yn rhagor o farwolaethau o bobl gyda coronafeirws.

    Mae cyfanswm y meirw bellach yn 1,224.

    Cafodd 166 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, sy'n golygu bod 12,570 o bobl yma wedi profi'n bositif am yr haint.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debyg o fod yn llawer uwch yn y ddau achos.