大象传媒

Crynodeb

  • Alun Ffred yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

  • Gwersyllwyr Maes B yn wynebu oedi am oriau wrth gyrraedd

  • Artistiaid gwerin yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin

  • Meuryn ac Islwyn newydd i'r ymryson

  1. Gwilyn Bowen Rees - dyn prysur iawn yr wythnos hon!wedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Bydd Gwilym Bowen Rhys yn beirniadu Brwydr y Bandiau Gwerin yn y T欧 Gwerin am 15:30 gyda Lleuwen Steffan.

    "Mi fydda i'n chwilio am wreiddioldeb, hyder a'r gallu i rannu mwynhad efo'r gynulleidfa," dywedodd.

    Bydd Gwilym yn gigio yn Cwrw Ll欧n heno - mae ganddo 19 gig i gyd yr wythnos hon! 馃槷馃幎

    g
  2. Gwyliwch holl gystadlu'r Pafiliwn Mawr yn fywwedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Ewch draw i'n gwasanaeth Sedd yn y Pafiliwn er mwyn dal bob eiliad o'r cystadlu!

    Cor yn canu yn y Pafiliwn MawrFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn/Eisteddfod
  3. Alawon gwerin Ll欧n ac Eifionyddwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Gwennan Gibbard

    Mae鈥檙 gynulleidfa yng Nghymdeithasau 2 wedi cael y pleser o wrando ar rai o ganeuon gwerin Ll欧n ac Eifionydd yng nghwmni Gwenan Gibbard y prynhawn yma.

  4. 'Cracharela' yn y pafiliwn!wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Ar Lwyfan y Maes heno bydd cyfle i weld Band Pres Llareggub - ac yn y Pafiliwn Mawr, sioe 'Cracharela' Cabarela.

    CabarelaFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Cabarela yn perfformio yn y Pafiliwn y llynedd

    Wedi eu llwyddiant yn Nhregaron y llynedd mae鈥檙 criw doniol a ffraeth yn perfformio am ddwy noson 鈥 ac ydy mae鈥檙 tocynnau i gyd wedi鈥檜 gwerthu!

    Fe gafodd Ffion Emyr sgwrs efo un o'r criw, Hywel Pitts, ar 大象传媒 Radio Cymru...

    Nid yw鈥檙 post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniat谩u cynnwys Instagram?

    Mae鈥檙 erthygl yma鈥檔 cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  5. Mordaith ar y maeswedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Kitch n Sinc aeth ag Eisteddfodwyr ar fordaith oes o Bwllheli i'r Barri, gyda chriw cotiau cochion butlins yn y theatr stryd a dawns.

    mordaith
  6. Penblwydd pwysig draw ar Faes D...wedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae鈥檔 40 mlynedd ers sefydlu Gwobr Dysgwr y Flwyddyn ac unwaith eto eleni mae Maes D yn llawn bwrlwm.

    Am 17:00 heno fe fydd rhai o ddigrifwyr amlycaf Cymru 鈥 yn eu plith Kiri Pritchard McLean 鈥 wrth y llyw.

    Kiri Pritchard-McLean a Maggi Noggi ar y maes
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Kiri Pritchard-McLean a Maggi Noggi yn crwydro'r maes yn ddrygionus

    Hwn fydd un o鈥檙 troeon cyntaf iddi berfformio set llawn yn y Gymraeg.

    Ymhlith eraill a fydd yn perfformio mae Esyllt Sears, Kris Davies a Dai Rhys Towler.

  7. Pobol y Cwm v Rownd a Rowndwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Am 16:00 ger pabell S4C heddiw mae Pobol y Cwm yn mynd benben yn erbyn Rownd a Rownd mewn cwis arbennig.

    Pwy fydd yn fuddugol yn y cwis rhwng y ddwy opera sebon eiconig?...

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Dyna un ffordd o osgoi'r mwd!wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Dwy gyfnither, Eira o Drawsfynydd ac Isla o Wolverhampton, yn mwynhau reid gyda 'chart诺n byw' Gary & Pel.

    Dwy ferch ar y maes
  9. Oedi Maes B a phabell wedi ei chauwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae 大象传媒 Cymru Fyw yn deall fod pabell wedi ei chau i ffwrdd ar Faes B.

    Mae un o鈥檙 safleoedd yn y maes ieuenctid i weld wedi cael ei ffensio i ffwrdd.

    Mae llwyfan agored arall wrthi鈥檔 gorffen cael ei godi ar y maes.

    Er bod y cae gwersylla wedi agor erbyn 13:00, mae cannoedd o bobl wedi bod yn ciwio am oriau i gael mynediad yno.

    Mae鈥檙 Eisteddfod wedi cael cais am ymateb.

    Maes B
  10. Pwy fydd yn fuddugol ym Mrwydr y Bandiau Gwerin?wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Yn dilyn llwyddiant Brwydr y Bandiau, mae'r Eisteddfod Genedlaethol a 大象传媒 Radio Cymru wedi lansio cystadleuaeth newydd - Brwydr y Bandiau Gwerin! 馃幎

    Y bwriad yw dilyn esiampl Brwydr y Bandiau drwy gynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a chryfhau'r s卯n werin ar gyfer y dyfodol.

    Mae pedwar o artistiaid neu fandiau wedi cyrraedd y rhestr fer: Melda Lois, artist unigol sy'n wreiddiol o Gwm Croes, yn ardal Penllyn; Lo-Fi Jones, band o Fachynlleth a Chaerdydd; Y Brodyr Magee, gr诺p teuluol o Ynys M么n, a Rhiannon, sy'n artist unigol o Ffarmers, Sir Gaerfyrddin.

    Y beirniaid yw Lleuwen Steffan a Gwilym Bowen Rhys.

    Lo-Fi Jones, Rhiannon, Melda Lois, a'r Brodyr Magee fydd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau GwerinFfynhonnell y llun, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Lo-Fi Jones, Rhiannon, Melda Lois, a'r Brodyr Magee fydd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin

    Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o 拢600 (拢300, Clwb Gwerin y Castell, Cricieth, a 拢300 gan Hefina a Tomos, Tyddyn Cae, Boduan), ynghyd 芒 sesiwn ar 大象传媒 Radio Cymru.

    Mae'r gystadleuaeth yn agored i grwpiau neu unigolion gyda'r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn pecyn datblygu proffesiynol sy'n cynnwys recordio a ffilmio dwy g芒n mewn set byw.

    Mae un o ganeuon pob artist neu fand bellach i'w gweld ar sianel YouTube yr Eisteddfod.

    Cynhelir y rownd derfynol yn y T欧 Gwerin am 15:30.

  11. Cannoedd yn ciwio i fynd i Maes B erbyn hyn...wedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Cannoedd yn ciwio i fynd i Maes B
  12. Dod 芒'r theatr i Maes B?wedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Nos Wener fe fydd Fr芒n Wen yn llwyfannu'r cynhyrchiad theatrig gyntaf i'w chynnal ym Maes B.

    Bydd 'Popeth ar y Ddaear' yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.

    Ac wrth i Maes B groesawu'r gwersyllwyr cyntaf heno 'ma, fe fydd rhai o'r cymeriadau wrthi'n crwydro yn eu plith...

  13. Meuryn ac Islwyn newyddwedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Yn y Babell L锚n am 14:30 fe fydd yna wynebau newydd yn Ymryson Barddas.

    Bydd y Prifardd Twm Morys yn camu i esgidiau鈥檙 Meuryn wedi i Tudur Dylan Jones fod wrth y llyw am 20 mlynedd.

    Y Babell Len
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Fydd Ymryson Barddas am 14:30 yn y Babell L锚n

    Yn camu i esgidiau Islwyn fe fydd Gruffudd Antur.

    Y timau a fydd yn cystadlu y prynhawn 鈥榤a fydd Morgannwg, Deheubarth a Chaernarfon.

  14. Y newyddion diweddaraf yn fyw o Foduanwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    O straeon y byd gwleidyddol i ddigwyddiadau'r dydd ar y maes, mae Jennifer Jones ac Alun Thomas wrthi'n darlledu'n fyw ar 大象传媒 Radio Cymru.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. O'r cae chwarae i gae ym Moduan...wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Eisiau clywed mwy am fyd y b锚l gron?

    Ewch draw i'r Sinemaes am 15:00 i glywed gan Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer a Nic Parry 锔忊毥锔

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Ymgyrch i recriwtio mwy o fyfyrwyr meddygol i'r gogleddwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Ar stondin Prifysgol Bangor mae lansiad ymgyrch i geisio recriwtio mwy o fyfyrwyr meddygol i鈥檙 gogledd.

    Mae Dr Nia Jones, arweinydd rhaglen feddygaeth Prifysgol Bangor, yn dweud fod y cyfnod diweddar gyda鈥檙 pandemig wedi dangos yr angen am feddygon.

    Er bod cael lle ar gwrs yn 鈥渁nodd a chystadleuol鈥, mae鈥檔 pwysleisio hefyd fod cael darpar fyfyrwyr sy鈥檔 siarad Cymraeg 鈥測n bwysig i ni鈥.

    Yna mae rhai o fyfyrwyr y brifysgol yn chwarae drwy senario ddychmygol o sut fydden nhw鈥檔 delio gyda chlaf oedd wedi ei daro鈥檔 wael ar y maes.

    Myfyrwyr
  17. 'Ofnadwy o hwyr yn agor'wedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae Lleucu Bryn yn un o'r bobl ifanc sy'n wynebu oedi wrth fynd mewn i Faes B ar hyn o bryd.

    "Mae'n ofnadwy o hwyr y agor ond gobeithio gewn ni fynd mewn yn fuan, ma' 'isio bach gwell trefn yma," dywedodd.

    Lleucu Bryn

    "Ma' 'na bobl yn cerdded heibio a jympio鈥檙 ciw a neb yn neud dim am y peth.

    鈥淒yle bod o鈥檔 barod! Oedden ni fod mewn am 12:00 a 'den ni di bod yn ciwio ers tua tri chwarter awr 'wan.

    "'Na i'm cyrraedd i wylio Elis Derby ar y maes am 14:00 ar y r芒t yma! Ond o leia' 'di hi ddim yn bwrw!鈥

  18. Y ciwio wedi cychwyn draw ger Maes B!wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    ... a'r cadeiriau campio'n cael digon o ddefnydd yn barod.

    Ciw tu fas i Maes B
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Mae tocynnau gwersylla Maes B bron a gwerthu'n llwyr

  19. 'Bedydd t芒n' i gadeirydd dros dro'r 大象传媒wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Ym Mhabell Cymdeithasau 2 mae Dewi Llwyd yn holi鈥檙 Fonesig Elan Closs Stephens, Cadeirydd Dros Dro y 大象传媒.

    Y Fonesig Elan Closs Stephens yn cael ei holi

    Fe ddechreuodd y cyflwynydd drwy nodi mai dyma鈥檙 tro cyntaf i gadeirydd y gorfforaeth gael ei holi ar faes yr Eisteddfod.

    Wedi鈥檙 cwestiwn agoriadol am gyfnod cythryblus diweddar y 大象传媒, fe wnaeth y Fonesig Stephens gyfaddef ei bod wedi bod yn 鈥渇edydd t芒n鈥 iddi yn y swydd.

    Dywedodd ei bod hi鈥檔 teimlo fod y gorfforaeth wedi ymdrin 芒鈥檙 sefyllfa'n ymwneud 芒'r cyflwynydd Huw Edwards 鈥済yda gofal a thegwch i bawb鈥.

    Ychwanegodd ei bod hi鈥檔 debyg o gymryd 鈥渞hai misoedd鈥 i鈥檙 ymchwiliad i鈥檙 mater gael ei gwblhau.

  20. Dathlu wedi'r ddefod...wedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mi oedd hi'n brysur ger Llwyfan y Maes neithiwr - a neb llai nag ennillydd a gwneuthurwr y Goron wrthi'n dathlu yn yr haul.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniat谩u cynnwys Instagram?

    Mae鈥檙 erthygl yma鈥檔 cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram