大象传媒

Crynodeb

  • Miloedd wedi derbyn canlyniadau TGAU

  • Canlyniadau is na'r llynedd ond uwch na chyn y pandemig

  • Disgyblion wedi wynebu heriau, yn 么l arweinwyr ysgolion

  1. Diolch o galon am eich cwmni a llongyfarchiadau!wedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    A dyna'r cyfan o lif byw Cymru Fyw ar ddiwrnod canlyniadau TGAU.

    Ry'n ni wedi clywed gan ddisgyblion ledled Cymru sydd wedi gwneud yn arbennig.

    Llongyfarchiadau i bob un ar eu llwyddiant! 鈽吼煈

    Hwyl am y tro 鈽

    Teulu yn Ysgol Ffynone, AbertaweFfynhonnell y llun, Getty
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Teulu yn Ysgol Ffynone, Abertawe, yn falch iawn o ganlyniadau eu mab

  2. Dadansoddiad ein gohebydd addysg, Bethan Lewiswedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru

    Ar lefel Cymru gyfan, yr un stori 芒'r arholiadau Safon Uwch yr wythnos ddiwethaf yw hi 鈥 graddau yn is na'r llynedd, ond yn dal yn uwch nag yn 2019.

    Roedd gan ddisgyblion TGAU, fel myfyrwyr Safon Uwch, rywfaint o wybodaeth ymlaen llaw cyn arholiadau a ffiniau graddau is.

    Gofynnais i鈥檙 Gweinidog Addysg Jeremy Miles, a oedd yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, a fyddai鈥檙 cymorth ychwanegol hwnnw鈥檔 cael ei ollwng y flwyddyn nesaf.

    Dyna beth roedd yn ei 鈥渄disgwyl鈥, meddai鈥檙 Gweinidog, wrth gydnabod na fydd effeithiau Covid wedi diflannu.

    Mae dull mwy graddol o fynd yn 么l i 鈥榥ormal鈥 o'i gymharu 芒 Lloegr yn golygu bod gostyngiad sylweddol mewn graddau yng Nghymru yn debygol y flwyddyn nesaf hefyd.

  3. 'Bore o ddathlu' yn Ysgol Bryn Tawewedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Penderfyniad i fod yn hael wrth osod ffiniau graddau etowedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Ar 么l i arholiadau gael eu canslo yn 2020 a 2021 ac i raddau gael eu pennu gan athrawon, cafodd mesurau eu cyflwyno i gefnogi disgyblion pan gafodd arholiadau eu cynnal yn 2022.

    Roedd y canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig felly cafodd y penderfyniad ei wneud i fod yn hael wrth osod ffiniau graddau eleni eto wrth ddechrau dychwelyd i'r broses cyn Covid.

    Eithne Hughes
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion a cholegau ASCL Cymru

    Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion a cholegau ASCL Cymru bod disgyblion wedi wynebu sawl her.

    Mae absenoldeb yn parhau'n broblem, a chyn yr arholiadau roedd lefelau presenoldeb yn isel iawn ymhlith plant o gefndiroedd mwy difreintiedig, meddai.

    Ar ben hynny roedd yr argyfwng costau byw wedi achosi problemau ychwanegol i rai disgyblion.

    Dywedodd Ms Hughes mai'r penderfyniad cywir oedd cadw mesurau i gefnogi disgyblion eleni, a bod hynny'n fwy "caredig".

    Ond fe rybuddiodd y byddai angen ystyried mesurau y flwyddyn nesaf hefyd mewn rhai pynciau pe bai disgyblion yn parhau i'w chael hi'n rhy anodd.

    "Beth dy'n ni ddim eisiau gweld yw methiant llwyr mewn rhai pynciau i blant sy'n gwneud eu gorau, ond ble mae'r methiannau tu hwnt i'w rheolaeth nhw," meddai.

  5. Wynebau balch yn Abertawewedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Criw hapus iawn yn Ysgol Ffynone, Abertawe, y bore 'ma!

    Canlyniadau yn AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Edrych ymlaen at Flwyddyn 11 馃槑wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae Paige ac Elen ym mlwyddyn 10 yn Ysgol Morgan Llwyd.

    Derbyniodd Elen 3C, B a 2D a dau Merit.

    Mae Paige yn teimlo ychydig yn rhy nerfus i agor yr amlen ar hyn o bryd ac am aros ychydig cyn gwneud!

    Ond mae'r ddwy yn edrych ymlaen at fynd i Flwyddyn 11 ym mis Medi.

    Paige ac Elen
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Paige ac Elen yn hapus wrth fynd ymlaen i flwyddyn 11 Ysgol Morgan Llwyd

  7. Cerdd arbennig gan fardd y mis Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    大象传媒 Radio Cymru

    Mae cerdd arbennig Bardd y Mis Radio Cymru Buddug Roberts yn pwysleisio bod yna bethau pwysicach na chanlyniadau TGAU.

    Darllenwch y gerdd yma.

  8. 'Dw i mor falch 'mod i wedi cael y canlyniadau yma'wedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae Gwawr o Ysgol Llangefni wedi cael 13 A* TGAU.

    Dywedodd ei bod "mor falch" o gael y canlyniadau.

    "Dw i'n teimlo'n amazing," meddai.

    'Do'n i bron a methu cysgu neithiwr yn poeni.

    "Dw i mor falch bod o drosodd r诺an".

    Disgrifiad,

    TGAU: 'Do'n i bron a methu cysgu neithiwr yn poeni'

  9. 'Canlyniadau'r oedden ni'n eu disgwyl' - Gweinidog Addysgwedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    "Mae'n ddiwrnod pwysig i bobl ifanc sy'n cael eu canlyniadau heddi ac i'r athrawon a'r staff a'u teulueodd," dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles.

    "Felly'r peth cyntaf i wneud yw eu llongyfarch nhw am eu canlyniadau."

    Jeremy Miles

    Ychwanegodd: "Ar draws Cymru mae'r canlyniadau'n debyg i'r hyn oedden ni'n disgwyl gweld... ro'n ni'n cynllunio ar y sail y byddai canlyniadau ryw hanner ffordd rhwng lle'r oedden nhw yn 2019 cyn Covid a'r canlyniadau gafon ni llynedd.

    "Dyna beth ry'n ni wedi gweld ar y cyfan."

    Dywedodd ei fod yn disgwyl y bydd yr amgylchiadau fel yr arfer, cyn y pandemig, erbyn y flwyddyn nesaf.

    "Beth y'n ni'n ceisio gwneud yw mynd ar lwybr sydd yn adlewyrchu profiad pobl yn y system addysg o Covid.

    "Un o'r pethau ni wedi gwneud eleni fel Llywodraeth yw darparu adnoddau ar-lein i gefnogi pobl ifanc gyda'u harholiadau gyda thechnegau adolygu ond hefyd gyda iechyd meddwl a phryder."

  10. 'Dylech fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi ei gyflawni'wedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    "Llongyfarchiadau i bawb yng Nghymru sy鈥檔 derbyn eu canlyniadau heddiw," meddai Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru.

    "Rydych chi wedi dangos yr hyn rydych chi'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud, a dylech fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi ei gyflawni.

    鈥淒iolch i鈥檙 holl ysgolion a cholegau am eu gwaith caled yn cefnogi dysgwyr wrth i ni gymryd y cam nesaf ar ein taith yn 么l i drefniadau asesu cyn y pandemig.

    "Mae'r daith yn 么l yn bwysig wrth ystyried tegwch hirdymor i ddysgwyr."

    Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau CymruFfynhonnell y llun, CYMWYSTERAU CYMRU
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru

    Os yw rhai dysgwyr ddim yn cyflawni鈥檙 graddau roedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw, ei gyngor ef yw "peidio 芒 phoeni os nad wyt ti wedi cael y graddau sydd eu hangen arnat ti ar gyfer y llwybr cynnydd rwyt ti wedi鈥檌 ddewis.

    "Mae llawer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol y mae modd i ti eu hystyried, a bydd cefnogaeth ar gael os byddi di angen arweiniad.鈥

  11. Gwenu ym Maes y Gwendraeth!wedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Roedd digon o gyffro yn Sir Gaerfyrddin wrth i ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth gael eu canlyniadau 馃憦馃憞

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Methu a chysgu ond wedi cael 13A*!wedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    鈥淒oeddwn i methu a chysgu neithiwr yn poeni am y canlyniadau,鈥 dywedodd Gwawr (dde) o Ysgol Gyfun Llangefni.

    Ond doedd dim angen poeni, fe gafodd 13 A*!

    Roedd canlyniadau Greta hefyd yn ardderchog - rhes o鈥檙 graddau uchaf.

    Greta a Gwawr
  13. 'Bach yw llythyren o'i gymharu 芒'th fawredd di'wedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Geiriau pwysig gan Sioned Erin wrth i filoedd gael canlyniadau TGAU 鈽吼煈

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Dymuniade fi wedi dod yn wir'wedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    大象传媒 Radio Cymru

    Wrth siarad ar Dros Frecwast Radio Cymru y bore 'ma, dywedodd Arwen Jones o Gaerdydd ei bod eisoes wedi cymryd ei chamau cyntaf i'r byd gwaith.

    Penderfynodd fynd ar brentisiaeth gyda chwmni marchnata a chysylltiadau, er iddi sicrhau lle yn y brifysgol ar 么l derbyn ei chanlyniadau Safon Uwch.

    Fe ddechreuodd ymchwilio i'r posibilrwydd yn dilyn sesiwn ar ran Llywodraeth Cymru yn ei hysgol, a nawr ei bod ar ganol ei phrentisiaeth mae'n dweud bod "dymuniade fi wedi dod yn wir" o ymuno 芒'r byd gwaith go iawn.

    "O'n i'n gallu dysgu wrth i mi weithio ac yn gallu dysgu o bobol yn y gwaith sydd 'di bod yna am flynyddoedd.

    "O'dd popeth yn wych."

  15. Yn Sir F么n, mae dathlu hefyd!wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Megan a Rhodri

    Mae Megan a Rhodri o Ysgol Gyfun Llangefni yn bwriadu mynd i鈥檙 chweched dosbarth.

    Mae'r ddau yn gobeithio mynd i鈥檙 byd meddygaeth yn y tymor hir.

  16. ... ac yn Sir G芒r hefyd. Llongyfarchiadau 馃憦wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Dathlu yn y brifddinas 馃憦wedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

  18. 'Mae heddiw am ddyfodol pobl ifanc'wedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    大象传媒 Radio Cymru

    Disgrifiad,

    Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor sy'n cynnig cyngor ac arweiniad

    Wrth siarad ar Dros Frecwast Radio Cymru y bore 'ma, fe wnaeth pennaeth Coleg Menai a Meirion-Dwyfor, Aled Jones-Griffiths, atgoffa mai dyfodol pobl ifanc sy'n bwysig heddiw.

    Fe wnaeth atgoffa pobl fod cyngor ac arweiniad ar gael er mwyn eu cynorthwyo i wneud y cam nesaf yn eu gyrfa.

  19. Ymlaen i'r chwechedwedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae Charlotte, Rhys a Bethan o Ysgol Morgan Llwyd yn falch o'u canlyniadau ac am barhau yn y chweched dosbarth ym mis Medi.

    Charlotte, Rhys a Bethan
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Charlotte, Rhys a Bethan

  20. 'Mae'n ysbrydoledig gweld beth mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni'wedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi llongyfarch pobl ifanc ledled Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau.

    Meddai Mr Miles, "Llongyfarchiadau i bawb sy鈥檔 cael eu canlyniadau heddiw. Dylech i gyd fod yn falch o gyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn eich addysg.

    Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

    "Rwy'n croesawu'r canlyniadau hyn wrth i'n taith yn 么l at drefniadau cyn y pandemig barhau.

    "Mae'n ysbrydoledig gweld beth mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni. Bu'n rhaid i'r dysgwyr yma wynebu heriau anferth a wnaeth effeithio ar eu cyfleoedd dysgu dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddynt symud drwy eu haddysg uwchradd ac ymlaen i'w TGAU."

    Ond roedd ganddo gyngor hefyd: "Peidiwch 芒 bod yn rhy siomedig nac yn rhy feirniadol ohonoch chi鈥檆h hun os nad aeth pethau fel yr oeddech yn ei ddisgwyl heddiw.

    "Mae yn fan gwych i weld y dewisiadau sydd ar gael i chi i gynllunio'ch camau nesaf, neu gallwch gael cyngor a chefnogaeth gan eich ysgol."