大象传媒

Crynodeb

  • Miloedd wedi derbyn canlyniadau TGAU

  • Canlyniadau is na'r llynedd ond uwch na chyn y pandemig

  • Disgyblion wedi wynebu heriau, yn 么l arweinwyr ysgolion

  1. Graddau'n is na'r llynedd ond uwch na chyn y pandemigwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023
    Newydd dorri

    Mae graddau TGAU Cymru yn is o'i gymharu 芒'r llynedd wrth i'r patrwm ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig.

    Ond, fel gyda chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae'r canlyniadau uchaf heddiw yn dal yn uwch nag yn 2019.

    Roedd 21.7% o'r graddau TGAU eleni yn A neu'n uwch ac roedd bron i 65% yn A*- C.

    Dywedodd y rheoleiddiwr arholiadau fod ffiniau graddau yn is i rai pynciau er mwyn cefnogi disgyblion a brofodd heriau yn sgil y pandemig.

  2. Dweud eich dweud wrth edrych 'n么l ar gyfnod yr arholiadauwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae Senedd Ieuenctid Cymru'n casglu barn ac yn gofyn a fyddai amser ychwanegol yn yr ysgol ar gyfer gweithgareddau llesiant wedi helpu gyda straen arholiadau?

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Y ddwy Catrin yn falch!wedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Dyma Catrin gyda鈥檌 phrifathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Mrs Catrin Pritchard.

    Catrin a Catrin
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Catrin (chwith) gyda phennaeth Ysgol Morgan Llwyd Mrs Catrin Pritchard (dde)

    Mae Mrs Pritchard wedi bod yn disgwyl yn eiddgar ers yn fore i鈥檙 plant gyrraedd!

    Mae hi鈥檔 鈥渉ynod falch鈥 dros yr holl blant.

    Mae Catrin wedi gwneud yn dda yn ei TGAU ond yn ansicr ble yr aiff ym mis Medi o ganlyniad i "ddiffyg trafnidiaeth" dywedodd.

    "Yr opsiynau sydd gen i ydi mynd i Ysgol Y Creuddyn neu Glan Clwyd," meddai.

    "Mae鈥檙 ddwy ysgol yno鈥檔 newydd i mi, dydi 鈥榬un o鈥檙 ddwy yn cynnal gwleidyddiaeth fel pwnc, sydd yn rhywbeth 鈥榙wi eisiau ei wneud er mwyn gallu astudio鈥檙 gyfraith yn y brifysgol.

    "Ysgol Morgan Llwyd ydi鈥檙 unig ysgol sy鈥檔 gwneud gwleidyddiaeth yn y Gymraeg.鈥

  4. Chweched dosbarth, coleg neu'r byd gwaith?wedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Cofiwch am yr holl opsiynau ac nad yw'n rhy hwyr i newid cyfeiriad ar gyfer y cam nesaf.

    Dyna mae Coleg Gwent yn atgoffa y bore 'ma...

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Neges o longyfarchiadau gan y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Wrth rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Llongyfarchiadau i bawb sy鈥檔 derbyn canlyniadau heddiw.

    "Chi wedi gweithio mor galed, ac mae pawb yn falch iawn ohonoch chi.

    "Pob lwc i chi gyd, beth bynnag yw eich cam nesaf".

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. 'Syrthio mewn cariad' gyda gwaith coedwedi ei gyhoeddi 08:53 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    大象传媒 Radio Cymru

    Prentisiaeth fydd y cam nesaf i rai myfyrwyr yn hytrach na'r chweched dosbarth, ar 么l derbyn eu canlyniadau heddiw.

    Dyna'r trywydd i Cian o Ruthun, sydd ar fin dechrau ar brentisiaeth fel saer coed.

    Disgrifiad,

    Dechrau Gyrfa: Cian o Ruthun wedi cael prentisiaeth fel saer coed

    "Pan o'n i'n cychwyn fy TGAU do'n i ddim yn gw'bod be' i 'neud," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

    Ond wedi "rhyw awr" o sgwrs gyda swyddog o wasanaeth Gyrfa Cymru fe ddaeth i'r amlwg ei fod wedi "syrthio mewn cariad" gyda gwaith coed ar 么l dechrau cwrs Adeiladwaith ym Mlwyddyn 10.

    Aeth y swyddog ati i "ffeindio dyn lleol ma' o Ruthun" oedd yn fodlon ei hyfforddi i fod yn saer maen.

  7. Rhieni balch Wrecsam!wedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Cathy Whitley, Aloma Roberts a Faye Jones sydd yn hynod falch dros eu plant yn Ysgol Morgan Llwyd.

    Er nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg, fe benderfynon anfon eu plant i ysgol Gymraeg.

    Cathy Whitley, Aloma Roberts a Faye Jones
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Cathy Whitley, Aloma Roberts a Faye Jones

    Dywedodd Aloma: 鈥淩oedd ei thaid yn siarad Cymraeg felly roedd hynny'n un rheswm ond hefyd, y sgil ychwanegol sydd gennych chi o siarad iaith arall - mae'n ased wrth ymgeisio am swyddi."

    "Es i i'r ysgol Saesneg yn Wrecsam ond ro'n i eisiau anfon y mhlentyn i ysgol Gymraeg," meddai Cathy.

    Mae鈥檙 dair yn hynod falch o鈥檜 merched.

  8. Nid graddau yw popeth!wedi ei gyhoeddi 08:39 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Ysgol Gymraeg Bro Dur sy'n atgoffa - gyda cherdd gan Elin Angharad Davies - nad graddau sy'n mesur llwyddiant...

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Pryderus ond cyffrouswedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae Bowen, 16 o Abertawe, yn gobeithio mynd i'r coleg i wneud ei Safon Uwch ar 么l derbyn ei ganlyniadau TGAU.

    BowenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

    Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, gwleidyddiaeth yw un o'r pynciau y mae am astudio.

    Mae'n teimlo "tipyn bach yn bryderus" ond yn gyffrous hefyd.

    "Mae'n amser am newid, ac i dyfu lan ac i wneud pethau newydd," dywedodd.

  10. Cefnogaeth ychwanegol yn sgil tarfu'r pandemigwedi ei gyhoeddi 08:28 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae yna gefnogaeth ychwanegol wedi bod i ddisgyblion eto eleni yn sgil tarfu'r pandemig.

    Roedd hynny'n cynnwys rhoi rhywfaint o wybodaeth o flaen llaw yngl欧n 芒 chynnwys arholiadau a gosod ffiniau graddau'n is.

    Yn Lloegr, y penderfyniad oedd i ddychwelyd at y drefn cyn y pandemig eleni.

    Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud mai'r bwriad yw gollwng y cymorth ychwanegol y flwyddyn nesaf.

  11. Mae'r amlenni cyntaf wedi eu hagor!wedi ei gyhoeddi 08:23 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Edie, Charlotte, Erin a Charlie.
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Edie, Charlotte, Erin a Charlie.

    Roedd 'na ddigon o s锚r i鈥檞 gweld ar bapurau鈥檙 merched cyntaf i agor eu canlyniadau yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam.

    Edie, Charlotte, Erin a Charlie sy'n dathlu!

    Mae Charlotte ac Erin yn bwriadu aros yn y Chweched Dosbarth.

    Bydd Charlotte yn astudio Bioleg, Cemeg ac Hanes, ac Erin am astudio鈥檙 gwyddorau.

    I Goleg Cambria aiff Erin er mwyn astudio chwaraeon - mae hi yn chwarae rygbi i RGC ac eisiau bod yn ffisiotherapydd yn y dyfodol.

    Llongyfarchiadau!

  12. 'Ar bigau'r drain eisiau gwybod be' dwi 'di gael'wedi ei gyhoeddi 08:18 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    RhoddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Dywedodd Rhodd ei bod wedi bod yn "cyfri'r diwrnodau" wrth agos谩u at y canlyniadau

    Dywedodd Rhodd, o Rosllannerchrugog, ei bod wedi llwyddo i anghofio am yr arholiadau "am wythnos neu ddwy" ar 么l gorffen, ond mae wedi bod yn "cyfri'r diwrnodau" wrth agos谩u at y canlyniadau.

    Mae'n disgrifio cyfnod TGAU fel "dwy flynedd galed" ac yn yr haf, ar ddiwedd blwyddyn 11, roedd ganddi 18 arholiad.

    Yn bersonol, dyw hi ddim yn teimlo bod cyfnod y pandemig wedi effeithio ar ei haddysg yn ormodol.

    "Ro'n i'n mwynhau'n gweithio'n annibynnol ac ar-lein a dysgu ar ben fy hun, ond dwi wedi sylwi bod llawer o'n ffrindiau i wedi stryglo cadw'r meddylfryd o weithio adre a gwneud yn si诺r bo' nhw'n codi yn y bore i weithio", meddai.

  13. Bore da a chroeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023

    Mae'n fore canlyniadau TGAU a miloedd o ddisgyblion ar bigau'r drain.

    Agor canlyniadau y llyneddFfynhonnell y llun, Getty Images

    Wythnos yn 么l, fe ddangosodd canlyniadau Safon Uwch Cymru fod nifer y graddau uchaf yn is na'r llynedd ond yn uwch na chyn y pandemig.

    Patrwm tebyg sydd i'w ddisgwyl gyda'r canlyniadau TGAU heddiw.

    Dilynwch y cyfan - y straeon, lluniau a fideos - o bob cwr o Gymru yma ar ein llif byw.