大象传媒

Crynodeb

  1. Diolch yn fawr iawn am ddilynwedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dyna'r cyfan gan d卯m Cymru Fyw ar faes gwlyb yr Eisteddfod ym Mhontypridd am heddiw.

    Mae mwy o straeon, uchafbwyntiau cystadlu ac oriel luniau ar gael yma.

    Bydd y cystadlu yn parhau heno felly cofiwch am ein tudalen sy'n rhoi'r holl ganlyniadau i chi.

    Dewch yn 么l yfory i ddilyn y diweddaraf o'r Maes unwaith eto.

    Hwyl am y tro.

    Eisteddfod
  2. 'S诺n Llwyfan y Maes yn tarfu ar y Pafiliwn'wedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Sawl arweinydd wedi dweud nad yw'r corau yn cael amodau teg i gystadlu yn sgil s诺n o Lwyfan y Maes.

  3. Llongyfarchiadau i enillwyr ysgoloriaeth Dan a Lona Puwwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Cafodd enillwyr ysgoloriaeth Dan a Lona Puw eu cyhoeddi yn y T欧 Gwerin yn gynharach heddiw.

    Bydd yr ysgoloriaeth yn helpu'r unigolion i fynychu cwrs gosod a chyfeilio cerdd dant fis Medi.

    Llongyfarchiadau i Eiriana Campbell-Jones, Siriol Elin, Gwenan Mars-Lloyd ac Alwena Mair Owen.

    Disgrifiad,

    Cyhoeddi ennillwyr ysgoloriaeth Dan a Lona Puw

  4. Yr anthem dan dowedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Nid yw'r glaw wedi effeithio ar ysbryd y c么r yma.

    Dyma floeddio'r anthem genedlaethol wrth fochel rhag y glaw.

  5. Enillydd cystadleuaeth Maes D ar y brif lwyfanwedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Cafodd Ian Thomas ei ddewis i berfformio ar lwyfan y pafiliwn heddiw ar 么l ei berfformiad ym Maes D.

    Swynodd y gynulleidfa drwy ganu C芒n Walter gan Meic Stevens.

    Ian Thomas
  6. Newidiadau i amserlen Llwyfan y Maeswedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Ydi artistiaid nos Iau dal i berfformio heno?

    Dyma gohebydd 大象传媒 Cymru Fyw, Annell Dyfri i esbonio鈥檙 cwbwl.

    Disgrifiad,

    Annell Dyfri sydd yn trafod newidiadau i Lwyfan y Maes

  7. Seibiant o'r glawwedi ei gyhoeddi 16:19 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    O'r diwedd, mae'r glaw wedi stopio am y tro, felly'r cyfle perffaith i ymweld 芒'r Pentref Bwyd.

    Pentref Bwyd
  8. Y cyhoeddiad ddaeth am atal y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dyma'r cyhoeddiad oddi ar y llwyfan gan yr arweinydd, Arwyn Jones fod seremoni'r Fedal Ddrama wedi cael ei chanslo ac na fydd neb yn derbyn y fedal eleni.

    Disgrifiad,

    Arwyn Jones yn cyhoeddi datganiad y Steddfod o'r llwyfan am 16:00

  9. Beth yw cystadleuaeth y Fedal Ddrama?wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Roedd disgwyl mai seremoni y Fedal Ddrama fyddai prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.

    Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

    Gwobrwyir drama sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

    Y beirniaid oedd Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch.

    Cai Llewelyn Evans oedd enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Cai Llewelyn Evans oedd enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023

  10. Yr Eisteddfod i 'adolygu prosesau' yn sgil penderfyniad y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad: "Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar 么l cwblhau鈥檙 broses o feirniadu鈥檙 Fedal Ddrama, daethpwyd i鈥檙 penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni.

    "Yn ogystal, ni fydd beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.

    "Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."

    Y Fedal Ddrama
  11. Atal cystadleuaeth y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst
    Newydd dorri

    Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi na fydd seremoni鈥檙 Fedal Ddrama鈥檔 cael ei chynnal heddiw.

  12. Ail-drefnu perfformiadau Llwyfan y Maeswedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae'n ymddangos oherwydd y tywydd gwlyb, na fydd unrhyw artist yn perfformio ar Lwyfan y Maes heno.

    Bydd Meinir Gwilym yn canu yn y Pafiliwn, tra bydd Eadyth yn symud ei pherfformiad hi i ddydd Sadwrn.

    Mae Ap yr Eisteddfod wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau.

    Meinir Gwilym
  13. 'Terfynu aelodaeth Huw Edwards o'r Eisteddfod'wedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Yn dilyn y cyhoeddiad fod Huw Edwards wedi'i ddiarddel o Orsedd Cymru, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod:

    "Yn dilyn pleidlais unfrydol yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod heddiw, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi penderfynu gweithredu Adran 4 (a) (iv) o'r cyfansoddiad i derfynu aelodaeth Huw Edwards o'r Eisteddfod ac yn sgil hynny, bydd hefyd yn cael ei ddiarddel o Orsedd Cymru."

    Darllenwch fwy ar y stori yma

    Huw Edwards
  14. Diarddel Huw Edwards o鈥檙 Orseddwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst
    Newydd dorri

    Mae Llys yr Eisteddfod wedi cyhoeddi fod Huw Edwards wedi'i ddiarddel o'r Orsedd.

    Mwy i ddilyn.

  15. 'Lle i gwyno am s诺n'wedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae rhai cystadleuwyr yn dweud ei bod hi'n yn "annheg" bod s诺n Llwyfan y Maes i'w glywed tu mewn i'r Pafiliwn.

    Dywedodd arweinydd C么r Glanaethwy, Cefin Roberts: "Mae'r rheolaeth o gael y tawelwch 'na wedi ei golli erbyn hyn.

    "Dyna'r farn gyffredinol gan bob un o'r arweinyddion, dydy o ddim yn rhywbeth personol.

    "Mae o wedi digwydd mwy eleni, felly mae 'na le i gwyno," meddai.

    Disgrifiad,

    Mae rhai yn dweud bod Llwyfan y Maes rhy agos i'r Pafiliwn eleni

  16. Paid 芒 Bod Ofn... cael panedwedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Rachael a Non o'r band Eden yn mwynhau paned ar y Maes ac yn mochel rhag y glaw mawr!

    Non a Rachael
  17. Pwll nofio newydd ar y maes?wedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Tra mae rhai yn cysgodi rhag y tywydd yn y pafiliwn a'r stondinau, tydi eraill ddim ofn gwlychu!

    Disgrifiad,

    Fideo- Alaw John

  18. Brwsio'r mwd!wedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae'r amser wedi dod i frwsho'r mwd allan o rai o'r stondinau wrth i'r glaw achosi trafferthion i rai.

    brwsio'r mwd
  19. Aelodaeth Huw Edwards - Dadansoddiad ein gohebydd, Aled Huwwedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae'r Orsedd wedi trosglwyddo'r mater i lys yr Eisteddfod "er mwyn bod yn deg i bawb".

    Ond mae'r ymadrodd "yn deg i bawb" wedi codi gwrychyn rhai yn barod.

    Mae un unigolyn ddioddefodd gamdriniaeth rywiol yn blentyn yn dweud ei fod yn anfodlon iawn 芒'r modd y mae'r Orsedd wedi trin 芒'r mater a bod y sefydliad yn becso mwy am eu hunan.

    Mae rheolau sefydlog yr Orsedd yn caniat谩u galw pwyllgor brys i ddelio 芒 materion o bwys ar frys, a chyfrifoldeb y llys yw diogelu enw da a gwerthoedd y Brifwyl.

    Roedd cyfarfod blynyddol y llys yn dechrau ar y Maes am 13:30.

  20. Mellt i gloi nos Iau Maes Bwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Yws Gwynedd wnaeth gloi noson gyntaf Maes B neithiwr, dyma pwy fydd yn perfformio heno:

    • Cyn Cwsg - 23:00
    • Lloyd, Dom a Don - 23:40
    • Pys Melyn - 00:10
    • Gwcci - 00:50
    • Mellt - 01:30
    MelltFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Mellt fydd yn cloi Maes B nos Iau