大象传媒

Crynodeb

  1. Beth sy'n digwydd draw yn y T欧 Gwerin heddiw?wedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    • Parti o ddawnswyr cymdeithasol (rownd gynderfynol) - 11:00
    • Stepio ar y pryd - 12:00
    • Tecwyn Ifan - 13:30
    • Gwilym Bowen Rhys - 14:45
    • Cystadleuaeth Tlws Sbardun - 15:45
    • Cymanfa gerdd dant - 16:30
    • Stomp werin - 17:00
    • Mari Mathias - 19:45
    • Steve Eaves a Rhai Pobl - 21:30
    T欧 GwerinFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  2. Lliwgar yn y glaw!wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae Martha, Gwyn ag Aneira o Gaerdydd yn edrych yn lliwgar iawn er gwaetha'r glaw.

    Ond mae'r tywydd gwlyb yn gwneud i Gwyn deimlo "bach yn ddigalon鈥, meddai.

    Martha, Gwyn ac Aneira
  3. Dechrau edrych tuag at Wrecsam 2025wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Yn ystod y gynhadledd i'r wasg ar y Maes y bore 'ma, dywedodd Pennaeth cyfathrebu yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwenllian Carr fod 鈥渉anner ein pennau yn edrych tuag at Wrecsam鈥.

    Ond wrth s么n am y gwaddol y mae鈥檙 Eisteddfod am adael ym Mhontypridd, nododd mai 鈥渄echrau mae鈥檙 gwaith mewn gwirionedd i adeiladu ar hyn".

  4. 'Nid rhywbeth ar gyfer wythnos yr Eisteddfod yn unig yw gwirfoddoli'wedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Wrth ddiolch i'r holl wirfoddolwyr ar y Maes yr wythnos hon, dywedodd Morus Griffith, cydlynydd gwirfoddoli'r Eisteddfod fod yr ymateb gan fro鈥檙 Eisteddfod wedi bod yn 鈥渨ych鈥.

    Dywedodd fod nifer o bobl di-Gymraeg wedi gwirfoddoli ac mae鈥檔 鈥済obeithio nad dyma fydd diwedd y daith gwirfoddoli鈥 iddyn nhw.

    Gan edrych ymlaen at y cyfnod wedi i鈥檙 Eisteddfod ddarfod, dywedodd ei fod am weithio gyda鈥檙 mudiadau trydydd sector gan obeithio y bydd y 鈥渂yddin o wirfoddolwyr yn parhau i ddefnyddio鈥檜 Cymraeg鈥.

    Ychwanegodd nad rhywbeth ar gyfer wythnos yr Eisteddfod yn unig yw gwirfoddoli a鈥檌 neges yw i bobl yr ardal i ddefnyddio 鈥渉ynny o Gymraeg sydd gyda chi ac i fod yn falch ac yn hyderus鈥.

    Gwenllian Carr a Morus Griffith
  5. Datrys y dirgelwch!wedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Rydym yn credu ein bod ni bellach yn deall pam fod y Maes yn edrych mor dawel y bore 'ma... mae pawb yn cysgodi yn y Lolfa Goffi!

    Lolfa Goffi
  6. Digon tawel ar y Maes ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Gyda'r glaw yn disgyn mae'r Maes yn dawelach na'r arfer y bore 'ma.

    Ond o leiaf bod yna ddigonedd o goed o gwmpas y parc fel bod modd i bobl gysgodi!

    Maes
    Maes
    Mochel dan goeden
  7. Beth sydd i ddod ar Lwyfan y Pafiliwn?wedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    arwydd y pafiliwnFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Diwrnod prysur arall o gystadlu ar y ffordd, dyma sy'n digwydd draw yn y Pafiliwn heddiw:

    • Unawd Gymraeg | Hen Ganiadau - 10:30
    • Stori ar fideo - 10:45
    • Deuawd, triawd neu bedwarawd stepio - 10:55
    • Gwobr goffa Osborne Roberts - 11:15
    • Llefaru o鈥檙 Ysgrythur: agored - 11:50
    • Canu emyn | c芒n o fawl - 12:05
    • Seremoni鈥檙 Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg - 12:30
    • C么r lleisiau soprano | alto - 12:45
    • C么r dysgwyr - 14:20
    • Eitem orau o gystadlu Maes D - 15:25
    • Seremoni鈥檙 Fedal Ddrama - 16:00
    • Parti o ddawnswyr cymdeithasol - 17:00
    • Tlws coffa Lois Blake - 17:10
    • Parti alaw werin - 18:15
    • Parti cerdd dant agored - 18:50
    • Dawns stepio i gr诺p - 19:20 TwmpDaith - 21:00
  8. Nofwyr mentrus!wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Er gwaetha'r glaw ym Mhontypridd y bore 'ma, mae 'na ambell i nofiwr dewr wedi mentro i'r d诺r yn y Lido ym Mharc Ynysangharad!

    NOFWYR
  9. Dr Rhodri Jones yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dr Rhodri JonesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Mae Dr Rhodri Jones yn derbyn y fedal am ei waith gyda'r Gwrthdarwr Hadron Mawr

    Bydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chyflwyno i Dr Rhodri Jones.

    Mae'n derbyn y fedal am ei waith gyda'r Gwrthdarwr Hadron Mawr, peiriant 17 milltir o hyd sy'n pontio'r ffin rhwng Ffrainc a'r Swistir.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Bydd Dr Rhodri Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn am 12:30.

  10. Rhywfaint o dd诺r dan draed ar y Maes y bore 'mawedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    y maes
    glaw ar y maes
    glaw ar y maes
  11. Prif seremoni dydd Iau - Y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Y Fedal ddramaFfynhonnell y llun, bbc

    Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.

    Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

    Y beirniaid eleni oedd Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch.

    Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.

    Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, a 拢750 yn rhoddedig gan deuluoedd Megan Tudur, Rheinallt Llwyd a Manon Rhys er cof am Mair a James Kitchener Davies, eu merch Mari a'u h诺yr Mei.

    Gwobrwyir drama sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

    Os bydd teilyngdod cyflwynir rhan o'r gwaith buddugol yn y seremoni gyda chefnogaeth Cronfa Goffa J O Roberts.

  12. Sut mae cyrraedd y Maes?wedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Ydych chi'n ymweld 芒'r Eisteddfod am y tro cyntaf heddiw, neu dros y penwythnos?

    Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i gyrraedd y Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i barcio, os yn gyrru, yn y meysydd parcio a theithio penodol.

    Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, medd y trefnwyr, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol.

    Mae anogaeth hefyd i bobl drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

    Mae'r holl fanylion ar sut i gyrraedd y Maes ar gael yma.

    map o ardal yr eisteddfod
  13. Llongyfarchiadau Eurgain Haf!wedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Eurgain Haf

    Eurgain Haf oedd enillydd y Fedal Ryddiaith eleni - y brif seremoni ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn ddoe.

    Daw yn wreiddiol o Benisarwaun yng Ngwynedd, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym mro'r Eisteddfod ym Mhontypridd.

    Daeth Eurgain, dan y ffugenw Manaia, i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 14 o ymgeiswyr.

    Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Newid.

    Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma.

  14. Mynd i'r Maes heddiw? Well i chi bacio c么t law...wedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dydy'r rhagolygon tywydd ddim yn edrych yn wych yn ardal Pontypridd heddiw.

    Os yn mentro draw i Barc Ynysangharad, efallai ei bod hi'n syniad i chi fynd 芒 ch么t ag ymbar茅l efo chi!

    rhagolygon tywydd
  15. Croeso i ddydd Iau yr Eisteddfod!wedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Bore da a chroeso n么l i'n llif byw o Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf!

    Seremoni'r Fedal Ddrama fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn heddiw, a bydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn cael ei chyflwyno amser cinio.

    Fel yr arfer, mae digon o bethau eraill yn digwydd draw ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd hefyd, felly arhoswch gyda ni am y diweddaraf o'r Maes drwy gydol y dydd.

    cerddwyr ar eu ffordd i'r eisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol