Ateb y Galw: Catrin Angharad

Ffynhonnell y llun, Wikipedia

Mae Catrin Angharad yn gerddor, arweinydd corawl, tiwtor cerdd, cyflwynydd radio a nawr yn awdur llyfrau plant.

Ar drothwy Calan Gaeaf, mae Catrin newydd ryddhau ei llyfr gyntaf i blant, sef Ysgol Arswyd.

Mae Catrin yn arweinydd dau gôr sef Harmoni a Hogiau Llanbobman a hi yw sylfaenydd y dudalen Côr-ona! ar Facebook a ddaeth yn boblogaidd yn ystod y pandemig. Mae gan y dudalen dros 45,000 o ddilynwyr erbyn hyn.

Dyma ddod i adnabod Catrin ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Rhedeg rownd Neuadd Goronwy Owen yn y cylch meithrin.

Mi roeddwn i’n beth bach wyllt ag yn styfnig fel mul!

Dwi’n cofio mynd ar y ceir bach, a rhoi hwyth i blant eraill oddi arnyn nhw os oeddwn i’n ffansio rhyw gar neu’i gilydd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ydi’n rhy ddiflas i mi ddweud adra? Dyna’r gwir.

Faswn i’n ddigon hapus i dreulio bob diwrnod yn Ynys Môn ac yn Llanbedrgoch yn enwedig, y pentref y magwyd fi.

Mae fy nghalon i yma a ngwreidda i’n ddyfn - yn rhy ddyfn falla’!

Ffynhonnell y llun, Catrin Angharad

Disgrifiad o'r llun, Hogia Llanbobman a Catrin yn Stadiwm y Principality

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae yna sawl un! Cwmni a chwerthin sy’n gwneud noson dda i mi, a fel arfer mae yna ganu’n rwla hefyd!

Wedi cael sawl noson lle mae’r tri pheth wedi dod law yn llaw.

Sawl noson mewn Eisteddfodau pan yn fy ugeiniau yn dod i’r cof, dathliadau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, cyngherddau mawr, sawl priodas a nosweithiau mewn tafarndai rif y gwlith yn codi canu hefyd wedi aros yn y cof.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Corwynt. Direidus. Sentimental.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

'Nai fyth anghofio cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.

Ro’n i’n un o’r cyfarwyddwyr cerdd a wedi bod yn hyfforddi côr yr Eisteddfod. Gawson ni berfformio’r sioe A Oes Heddwch? oedd yn nodi can mlynedd ers Eisteddfod y gadair ddu.

Roedd hi’n wefr bod yn y pafiliwn y noson honno ac roedd cymaint o fy nheulu a fy ffrindiau ar y llwyfan yn perfformio, yn y gynulleidfa’n gwrando a Bleddyn fy mab hynaf yn fy mol i’n troi a throsi a chicio fel mul i sŵn y gerddorfa a’r côr.

Un o’r pethau gorau i mi gael y fraint o fod yn rhan ohono ac alla i ond gwenu a hiraethu rhywsut wrth edrych yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod

Disgrifiad o'r llun, Mae Catrin yn cynnwys cyngerdd agoriadol 'A Oes Heddwch' cyn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 yn uchafbwynt iddi.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Oooo mae ‘na LWYTH o’r rhain - fi ydy’r Bridget Jones a’r Vicar of Dibley Cymraeg i gyd mewn un!

Dydw i ‘rioed wedi teimlo rhyw lawer o gywilydd am bethau.

Mae cymaint o achosion i mi wneud ffŵl ohona fi fy hun dros y blynyddoedd nes bod dim byd bron yn codi cywilydd arna’i bellach.

Dwi wedi hen dderbyn mod i’n ddisasdyr ar ddwy goes!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Heddiw! Dwi’n ofnadwy! Fe ddaru’r mab basio ton 4 yn nofio a mi oedd o’n byrstio efo balchder ar y ffordd adra yn y car… roedd gennai lwmp yn fy ngwddw a deigryn bach - pathetig!

Dagrau balchder yn aml dwi’n eu cael a rhyw euphoria fel arfer sy’n dod drosta’i pan dwi’n sylweddol mor eithriadol o lwcus ydw i o rywbeth neu’i gilydd.

Ers cael plant dwi di mynd yn sobor o emosiynol! Hormons falla?

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

TOMAN! Dwi’n ddi-drefn, yn hwyr i lefydd, yn mynd i fy ngwely’n hwyr, byth yn gwisgo pâr cywir o sana’, yn cymryd wythnosau i wagio a chadw cês dillad ar ôl bod ar wyliau.

Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Ffynhonnell y llun, Catrin Angharad

Disgrifiad o'r llun, Plant Catrin yn mwynhau chwarae yn yr ardd

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Dydw i ddim yn yfed felly byddai’n rhaid iddo fod yn ddiod o lime and soda. Luciano Pavarotti - geith o ganu tra dwi’n yfed plis?

Hyd yn oed gwell, geith o ganu deuawd efo Maria Callas tra dwi’n yfed?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ro’n i’n arfer dawnsio tap, ballet, modern a jazz.

Saff dweud nad ydw i bellach!

Disgrifiad o'r llun, Mi fase Catrin wrth ei bodd yn cael diod o leim a soda gyda'r diweddar Luciano Pavarotti

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mae’n dibynnu. I le dwi’n mynd? Ydw i’n gwybod bod hi’n ddiwrnod olaf arna i? Dim ond fi sy’n mynd? Ydw i’n gor-feddwl hyn?

Bargeinio i gael aros - dyna faswn i’n wneud.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y llun cyntaf o’r tri dyn pwysicaf yn fy mywyd i - Rhys y gŵr, Bleddyn a Myfyr yn fabi.

Dwi’n cofio meddwl pa mor ofnadwy o lwcus oeddwn i.

Dwi hefyd yn cofio meddwl (ar ôl dau o blant a dau caesarean), fod y siop 'di cau, ffwl sdop!

Ffynhonnell y llun, Catrin Angharad

Disgrifiad o'r llun, Dyma lun pwysicaf Catrin, sef llun o Rhys ei gŵr, a'i meibion Bleddyn a Myfyr

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Usain Bolt - faswn i’n licio gwybod sut deimlad ydy bod yn ffit, yn gyflym, yn dal, yn gryf, yn ddyn, yn olygus, yn ariannog, ddim yn Gymro ac yn bencampwr byd.

Yr holl bethau nad ydw i ddim!