Dim ymchwiliad ffurfiol cyn diswyddo Hannah Blythyn

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ms Blythyn wedi bod yn weinidog partneriaeth gymdeithasol

Ni chynhaliodd Llywodraeth Cymru ymchwiliad ffurfiol i sut yr aeth negeseuon testun dadleuol i鈥檙 cyfryngau cyn i Hannah Blythyn gael ei diswyddo am eu rhyddhau yn honedig, meddai uwch swyddog.

Mae Ms Blythyn wedi gwadu rhyddhau negeseuon dadleuol yn dangos Vaughan Gething yn dweud wrth weinidogion eraill ei fod yn dileu negeseuon testun o sgwrs gr诺p.

Dywedodd Plaid Cymru ei bod yn "gynyddol glir" bod gweithredoedd y prif weinidog wrth ei diswyddo yn dangos "diffyg tryloywder".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cael "cyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol mewn perthynas ag ymdrin 芒 thorri cod y gweinidogion, ac roedd yr holl gamau a gymerwyd gan y prif weinidog yn unol 芒鈥檙 cod a llawlyfr Cabinet y Llywodraeth.鈥

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: 鈥淢ae鈥檙 methiant i ddarparu tystiolaeth pam y cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo yn un o鈥檙 rhesymau pam mae llywodraeth Lafur Cymru wedi鈥檌 pharlysu ac yn methu 芒 chanolbwyntio ar flaenoriaethau鈥檙 bobl.鈥

Gwrthod cyhoeddi'r dystiolaeth

Dywedodd Mr Gething ym mis Mai nad oedd ganddo "ddim dewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y llywodraeth" ar 么l adolygiad o'r "dystiolaeth sydd ar gael i mi".

Mae'r gwrthbleidiau wedi mynnu bod y dystiolaeth yn cael ei chyhoeddi - mae Mr Gething wedi gwrthod.

Mae llywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill yn aml yn cynnal ymholiadau i geisio darganfod sut mae gwybodaeth gyfrinachol wedi cael ei rhyddhau i'r wasg.

Roedd Ms Blythyn wedi bod yn weinidog partneriaeth gymdeithasol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi "gweithredu yn unol 芒 chod y gweinidogion"

Mewn llythyr at bwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddu'r Senedd, cadarnhaodd y cyfarwyddwr moeseg David Richards "nad oes ymchwiliad i ollyngiadau wedi'i gomisiynu na'i gynnal gan Lywodraeth Cymru".

Dywedodd fod Mr Gething wedi ceisio cyngor "ac wedi'i ddarparu mewn perthynas 芒'r broses o ymdrin 芒 thorri cod y gweinidogion".

Y cod yw'r set o reolau y mae disgwyl i weinidogion gadw atynt.

Ym mis Mai dywedodd Mr Gething ei fod wedi "gweithredu yn unol 芒 chod y gweinidogion" a'i fod wedi ceisio cyngor gan yr ysgrifennydd parhaol, y gwas sifil uchaf yn y llywodraeth.

Achosodd rhyddhau'r negeseuon ffrae ar y pryd, a chododd gwleidyddion yr wrthblaid gwestiynau a oedd Mr Gething wedi camarwain yr Ymchwiliad Covid.

Roedd yn dangos i Mr Gething ddweud wrth weinidogion: 鈥淩wy鈥檔 dileu鈥檙 negeseuon yn y gr诺p hwn.

"Gallant gael eu dal mewn [cais ] Rhyddid Gwybodaeth a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy'n cael ei wneud."

Galw am 'ymchwiliad annibynnol'

Gwadodd yn ddiweddarach ei fod wedi dileu negeseuon "sy'n ymwneud 芒 gwneud penderfyniadau", ac awgrymodd fod y neges yn ymwneud 芒 sylwadau gweinidogion am gydweithwyr, a sicrhau "nad ydym yn darparu pethau a allai fod yn embaras".

Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru: 鈥淢ae diswyddo gweinidog yn fater difrifol. Yn achos Hannah Blythyn mae鈥檔 gynyddol amlwg bod diffyg tryloywder yng ngweithredoedd y prif weinidog ac na roddwyd y mesurau diogelu arferol ar gyfer cyfiawnder naturiol i鈥檙 cyn weinidog.

鈥淗eb unrhyw ymchwiliad ffurfiol i ollyngiadau ac yn absenoldeb ymchwiliad annibynnol o dan god y Gweinidogion, mae鈥檔 rhaid i ni ofyn ar ba dystiolaeth ac ar gyngor pwy oedd y prif weinidog yn gweithredu?鈥

Dywedodd Mr Price fod y cyn-brif weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi ymchwiliad i Dawn Bowden o dan y cod gweinidogol.

Galwodd am "ymchwiliad annibynnol", dan oruchwyliaeth yr ysgrifennydd parhaol, i benderfynu a oedd y prif weinidog "wedi gweithredu gyda'r diwydrwydd dyladwy gofynnol".

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth feirniadu'r prif weinidog am awgrymu mai newyddiadurwyr sydd ar fai am ei drafferthion

Yn ystod y sesiwn fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth feirniadu Mr Gething am awgrymu mai newyddiadurwyr sydd ar fai am y ffrae dros y rhoddion a dderbyniodd ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y prif weinidog ei fod yn difaru 鈥測 ffordd y mae鈥檙 tri mis diwethaf wedi cael ei adrodd yn y wasg鈥.

Fe wnaeth Mr ap Iorwerth, sy鈥檔 gyn-ohebydd gwleidyddol, amddiffyn newyddiadurwyr, gan ddweud mai crebwyll Mr Gething oedd yn cael ei 鈥済westiynu dro ar 么l tro鈥 gan y gwrthbleidiau.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Teleri Glyn Jones

Pob wythnos, mae鈥檔 ddisgwyliedig bod pob gohebydd gwleidyddol yng Nghymru yn gwylio Cwestiynau i鈥檙 Prif Weinidog yn y Senedd.

O Alun Michael, i Rhodri Morgan, wedyn Carwyn Jones a Mark Drakeford, yn aml mi fyddai 'na bwt o stori newyddion yn codi o鈥檙 ddadl yn y Siambr - a bob hyn a hyn roedd cyn lleied yn digwydd roedd yn rhaid i ni grafu鈥檔 pennau yn gofyn, 鈥渂e 鈥榙i鈥檙 lein?鈥.

Ond ers i Vaughan Gething ddod yn brif weinidog, mae pob sesiwn cwestiynau wedi bod yn destun estyn am y popcorn!

Y ffrae yngl欧n 芒鈥檙 rhodd o 拢200,000 i鈥檞 ymgyrch arweinyddol gan gwmni sydd wedi ei erlyn am dorri rheolau amgylcheddol sydd wrth wraidd y dadlau gwleidyddol a鈥檙 sylw cyfryngau sy鈥檔 dilyn.

A heddiw hefyd, y sesiwn cwestiynu cyntaf ers iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos diwethaf - y ffrae dros ei grebwyll oedd y pwnc llosg.

Pwnc llosg a dadl danllyd, a tydi hi ddim yn edrych yn debyg bod y t芒n yna鈥檔 tawelu.