大象传媒

'Mynd i'r afael 芒'r her o fyw bywyd yn foel'

Disgrifiad,

Dywedodd Elinor Williams fod colli ei gwallt yn llwyr ar 么l rhoi genedigaeth yn "brofiad ysgytwol"

  • Cyhoeddwyd

Mae modd dysgu byw gydag alopesia a gwneud y gorau o bethau wedi'r sioc gychwynnol o wybod bod gennych chi'r cyflwr, medd rhai sydd wedi rhannu eu profiadau gyda 大象传媒 Cymru.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth y corff iechyd NICE (National Institute for Clinical Excellence) gymeradwyo'r driniaeth gyntaf ar y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer cleifion sy'n colli eu gwallt oherwydd alopesia.

Fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai cyffur Ritlecitinib neu Litfulo ar gael yng Nghymru, ond dydy bob bwrdd iechyd ddim yn ei ragnodi eto.

Yn 么l un bwrdd iechyd, mae'r galw am driniaeth wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae'r rhestr aros ar hyn o bryd yn 42 wythnos.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

15 oed oedd Elinor Williams pan ddechreuodd hi golli ei gwallt

Fe wnaeth Elinor Williams gychwyn colli ei gwallt pan oedd ond yn 15 oed.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd iddi ddarganfod "patches moel o wallt ar ym mhen pan o'n i'n 15 oed yn yr ysgol uwchradd, ac ers ni fi 'di byw 37 mlynedd gyda'r cyflwr".

Er iddi allu rheoli'r cyflwr tra yr oedd yn yr ysgol, dywedodd i'r cyflwr "waethygu nes bod e i gyd yn cwympo mas mewn mater o wythnosau" yn fuan wedi iddi roi genedigaeth i'w merch.

Fe ddisgrifiodd y profiad fel un "erchyll" a'i fod wedi cael "effaith ysgytwol" ar ei hunan hyder.

A hithau wedi penderfynu peidio gwisgo wig, dywedodd iddi "fynd i'r afael 芒'r her o fyw bywyd yn foel" gan ddweud ei bod yn "falch" o'r penderfyniad hynny, gan "ailsefydlu" ei hun.

Er iddi ddisgrifio'r daith fel un "eithaf hir" wrth orfod "cyfarwyddo gweld rhywun newydd yn y drych" dywedodd: "Alla i ddim dweud 'mod i'n dioddef gyda fe [alopesia], dwi'n byw gyda fe."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd byw gyda'r cyflwr yn anodd i ddechrau i Poppie Davies, ond mae hi bellach yn ddigon hyderus fel ei bod wedi "dysgu i feddiannu'r peth"

16 oed oedd Poppie Davies o Gaerdydd pan welodd driniwr gwallt ran foel ar ei phen.

A hithau bellach yn 21, dywedodd bod y cyflwr wedi "cynyddu fel caseg eira" gan "newid byd" a chwalu ei hunan-hyder, nes na allai hi edrych ar ei hun mewn drych.

"Ro'n i'n teimlo bod rhaid cuddio'r peth pan ro'n i yn yr ysgol," dywedodd, wrth ddisgrifio'r straen o geisio cadw'r cyflwr yn gyfrinach.

"Yn fy mhen i, do'n i ddim am i neb wybod. Roedd gwisgo wig yn feichus. Roedd yn eithaf ynysig.

"Byddwn i hyd yn oed yn gwisgo wig yn yr ardd, rhag ofn i fy nghymdogion fy ngweld."

Penderfynodd Poppie bod dechrau yn y brifysgol yn gyfle da i fyw gydag alopesia mewn ffordd fwy positif, ac roedd y ffrindiau a wnaeth yno yn eithriadol o gefnogol.

"Mae wedi bod yn bum mlynedd hir, ond rwy' wedi dysgu i feddiannu'r peth," dywedodd wrth raglen Wales Live.

"Os nad ydw i eisiau gwisgo wig, dydw i ddim. Os rwy' eisiau gwisgo wig a'i steilio - mae hynny'n hwyl hefyd."

Dywedodd bod yna "gymuned anhygoel" o bobl, ar-lein ac yn y cnawd, a thrwy gysylltu gyda gr诺p cefnogaeth lleol fe lwyddodd i adennill hyder.

"Nawr rwy'n edrych ar y pethau positif - a sut galla' i helpu pobl eraill."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni fyddai Ben Lowery yn dymuno cael ei wallt yn 么l erbyn hyn, pe bai'r dewis ganddo

Yn 2012 fe gollodd Ben Lowrey, 40, o Rondda Cynon Taf, ei wallt i gyd o fewn ychydig fisoedd.

Fe ymatebodd trwy ganolbwyntio ar ei ffitrwydd - a chael gwaith fel model noeth.

"Do'n i methu rheoli fy ngwallt, ond ro'n i yn achos fy ffitrwydd," dywedodd.

"Nes i ddim profi llawer o negatifrwydd - sylw positif yn hytrach am fod mor heini."

Ymunodd ag asiantaeth gan weithio fel bwtler noeth a model mewn dosbarthiadau darlunio yn ystod digwyddiadau fel part茂on plu.

"Fe ddes i'n fwy hyderus," dywedodd. "Roedd mwy iddo na jest bod yn noeth - ro'n i'n cymryd rheolaeth o'r ystafell, siarad gyda grwpiau o bobl a bod yn rhan o'u digwyddiadau arbennig."

Mae'n dweud pe tasai ganddo'r dewis, ni fyddai'n dewis cael ei wallt yn 么l.

"Mae alopesia wedi fy ngorfodi i fod yn hyderus mewn ffyrdd eraill - i ganolbwyntio ar fy ngwerthoedd, nodau ac egwyddorion."

Ffynhonnell y llun, Ryan Rush
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gweld poster gyda model ag alopesia yn agoriad llygad i Ryan Rush

Pedair oed oedd Ryan Rush pan ddatblygodd foelni am y tro cyntaf yn ei wallt, ac fe ddatblygodd y cyflwr nes ei fod yn 10.

Yn 么l Ryan, sy'n 22 ac yn byw yng Nghaerffili, roedd colli ei aeliau yn waeth "oherwydd mae'n haws i'w weld ac yn anoddach i'w guddio".

Roedd yn destun ambell sylw negyddol yn yr ysgol uwchradd.

"Bwlio geiriol oedd e yn bennaf, ond yn gyffredinol, doedd e ddim yn rhy ddrwg. Rwy'n meddwl bod wnelo'r sylw fwy 芒 chwilfrydedd."

Ni ddaeth ar draws unrhyw un arall ag alopesia nes iddo fynd ar wyliau yn ei arddegau, ond y llynedd fe welodd delwedd o fodel 芒'r cyflwr, Adam Rhazali, ar boster yng Nghaerdydd.

"Roedd yn syfrdanol, jest i weld rhywun fel fi mor amlwg," meddai.

"'Naeth e wneud i mi deimlo'n falch, hyderus a mwy cyfforddus."

Beth yw alopesia?

  • Alopesia yw'r term meddygol cyffredinol am golli gwallt;

  • Gall fod yn etifeddol neu gael ei achosi trwy ffactorau fel straen;

  • Yn nodweddiadol mae'n gyflwr hunanim铆wn, ble mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar ffoliglau'r gwallt;

  • Gall effeithio ar wallt y corff cyfan;

  • Mae rhai mathau o alopesia yn fyrdymor tra gall mathau eraill fod yn barhaol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Manju Kalaval wedi gweld "cynnydd anferth" mewn galw gan gleifion sydd wedi colli eu gwallt

Roedd cyhoeddiad mis Chwefror bod Ritlecitinib neu Litfulo ar gael i gleifion y GIG yn "newyddion da", medd Dr Manju Kalaval, meddyg ymgynghorol a chyfarwyddwr clinigol dermatoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Mae wedi gweld "cynnydd anferth" mewn galw gan gleifion sydd wedi colli eu gwallt, ond roedd yna restr aros hyd at ddwy flynedd wedi'r pandemig.

"Fe weithion ni'n galed a llwyddo i'w leihau," meddai.

"Ar hyn o bryd, tua 42 wythnos yw'r amser aros [ond] rydym yn cydnabod na allen ni gadw cleifion yn aros mor hir 芒 hynny."

Dywed Dr Kalavala bod cynlluniau prawf Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cael eu mabwysiadu ar draws Cymru erbyn hyn er mwyn sicrhau help i gleifion mor fuan 芒 phosib.

Mae technoleg teledermatoleg, meddai, yn caniat谩u i feddygon teulu gyfeirio claf gyda llun yn amlygu cyflwr yr unigolyn.

"Rydym yn ateb o fewn ychydig ddyddiau ac yn gallu gofyn am brofion a chynnig cyngor sy'n helpu cyflymu'r broses tra'u bod yn aros i'n gweld."