Penodi Comisiynydd Pobl H欧n newydd Cymru

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ms Bowen-Davies ei bod yn "fraint ac anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl H欧n Cymru"

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Rhian Bowen-Davies fel Comisiynydd Pobl H欧n newydd Cymru.

Fe fydd hi'n cymryd lle Hel茅na Herklots, sydd wedi bod yn y r么l ers 2018, pan ddaw ei chyfnod fel comisiynydd i ben ym mis Medi.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Pobl H欧n, a hynny yn 2008.

Mae gan y comisiynydd bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl h欧n.

Dywedodd y llywodraeth fod Ms Bowen-Davies yn "cael ei chydnabod fel cadeirydd arbenigol Adolygiadau Lladdiadau Domestig, sy'n cynnwys pobl h欧n, a hi oedd Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol".

'Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth'

Dywedodd Ms Bowen-Davies ei bod yn "fraint ac anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl H欧n Cymru".

鈥淕an weithio gyda phobl h欧n ac ar eu rhan, rwy'n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb," meddai.

鈥淕yda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu'r weledigaeth i wneud Cymru'n wlad oed-gyfeillgar.鈥

Ychwanegodd y Prif Weinidog Vaughan Gething y bydd y comisiynydd newydd yn "dod 芒 phrofiad helaeth o lunio polisi a sbarduno gwelliannau i fod yn eiriolwr cryf dros bobl h欧n".

鈥淗offwn ddiolch hefyd i Hel茅na Herklots, y gwnaeth ei gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig, alluogi lleisiau rhai o'r bobl sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar bolisi er gwell.鈥