大象传媒

Pledio'n euog wedi i fuwch sathru dyn yn Sir G芒r

Huw EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Huw Evans yn Ysbyty Athrofaol Cymru chwe diwrnod wedi'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr cwmni annibynnol wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth dyn a gafodd ei sathru gan fuwch yn Sir Gaerfyrddin.

Fe blediodd David Arwel Thomas o J.J. Morris - sy'n gyfrifol am farchnadoedd Hendy-gwyn ar Daf a Chrymych - yn euog i fethu 芒 sicrhau iechyd, diogelwch a lles aelod o staff mewn digwyddiad ym marchnad Hendy-gwyn ar Daf ym mis Tachwedd 2022.

Fe wnaeth Thomas hefyd bledio'n euog i fethu 芒 sicrhau iechyd, diogelwch a lles aelod o'r cyhoedd.

Bu farw Huw Evans, 75, ar 么l iddo gael ei sathru gan fuwch oedd wedi dianc o farchnad ar 19 Tachwedd 2022.

Ers y digwyddiad mae Mart Hendy-gwyn, sy'n farchnad da byw, wedi gosod grid gwartheg yn dilyn gorchymyn gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE).

Roedd Huw Evans, cyn-weithiwr cyngor, yn croesi'r ffordd yn Hendy-gwyn ar Daf ar 19 Tachwedd 2022 pan wynebodd fuwch a oedd "wedi cynhyrfu'n fawr".

Fe wnaeth y fuwch, brid Limousin brown naw oed, ddianc wrth gael ei dadlwytho o drelar yn y farchnad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i David Arwel Thomas gael ei ddedfrydu ar 20 Mehefin

Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth fod sawl unigolyn wedi ceisio cael rheolaeth ar y fuwch cyn iddi gyrraedd man cyhoeddus.

Fe wnaeth aelod o staff ddioddef anaf i'w goes ar 么l iddo gael ei daro gan y fuwch, cyn i aelod o'r cyhoedd gael ei anafu yn ddifrifol y tu allan i archfarchnad gyfagos.

Cafodd Mr Evans, a gafodd ei ddisgrifio fel tad a thad-cu annwyl, ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r digwyddiad.

Bu farw yn yr ysbyty chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd y fuwch - oedd yn eiddo i Paula Wilson - ei difa gan yr heddlu.

Mae'r achos wedi ei ohirio tan 20 Mehefin, pan mae disgwyl i Thomas gael ei ddedfrydu mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli.

Pynciau cysylltiedig