Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llanberis 'yn rhemp' gyda cherddwyr yn ganol nos
- Awdur, Sion Tootill
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae trigolion sy鈥檔 byw ar ddechrau llwybr mwyaf prysur yr Wyddfa wedi dweud bod y nifer cynyddol o bobl sy鈥檔 penderfynu dringo鈥檙 mynydd yn oriau m芒n y bore wedi gwneud eu bywydau鈥檔 "ofnadwy".
Mae recordiad camer芒u cylch cyfyng o gynharach ym mis Mehefin yn dangos ymhell dros 100 o bobl yn cerdded ar hyd Rhes Victoria yn Llanberis am 01:30.
Yn y fideo, mae modd gweld nifer ohonyn nhw鈥檔 siarad yn uchel a fflachio eu tortshis tuag at rhai o dai鈥檙 trigolion.
Yn 么l rhai yn lleol mae aflonyddwch o鈥檙 fath yn dod yn fwy cyffredin, gan greu problemau fel diffyg cwsg, mwy o sbwriel a gwastraff dynol ar y stryd.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw鈥檔 annog ymwelwyr i drin pobl leol a鈥檜 cymunedau gyda pharch bob amser.
Yn 么l Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, maen nhw'n ymwybodol o鈥檙 sefyllfa ac yn ymrwymo i ddod o hyd i ddatrysiad.
Camera Christine Patton recordiodd y gr诺p diweddaraf, oedd yn cymryd rhan mewn taith gerdded elusennol.
Mae hi鈥檔 sicr bod y broblem wedi gwaethygu ers iddi symud o ganol Lanberis i fyw ar Res Fictoria tair blynedd yn 么l.
鈥淧an nes i symud yma i ddechrau, mi oedd yna broblemau weithiau ond nid fel mae hi nawr. Ma' hi 'di mynd yn rhemp yma, yn ormod," meddai
"Mae pobl yn dod o bobman a meddwl 'wn芒i ddringo鈥檙 Wyddfa i weld yr haul yn codi', ond dyw nhw ddim yn meddwl am y bobl sy鈥檔 byw ar y stryd yma.
"Dwi鈥檔 lwcus os ga鈥檌 ddwy neu dair awr o gwsg ar benwythnos yn ystod yr haf.鈥
'Pobl ddim yn dangos parch'
Yr un noson y cafodd hi ei deffro gan y gr诺p mawr o gerddwyr elusennol, recordiodd camera Christine ymwelydd arall yn pasio d诺r yn erbyn wal ei gardd ychydig funudau ar 么l parcio y tu allan i'w chartref yng nghanol nos.
鈥淒wi jyst yn teimlo ein bod ni鈥檔 cael ein sathru. Dyw pobl ddim yn dangos parch tuag atom ni o gwbl," meddai.
"Ac mae鈥檔 gallu bod yn beryglus yma hefyd, mae cymaint o geir yn dod ar hyd y lon yn gyflym wrth edrych am rywle i barcio a tydi hynny ddim yn ddiogel i blant bach.
"S'neb yn ein helpu ni ac mae angen help.鈥
Nid Christine yw鈥檙 unig un sy鈥檔 pryderu am y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr gyda鈥檙 nos.
Mae Mona Hallfeld wedi byw ar y stryd ers dros 40 mlynedd ac wedi sylwi fod pethau wedi gwaethygu鈥檔 sylweddol ers y pandemig.
鈥淢ae o fatha byd arall o鈥檌 gymharu 芒 phryd prynais i鈥檙 t欧 nol yn 1978. Yn enwedig ers Covid, mae 'di bod yn ofnadwy.
"'Da ni鈥檔 licio gweld y cerddwyr yn dod yma ond maen nhw鈥檔 anghofio dangos parch i ni hefyd. Maen nhw鈥檔 d诺ad ganol nos a jyst gweiddi a mwynhau heb feddwl.
"Fama ges i fy ngeni, felly i feddwl fy mod i鈥檔 gorfod symud o'ma i gael noson dda o gwsg, mae鈥檔 siom. Mae angen help arnom ni."
Llwybr Llanberis yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwe ffordd swyddogol sydd o ddringo鈥檙 Wyddfa.
Yn 2022 yn unig, fe gerddodd 234,469 o bobl ar hyd y llwybr yma.
Mae Alex a Jade o Ellesmere Port yn Sir Caer yn ddwy o鈥檙 rheiny sydd wedi defnyddio鈥檙 llwybr yr wythnos hon.
Dywedodd Jade: 鈥淵 rheswm am gerdded ar hyd llwybr Llanberis oedd ei fod e鈥檔 haws na llawer o鈥檙 llwybrau eraill, yn 么l beth dwi鈥檔 ei ddeall beth bynnag.
"O鈥檔 i ddim wir wedi ystyried bod y llwybr yn dechrau ble mae鈥檙 rhes o dai, ond dwi鈥檔 gallu gweld pam fyddai nifer fawr o bobl yn gallu cael effaith ar y bobl sy鈥檔 byw yno.鈥
Ychwanegodd Alex: 鈥淣es i weld arwydd ar ben y stryd yn dweud mai ardal dawel yw hon ond o鈥檔 i鈥檔 meddwl bod e braidd yn rhyfedd fod yr arwydd wedi鈥檌 leoli wrth i chi adael y stryd a dechrau鈥檙 siwrnai fyny'r mynydd.
"Byddai鈥檔 well cael o鈥檔 agosach at y tai fel bod pobl yn sylweddoli bod angen cadw鈥檔 dawel yma.鈥
Tra'u bod yn croesawu ymwelwyr, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn annog pawb i drin pobl leol a鈥檜 cymunedau gyda pharch a charedigrwydd bob amser, gan gynnwys peidio ag aflonyddu ar bobl leol, yn enwedig yn hwyr yn y nos.
Ychwanegon nhw eu bod yn gweithio gyda鈥檜 partneriaid a鈥檙 diwydiant twristiaeth i sicrhau fod pobl yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.
Mewn datganiad fe ddywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn ymwybodol o鈥檙 sefyllfa ar Res Fictoria, a鈥檜 bod yn ymrwymo i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau hyn a dod o hyd i ddatrysiad.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod digwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn cydymffurfio gyda鈥檙 rheolau ymddygiad.