Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Geraint Thomas yn gorffen yn drydydd yn y Giro d'Italia
Mae Geraint Thomas wedi gorffen yn drydydd yn y Giro d'Italia 2024.
Mae'r Cymro 38 oed yn ymestyn ei record fel y seiclwr hynaf i orffen ar y podiwm yn y Giro.
Tadej Pogacar, y seiclwr 25 oed o Slofenia, oedd yr enillydd clir, gyda Daniel Martinez o Golombia yn ail.
Enillodd Pogacar, sydd 芒 dwy fuddugoliaeth yn y Tour de France, chwe chymal o'r 21 mewn perfformiad ysgubol.
Gorffennodd naw munud 56 eiliad ar y blaen, gyda Thomas tua hanner munud y tu 么l i Martinez.
Roedd Pogacar wedi bod yng nghrys pinc yr arweinydd - y Maglia Rosa - ers ennill cymal dau ac enillodd y ras gyda'r bwlch mwyaf ers 1965.
Tim Merlier enillodd y cymal olaf yn Rhufain ddydd Sul i ddod 芒 thair wythnos o rasio i ben.
'Aros oddi ar y cwrw'
Mae Thomas, cyn-enillydd y Tour de France, wedi dweud efallai mai'r Giro d'Italia eleni fydd ei Grand Tour olaf fel arweinydd t卯m Ineos Grenadiers.
"Dwi wedi mwynhau yn fawr iawn," meddai'r Cymro, fydd yn ymddeol ddiwedd y tymor nesaf, wrth Eurosport.
"Mae wedi mynd yn gyflym iawn mewn gwirionedd ond mae'n ymddangos fel oes yn 么l i ni ddechrau yn Torino. Mae wedi bod yn wych.
"Rwy'n edrych ymlaen at hynny [Tour de France]. Mae'n her fawr.
"Aros oddi ar y cwrw, gwneud camp uchder ac yna mynd i'r Tour a helpu'r bois. Mae gennym ni d卯m ifanc gwych."
Classifica Generale
1. Tadej Pogacar (Slo/UAE Team Emirates) 79 awr 14 munud 03 eiliad
2. Daniel Martinez (Col/Bora-hansgrohe) +9:56
3. Geraint Thomas (PF/Ineos Grenadiers) +10:24
4. Ben O'Connor (Aws/Decathlon AG2R La Mondiale Team) +12:07
5. Antonio Tiberi (Eid/Bahrain Victorious) +12:49
6. Thymen Arensman (Ise/Ineos Grenadiers) +14:31
7. Einer Rubio (Col/Movistar) +15:52
8. Jan Hirt (Tsi/Soudal Quick-Step) +18:05
9. Romain Bardet (Ffr/Team DSM-Firmenich Post NL) +20:32
10. Michael Storer (Aws/Tudor) +21:11
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap 大象传媒 Cymru Fyw ar neu .