Dyn wedi marw ar 么l mynd yn sownd mewn peiriant ailgylchu

Ffynhonnell y llun, M & B Hydraulics

Disgrifiad o'r llun, Roedd Kyle Colcomb (yn y canol) yn gweithio i Atlantic Recycling pan gafodd ei ddal mewn peiriant

Bu farw dyn 27 oed ar 么l mynd yn sownd mewn peiriant tra'n gweithio mewn ffatri ailgylchu yng Nghaerdydd, clywodd cwest.

Ar 8 Gorffennaf, bu farw Kyle Colcomb, o Gasnewydd, o asffycsia ac yr oedd wedi cael anafiadau difrifol i ran isaf ei gorff, clywodd cwest yn Llys Crwner Pontypridd ddydd Gwener.

Roedd Mr Colcomb yn gweithio'n Atlantic Recycling sy'n eiddo i gwmni a roddodd 拢200,000 i ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru Vaughan Gething.

Disgrifiwyd Mr Colcomb yn flaenorol gan gydweithwyr fel 鈥済诺r bonheddig鈥 a 鈥渉ollol unigryw鈥.