Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun i droi hen siop Debenhams Caerdydd yn barc
Mae cynlluniau i droi hen siop Debenhams ynghanol Caerdydd yn barc wedi eu cyflwyno i gyngor y ddinas.
Mae safle'r siop yng nghanol y ddinas, a gaeodd yn 2021, eisoes yn y broses o gael ei ddymchwel.
Mae datblygwyr wedi llunio cynlluniau i newid y safle gyda sgw芒r cyhoeddus gan gynnwys parc chwarae, llwyfan a theras uchel gyda lle i ddau fwyty sy'n edrych dros y parc.
Dywedodd cyfarwyddwr canolfan siopa Dewi Sant, Helen Morgan, fod y gwaith ailddatblygu arfaethedig "yng nghalon" prifddinas Cymru.
鈥淢ae dod 芒 pharc i鈥檙 fan yma yn wirioneddol bwysig oherwydd ei fod mor ganolog - gall pawb elwa ohono,鈥 meddai.
Mae'r datblygiad wedi bod ar y gweill ers y llynedd, pan brynodd y datblygwr Landsec yr hen siop.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus am y cynlluniau ei lansio yn gynharach eleni, a dywedodd Ms Morgan ei fod wedi cael ymateb "hynod o gadarnhaol".
"Fe wnaethon ni ymgysylltu 芒 thros 5,000 o grwpiau cymunedol ac unigolion," meddai Ms Morgan.
鈥淢aen nhw wir eisiau gweld gofodau y gall teuluoedd eu defnyddio, sy'n ddiogel.
"Siaradodd llawer o bobl am yr amgylchedd a chyflwyno mannau gwyrdd i'r ardal hefyd."
Mae hen siop Debenhams, a gaeodd yn 2021, yn parhau i fod yn rhan o ganolfan siopa wreiddiol Dewi Sant ac yn dyddio'n 么l i ddiwedd y 1970au.
Mae bellach yn rhan o ardal ehangach Dewi Sant, a agorodd yn 2009.
Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, bydd modd cyrraedd y parc yn uniongyrchol o ganolfan siopa Dewi Sant, neu ar lefel y stryd o'r tu allan.
Mae disgwyl i waith dymchwel yr hen siop barhau tan wanwyn 2025.
Mae Landsec yn gobeithio cael penderfyniad ar ei gais cynllunio erbyn yr hydref.
Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, dywedodd y datblygwyr eu bod yn gobeithio agor y parc i'r cyhoedd erbyn haf 2026.
Dywedodd Cyngor Caerdydd na allai wneud sylw ar y cynlluniau nes bod penderfyniad wedi'i wneud.