大象传媒

Cwest: Dynes a laddodd ddyn yn y Rhondda 芒 chefndir treisgar

Zara Radcliffe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Zara Radcliffe yn glaf mewnol ar ward iechyd meddwl rhwng Hydref 2019 a Chwefror 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth dyn 88 oed a gafodd ei ladd wrth iddo drio stopio ymosodiad mewn archfarchnad yn y Rhondda wedi ailgychwyn.

Fe wnaeth John Rees ymyrryd wrth i Zara Radcliffe ymosod ar bobl oedd yn siopa yn archfarchnad y Co-op ym Mhenygraig fis Mai 2020.

Ym mis Hydref fe wnaeth Radcliffe bledio'n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei llawn bwyll ac fe gafodd ei hanfon i ysbyty am gyfnod amhenodol.

Ddydd Llun clywodd llys y crwner ym Mhontypridd fanylion am driniaeth Zara Radcliffe fel claf iechyd meddwl yn ystod y misoedd yn arwain at y digwyddiad ym Mai 2020.

Roedd hi wedi bod yn cael triniaeth iechyd meddwl ers 2009, gan gynnwys cyfnodau yn yr ysbyty.

Roedd hi鈥檔 cymryd meddyginiaeth gwrthseicotig. Fe dreuliodd dri mis yn ysbyty Brenhinol Morgannwg rhwng Tachwedd 2019 a Chwefror 2020 - ychydig fisoedd cyn yr ymosodiad.

Bu nyrs iechyd meddwl oedd yn gofalu amdani yn s么n am asesiad risg ym mis Ionawr oedd yn dweud bod ei chyflwr wedi gwella ar 么l cymryd meddyginiaeth, ond bod yna achosion yn y gorffennol ohoni鈥檔 ymddwyn yn fygythiol a鈥檌 bod wedi ymosod ar staff ysbyty a swyddog heddlu yn 2017.

Dywedodd hefyd bod Zara Radcliffe wedi bod yn cymryd cyffuriau.

Clywodd y cwest hefyd gan ei mam hi a ddywedodd ei bod hi鈥檔 ymwybodol nad oedd gan ei merch dabledi ar un adeg.

Mewn datganiad i鈥檙 heddlu ar 么l yr ymosodiad ym mis Mai 2020 dywedodd ei bod hi鈥檔 ymwybodol bod yna rywbeth o鈥檌 le gyda鈥檌 merch a bod ei thad wedi cysylltu a鈥檙 awdurdodau iechyd meddwl.

Mae鈥檙 cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig