Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn yn pledio'n euog i achosi marwolaeth dynes, 25
- Awdur, Iolo Cheung
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Mae dyn wedi pledio鈥檔 euog i achosi marwolaeth drwy yrru鈥檔 beryglus, ar 么l i ddynes ifanc farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful.
Roedd Demi Mabbitt, 25, yn rhan o wrthdrawiad un cerbyd ar Heol Abertawe ym Merthyr Tudful am tua 23:45 ar 5 Ebrill.
Bu farw o鈥檌 hanafiadau wythnos yn ddiweddarach, ar 12 Ebrill.
Ddydd Gwener, yn Llys y Goron Merthyr Tudful fe wnaeth Cameron Jones, 29, bledio鈥檔 euog i achosi marwolaeth drwy yrru鈥檔 beryglus mewn cysylltiad 芒鈥檙 digwyddiad.
Fe blediodd Mr Jones yn euog hefyd i gyhuddiad o achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.
Mae鈥檔 dal i wynebu dau gyhuddiad arall, o beidio 芒 stopio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd, ac o beidio ag adrodd am wrthdrawiad ffordd.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 21 Mehefin, gyda鈥檙 barnwr Tracey Lloyd-Clarke yn ei rybuddio y bydd yn wynebu 鈥渄edfryd o garchar yn syth鈥 ar 么l pledio鈥檔 euog i 鈥渄roseddau difrifol鈥.
Mewn teyrnged wedi ei marwolaeth dywedodd teulu Ms Mabbitt, o Aberfan, ei bod yn 鈥渇erch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither hyfryd鈥.
鈥淩oedd hi鈥檔 enaid annwyl, addfwyn fyddai鈥檔 gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un,鈥 meddai鈥檙 teulu.