Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
S诺 M么r yn cwyno am d欧 mwg 'annioddefol' Halen M么n
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae atyniad poblogaidd ar Ynys M么n wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau deddfau ansawdd aer yn dilyn honiadau bod allyriadau sy鈥檔 cael eu gollwng o fusnes cyfagos yn 鈥渁nnioddefol鈥 i staff ac ymwelwyr.
Mae S诺 M么r M么n, sydd wedi ei leoli ym Mrynsiencyn ar lannau鈥檙 Fenai, yn denu rhwng 90,000 a 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Ond mae llwyddiant cyfleuster gerllaw, sy'n cael ei redeg gan Halen M么n i ateb y galw am gynnyrch sy'n cael ei baratoi gyda mwg, wedi sbarduno ffrae rhwng y S诺 M么r a'i gymydog.
Yn 么l Cyngor M么n fe wnaeth astudiaeth 12 mis ganfod bod yr allyriadau o鈥檙 ystafell fwg yn cydymffurfio鈥檔 llawn 芒 safonau ansawdd aer Cymru.
Ychwanegodd Halen M么n bod y cyfleuster 鈥測n ateb yn gyfforddus鈥 safonau ansawdd aer Cymru a鈥檜 bod yn mynd 鈥測 cam ychwanegol i sicrhau fod y datblygiad yn un sensitif鈥.
Ond mae perchennog Sw M么r M么n yn dweud bod angen cymryd camau pellach yn sgil ofnau bod y mwg yn effeithio ar eu busnes.
Aeth ymlaen i ddisgrifio鈥檙 rheoliadau iechyd amgylcheddol presennol fel rhai 鈥渁nnigonol鈥 a bod 鈥渁ngen eu hailwampio ar unwaith鈥.
'Wedi ypsetio鈥檔 fawr ers blynyddoedd'
Dywedodd Frankie Hobro, sy鈥檔 cyflogi 26 aelod o staff yn y S诺 M么r, fod y mater wedi 鈥済waethygu鈥檔 gynyddol dros yr wythnosau a鈥檙 misoedd diwethaf鈥 ac nad yw鈥檙 mesurau presennol yn lliniaru holl effeithiau llosgi coed derw.
鈥淒wi鈥檔 derbyn eu bod nhw鈥檔 bodloni鈥檙 gofynion cyfreithiol, ond mae鈥檙 mwg yn wirioneddol annioddefol,鈥 meddai wrth 大象传媒 Cymru.
鈥淢ae fy staff wedi ypsetio鈥檔 fawr am hyn ers blynyddoedd, mae llawer o鈥檙 gwaith maen nhw鈥檔 ei wneud yn waith yn yr awyr agored.
鈥淒wi'n byw ar y safle gyda fy mhlant. Mae yna sawl diwrnod lle mae'n rhaid i ni gadw'r ffenestri ar gau, dim ots pa mor boeth ydy hi, ac mae'n dal i dreiddio mewn i'r t欧... gallwn ni ei arogli o hyd."
Gan ddisgrifio ei phenderfyniad i fynd yn gyhoeddus gyda鈥檌 phryderon fel 鈥渕esur argyfwng鈥, mae鈥檔 dweud bod 鈥渁ngen gwneud mwy i liniaru effeithiau elfennau niweidiol鈥.
Awgrymodd mai un cam posib fyddai deisebu Llywodraeth Cymru yn gofyn i weinidogion edrych eto ar y deddfau ansawdd aer presennol.
鈥淎 fyddai unrhyw un eisiau bod yn ein sefyllfa ni? Rhaid i ni fod yn deg gyda'r ymwelwyr sy'n dod yma.
鈥淩wy鈥檔 teimlo y dylem fod yn gyfrifol a rhybuddio pobl, hyd yn oed os ydy o'n niweidiol i鈥檔 busnes ni.
鈥淥s faswn yn dod 芒 fy mhlentyn yma i鈥檙 ardal chwarae, byddwn i eisiau gwybod.鈥
Ychwanegodd Ellis Glyn Jones, sy'n gweithio yn y S诺 M么r, fod y mwg yn "eithaf cyfoglyd" ond fod maint yr effaith yn gallu bod yn ddibynnol ar gyfeiriad y gwynt.
"Yn y pendraw 'da ni'n ofni bydd y cwsmeriaid yn troi i ffwrdd," ychwanegodd.
"Y gymuned leol sy'n poeni fwya'. Maen nhw'n ei weld bob dydd... maen nhw wedi byw am bedair blwyddyn hefo'r t欧 mwg yma.
"Yn amlwg dydy o ddim yn deg i bobl."
'Mynd gam ymhellach'
Mae Halen M么n yn allforio ei halen m么r a gweddill eu cynnyrch ledled y byd, gan ddenu statws gwarchodedig yn 2014.
Mewn ymateb dywedodd Halen M么n fod llwyddiant y cynnyrch mwg yn golygu fod yr adain honno o'r busnes bellach yn cyflogi pedwar aelod o staff, fel rhan o d卯m o 25 sy'n gweithio i'r cwmni.
Ychwanegodd eu bod yn 鈥済werthfawrogi'r berthynas dda gyda鈥檔 holl gymdogion a鈥檙 gymuned leol鈥.
"Cafodd ein ystafell fwg, sydd wedi bod ar y safle ers 18 mlynedd, ei fonitro鈥檔 ddyddiol am flwyddyn gyfan gan Gyngor Sir Ynys M么n, a鈥檙 canlyniad oedd ei fod yn rhagori鈥檔 gyfforddus ar safonau ansawdd aer Cymru," meddai'r cwmni.
鈥淏yddwn bob amser yn fusnes cyfrifol ac yn parhau i weithio gydag ymgynghorwyr peirianneg arbenigol a chwmn茂au arbenigol i sicrhau ein bod mor ystyriol ac effeithlon 芒 phosibl.
鈥淢ae ein hadeilad yn rhagori ar bob manyleb technegol ac rydym yn mynd gam ymhellach i wneud ein datblygiad yn un sensitif.
"Rydym yn poeni鈥檔 fawr am ein staff a lles amgylcheddol yn gyffredinol, yn ogystal 芒鈥檔 cymuned leol.鈥
Cadarnhaodd Cyngor Ynys M么n, yn dilyn cyfnod monitro o 12 mis, na chanfuwyd unrhyw niwsans statudol yn Halen M么n, sy'n golygu bod y mater wedi ei setlo.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.