'Athrawon angen cymorth i ddeall safbwynt plant di-Gymraeg'

Ffynhonnell y llun, Bethan Miller Co

Disgrifiad o'r llun, Katie Hall gydag aelodau eraill Chroma, Zac Mather a Liam Bevan

Mae prif leisydd y band roc Chroma yn credu dylai athrawon gael cymorth i wybod sut i ddelio鈥檔 well gyda disgyblion sydd ddim yn dod o aelwydydd Cymraeg.

Yn 么l Katie Hall, sydd ei hun o gartref di-Gymraeg, mae peryg bod diffyg dealltwriaeth yn cael effaith sydd i鈥檙 gwrthwyneb i鈥檙 hyn maen nhw鈥檔 gobeithio ei gyflawni 鈥 sef cael pobl ifanc a phlant i siarad yr iaith.

Ar raglen Beti a鈥檌 Phobol ar 大象传媒 Radio Cymru fe ddywedodd fod y ffordd mae rhai athrawon yn ceisio cael disgyblion i siarad Cymraeg ar yr iard yn gallu edrych fel eu bod yn dweud y drefn.

Ac i鈥檙 disgybl, meddai, mae hyn yn gerydd am siarad eu hiaith gyntaf a鈥檙 un maen nhw鈥檔 naturiol yn siarad gartref a gyda'u ffrindiau.

鈥淔i鈥檔 gallu gweld fel mae pobl o generations wahanol i generation fi sydd 鈥榙i profi sut mae colli iaith a sut mae iaith dan bwysau yn teimlo鈥 so mae o fel 鈥ok all these brats yn siarad Saesneg ar yr iard鈥 - ma' rhaid bod e鈥檔 rili infuriating," meddai Katie.

鈥淥nd o bersbectif fi, basa pobl yn gweud 鈥榦 siaradwch Gymraeg, siaradwch Gymraeg鈥 a chi like 鈥oh my god鈥 鈥 a nine times out of 10 bydde pobl jest yn mynd yn dawel鈥.

鈥淔i wirioneddol yn meddwl dim bai'r athrawon ydi hynny, ond dylse fod rhyw fath o training neu ryw fath o package neu rywbeth iddyn nhw fel bod ti鈥檔 equiped yn y sefyllfa yna.鈥

Fe gafodd Katie Hall ei magu ger Aberd芒r yn Rhondda Cynon Taf. Fe gafodd addysg Gymraeg ond Saesneg oedd iaith y cartref ac iaith gyntaf nifer o鈥檌 ffrindiau wrth dyfu fyny.

Disgrifiad o'r llun, Chroma yn 2016 pan enillon nhw gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol

Doedd cerddoriaeth Cymraeg ddim yn rhan o fywyd Katie Hall tan iddi fynd i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ddiweddarach fe berswadiodd ei chyd-aelodau o'r band Chroma i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 鈥 wnaeth agor eu llygaid i鈥檙 sin.

Mae Chroma 鈥 sy鈥檔 cloi nos Wener Maes B eleni 鈥 yn un o fandiau mwyaf cyffrous y s卯n roc Gymraeg ar hyn o bryd, a dros yr haf fe fuon nhw鈥檔 chwarae o flaen torf o 20,000 ym Manceinion wrth gefnogi鈥檙 Foo Fighters.

Yn ei chyfweliad ar Beti a鈥檌 Phobol, dywedodd Katie Hall - fu鈥檔 gweithio fel swyddog cymunedol i鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol - fod yn rhaid cofio bod agweddau plant a phobl ifanc yn wahanol iawn i oedolion.

鈥淧an ti鈥檔 16 ti jest yn becso am lip gloss ac arholiadau ti ddim o reidrwydd yn meddwl am y big picture am yr iaith a be' ma' hynny鈥檔 golygu," meddai.

"Ti jest yn meddwl 'mae鈥檙 oedolyn yma yn rhoi st诺r i fi am siarad'. Fi wirioneddol ddim yn meddwl mai bai athrawon yw e.鈥

'Cyfle teg i bob plentyn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fis Gorffennaf, fe gyhoeddon ni Fil y Gymraeg ac Addysg yn y Senedd.

"Mae鈥檙 Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a nod y Bil yw rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, beth bynnag fo鈥檜 cefndir a pha bynnag ysgol y maent yn ei mynychu.

"Byddwn ni鈥檔 parhau i gefnogi鈥檔 hysgolion ac athrawon i gyflwyno mwy o Gymraeg i fwy o ddysgwyr.

"Mae鈥檙 Bil yn cynnig sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sef sefydliad i gefnogi pobl o bob oedran i ddysgu Cymraeg, rhoi cyfeiriad ac arweiniad strategol i ddarparwyr dysgu, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg."

Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar 大象传媒 Radio Cymru am 18:00 dydd Sul 4 Awst ac ar 大象传媒 Sounds