Protest yn erbyn arogl safle tirlenwi yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Daeth rhwng 40-50 o bobl ynghyd y tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd fore Mercher i brotestio am yr arogl o safle tirlenwi Withyhedge.
Yn 么l pobl leol, dydyn nhw ddim yn gallu agor eu ffenestri ar adegau am fod yr arogl mor wael, ac maen nhw鈥檔 poeni am yr effaith ar werth eu cartrefi.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ymweld 芒鈥檙 safle ar 8 Ebrill a bydd yn cyfarfod y brynhawn Mercher i drafod y camau nesaf.
Dywedodd gweithredwyr y safle, RML, eu bod yn cydnabod nad yw鈥檙 aroglau wedi 鈥渓leihau鈥檔 llwyr".
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Cafodd pobl leol wybod y byddai'r arogl, sydd wedi bod yn amlwg am y naw mis diwethaf, wedi'i ddatrys erbyn 5 Ebrill.
Fodd bynnag, mae'r protestwyr yn dweud ei fod yn dal yn broblem.
Mae Lou Lavis, 46 o Spittle, yn dweud bod y sefyllfa鈥檔 鈥渆nbyd鈥.
鈥淐hi'n deffro yn y bore ac yn agor y drws ac mae'n taro chi," meddai.
"Mae'n cymryd eich anadl i ffwrdd. Mae pobl wedi dweud eu bod nhw wedi bod yn s芒l yn gorfforol.
鈥淩ydyn ni gyd wedi bod yn amyneddgar iawn. Cafon ni wybod y byddai pethau'n cael eu datrys, ond a dweud y gwir mae'n waeth.鈥
Ychwanegodd Colin Barnett o Spittle - y prif ymgyrchydd y tu 么l i Stop the Stink: 鈥淩oedden ni鈥檔 wirioneddol obeithiol ar 么l aros deufis am y cynllun hwn y byddai hyn wedi ei ddatrys, ond mae鈥檙 arogl dal yma.
"Felly rydym yn 么l yn ymgyrchu ac yn siomedig iawn eu bod wedi methu鈥檙 trigolion unwaith eto.鈥
Dydd Llun fe wnaeth Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Breseli Penfro, ryddhau llythyr agored i CNC a鈥檙 prif weinidog Vaughan Gething yn gofyn am ddirymu trwydded RLM.
鈥淣i wedi cael addewidion gan y cwmni bod hyn yn mynd i gael ei ddelio gyda cyn dydd Gwener diwethaf a dyw hynny ddim wedi digwydd,鈥 meddai.
鈥淔elly dyna pam dwi鈥檔 galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ac ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.
"Dwi鈥檔 credu nawr y dylai鈥檙 drwydded gael ei thynnu yn 么l nes bod y sefyllfa yma鈥檔 cael ei delio gyda.鈥
Mewn datganiad fe ddywedodd RML: 鈥淢ae RML bellach wedi cwblhau鈥檙 gwaith peirianyddol y gofynnwyd amdano gan CNC ac yn unol 芒 Hysbysiad Rheoliad 36.
"Roedd y gwaith yn golygu bod angen symud llawer iawn o wastraff o ben y safle tirlenwi, capio'r celloedd blaenorol a gosod y rhwydwaith casglu nwy.
"Yr wythnos ddiwethaf daeth y system tynnu nwy yn weithredol, ac mae'r nwyon bellach yn cael eu casglu. Bydd casglu'r nwy hwn yn cymryd rhai wythnosau."
Ychwanegodd y cwmni: "Ers capio'r hen gelloedd gwastraff, mae'r arogleuon wedi lleihau'n sylweddol, ond nid ydynt wedi lleihau'n llwyr."
Mae CNC wedi cynnal archwiliad o'r safle, ac maen nhw nawr yn aros am yr adroddiad.
Dywedodd CNC eu bod hefyd wedi cyhoeddi "hysbysiad rheoliad 35 ar y safle ar 4 Ebrill".
"Mae hyn yn golygu y bydd angen i RLM ddarparu dogfennau o鈥檙 holl wastraff a waredir ar y safle rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024," meddai llefarydd.