大象传媒

Monitro safle tirlenwi Sir Benfro 'ddim yn annibynnol'

WithyhedgeFfynhonnell y llun, Colin Barnett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl wedi bod yn cwyno am arogleuon gwael o safle Withyhedge ers mis Hydref 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn erbyn safle tirlenwi yn Sir Benfro wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw hyder mewn mesurau i fesur ansawdd yr aer, ar 么l darganfod taw'r cwmni sydd yn rheoli'r domen sydd yn gyfrifol am drefnu ac ariannu'r gwaith.

Mae pobl wedi bod yn cwyno am arogleuon gwael o safle Withyhedge ers mis Hydref 2023.

Yn 么l Sue Lewis, o ymgyrch Stop the Stink, dyw'r gwaith monitro "ddim yn annibynnol" am ei fod yn cael ei drefnu gan rywun sydd yn gweithio i gr诺p Amgylcheddol Dauson.

Yr un gr诺p sydd yn berchen ar safle Withyhedge.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynnu bod y gwaith monitro yn cael ei wneud gyda "chyngor a throsolwg" ganddyn nhw a Chyngor Sir Penfro.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sue Lewis a Colin Barnett o ymgyrch Stop the Stink

'Wedi'n siomi'n llwyr'

Mae'r cwmni sydd yn rhedeg y safle, Resources Management UK Ltd, wedi cael gorchymyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru i "gasglu a chadw allyriadau sydd yn ffoi" o'r safle erbyn 5ed o Ebrill, yn dilyn hysbysiad gorfodi.

Mae cwmni RML yn perthyn i Gr诺p Amgylcheddol Dauson, wnaeth gyfrannu 拢200,000 i ymgyrch Vaughan Gething ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Yn 么l Sue Lewis, fe gafodd ei synnu ar 么l cysylltu gyda Chyngor Sir Penfro i ofyn am fanylion pellach yngl欧n 芒'r monitro oedd yn digwydd: "Pan dderbyniais i'r ebost gan y dyn sydd yn cyd-drefnu'r profi, mae'n hi'n ymddangos ei fod yn gweithio, neu wedi gweithio i Atlantic Recycling, gan taw dyna oedd ei gyfeiriad e-bost.

"Fe wnes i e-bostio fe n么l a dweud: 'Chi'n gweithio i Atlantic Recylcing, sydd yn eiddo i gr诺p Dauson Environmental. Dyw hyn ddim yn annibynnol'."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Offer monitro ansawdd aer tu allan i Ysgol Spittal

Mae Sue yn credu taw'r cyngor ddylai fod yn ariannu gwaith profi annibynnol.

"Fe ddylai'r cyngor chwilio am gwmni annibynnol i brofi'r nwyon o'r safle tirlenwi, ac fe ddylai trigolion yr ardal gael tiwbiau yn eu cartrefi, ble mae modd cadw sampl o'r aer, pan mae'r arogl yn wael iawn.

"Rwy' hefyd yn credu taw'r cyngor ddylai dalu am hyn," meddai.

Dywedodd ei chyd-ymgyrchydd, Colin Barnett, bod pobl yr ardal yn dal i arogli "hydrogen sylffad" yn yr awyr "yn dibynnu ar gyfeiriad y gwynt".

Mae'n dweud bod trigolion wedi galw am fonitro ansawdd yr aer o'r cychwyn cyntaf.

"Roeddem wedi ein siomi yn llwyr o glywed eu bod wedi rhoi'r gwaith i'r cwmni sydd wedi bod yn ein llygru gyda hydrogen sylffad.

"Hunan-reolaeth yw hyn eto. Mae'n rhaid iddo ddod i ben. Mae angen ychydig o arweinyddiaeth gan y Cyngor Sir, ac mae angen i rywun gamu fyny a gwneud hyn yn annibynnol, fel bod modd ymddiried ynddo,' ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrchwyr Stop the Stink yn honni nad yw'r gwaith monitro "yn annibynnol"

'Datrys y problemau mor fuan 芒 phosib'

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod monitro ansawdd aer yn digwydd mewn cymunedau o gwmpas safle tirlenwi Withyhedge, a taw'r cwmni sydd yn rheoli'r safle oedd yn gyfrifol am "drefnu鈥檙 gwaith," gyda "throsolwg a chyngor" gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Penfro.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod swyddogion o d卯m rheoli llygredd y Cyngor Sir yn ymweld 芒'r safleoedd profi.

Mewn datganiad, dywedodd cwmni Resources Management Limited bod y gwaith monitro yn cael ei wneud gan "ymgynghorwyr amgylcheddol annibynnol," a'u bod nhw wedi cael eu cyflogi ar 么l "ymgynghoriad llawn gyda'r awdurdod lleol a'r rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru".

"Fe fydd gan yr awdurdod fynediad uniongyrchol i'r canlyniadau, heb unrhyw gyswllt gyda RML.

"Mae cwmni RML yn ceisio datrys y problemau ynghylch y drewdod mor gyflym 芒 phosib ac yn gwneud cynnydd da. Rydym wedi ein hymrwymo i gwblhau'r gwaith erbyn y 5ed of Ebrill, 2024," ychwanegodd y datganiad.

Pynciau cysylltiedig