Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
T卯m merched Caerdydd i chwarae'n lled-broffesiynol
Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Merched Dinas Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi cynnig cytundebau lled-broffesiynol i'w holl garfan ar gyfer y tymor nesaf.
Nhw fydd y t卯m cyntaf yng Nghymru i gynnig cytundebau o'r fath i'w holl chwaraewyr, gyda'r clwb yn dweud eu bod yn "haeddu" hynny yn dilyn eu llwyddiant diweddar.
Tymor diwethaf fe enillodd Caerdydd y Genero Adran Premier, sef prif gynghrair merched Cymru, gan olygu y byddan nhw'n chwarae yn Ewrop eleni.
"Mae hon yn foment fawr i g锚m y merched yng Nghymru, ac yn rhywbeth y gallwn ni fod yn hynod falch ohono fel clwb p锚l-droed," meddai pennaeth p锚l-droed merched y clwb, Iain Derbyshire, wrth s么n am y cytundebau.
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd perchnogion Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y byddan nhw'n gwneud t卯m y merched yn lled-broffesiynol os oedden nhw'n sicrhau dyrchafiad i'r Adran Premier.
Fe lwyddodd y t卯m i wneud hynny, ac maen nhw hefyd bellach wedi cynnig cytundebau lled-broffesiynol i 10 o'u chwaraewyr.