Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnwys ar-lein yn rhoi pwysau ar achubwyr mynydd
Mae achubwyr mynydd yn dweud fod mwy o alw i'w gwasanaeth wrth i gerddwyr dibrofiad ddilyn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n gallu eu rhoi mewn peryg.
Dywedodd un o brif dimau achub Cymru ei bod hi'n barod yn edrych fel mai eleni fydd y flwyddyn brysuraf erioed iddyn nhw.
Yn 么l cadeirydd Achubwyr Mynydd Dyffryn Ogwen, Chris Lloyd, mae'r cynnydd yn y galw yn adlewyrchu'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i Eryri, a'r cynnydd yn y bobl sy'n cyhoeddi fideos o'r parc ar Tiktok, Instgram a YouTube.
Dywedodd fod y rheiny sy'n mynd tua'r mynyddoedd angen paratoi, yn hytrach na chyrraedd heb gynllun.
Mae o leiaf wyth marwolaeth wedi ei nodi yn y flwyddyn ddiwethaf o amgylch copao'n y parc cenedlaethol.
"Mae hwn yn ardal arbennig... a dwi'n deall pam fod pobl eisiau mynd allan a mwynhau eu hunain," meddai Mr Lloyd, sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda th卯m achub mynydd Ogwen ers bron i 50 mlynedd.
"Ond maen nhw wir angen meddwl, yn enwedig wrth fynd i'r mynyddoedd.
"Meddwl am y goblygiadau, hyd yn oed newid yn y tywydd, neu os oes gennych anaf, neu os yw'n tywyllu - dyle chi fod yn barod ar gyfer y goblygiadau yna."
Mae'r t卯m achub mynydd wedi gorfod delio 芒 nifer o ddigwyddiadau yn yr wythnosau diwethaf oherwydd bod cerddwyr dibrofiad yn dringo mynydd Tryfan heb sylwi difrifoldeb y sefyllfa.
Mae'r mynydd yn 917m neu 3,010 o droedfeddi.
Nid oes llwybr cerdded penodol i'r copa, ac mae'n rhaid i chi ddefnyddio'ch dwylo a sgiliau penodol i gyrraedd y copa.
"Dwi'n meddwl fod pethau wedi newid, yn sicr mae holl dimau achub bywyd wedi sylwi ar newid mawr ers y cyfnod clo," meddai Mr Lloyd.
"Dwi'n meddwl mai un o'r prif bethau yw'r cyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn gwrando ar bodlediadau ac yn gweld y llefydd ac yn cael y syniad eu bod yn gallu mynd fyny 'na.
"Ond nid ydyn nhw wedi gweld sut oedd y person yna wedi paratoi a pha mor brofiadol oedden nhw.
"Mae nifer o bobl yn cael trafferth gan nad oes ganddyn nhw'r offer cywir neu digon o brofiad."
Mae'r timau achub ar draws y parc cenedlaethol yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein sy'n cynnig gwybodaeth am sut i fwynhau yn yr awyr agored yn ddiogel.
'Ddim yn deall y peryglon'
Yn eu plith mae gr诺p Adventure Smart, sydd bellach yn cynnwys Gogledd Iwerddon ac Ardal y Llynnoedd ar 么l ei sefydlu yng Nghymru.
"Ers Covid mae pobl wedi sylweddoli bod yr awyr agored yn dda i'w hiechyd ac yn heidio at y bryniau a'r d诺r - sy'n wych," medd Emma Edwards-Jones o'r gr诺p.
"Ond does gan lawer ohonyn nhw ddim dealltwriaeth o'r peryglon.
"Mae ambell gam syml y gallan nhw ei gymryd er mwyn osgoi'r peryglon hynny, cael diwrnod mwy hwylus, a pheidio gorfod galw'n timau achub sydd eisoes wedi eu gorlwytho."
Fe wnaeth hi annog ymwelwyr i ofyn tri chwestiwn i'w hunain: Ydyn nhw'n ddigon heini ar gyfer y gweithgaredd? Ydyn nhw'n gwybod sut fydd y tywydd? Oes ganddyn nhw'r dillad a'r offer cywir?
"Pobl sy'n oer ac ar goll yw nifer sylweddol o'r digwyddiadau y mae'n rhaid i griwiau ymateb iddyn nhw, a'u tywys o'r mynydd.
"Dydyn nhw ddim wir yn ddamweiniau.
"Os oes modd i ni roi diwedd ar ddigwyddiadau o'r fath, gallwn ni roi cymorth go iawn i'n timau achub."