Sir Benfro: Nifer yr ail dai ar werth wedi treblu ers codi trethi
- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer o ail dai sydd ar werth yn Sir Benfro wedi mwy na threblu ar 么l i'w treth cyngor gynyddu.
Yn 么l ystadegau newydd, roedd 135 ar y farchnad ym mis Gorffennaf, o'i gymharu 芒 38 yn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Mae ymgyrchydd sydd am weld y farchnad dai yn cael ei ddiwygio wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "calonogol".
Ond yn 么l un gwerthwr tai, mae talu rhagor o dreth cyngor wedi cael "effaith enfawr" ar berchnogion ail dai.
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
O dan reolau newydd, fe all cynghorau godi premiwm o hyd at 300% ar ben y lefel arferol i geisio mynd i'r afael 芒'r argyfwng tai.
Fe gyflwynodd Cyngor Sir Penfro y premiwm treth cyngor o 200% ar berchnogion ail dai ym mis Ebrill gan dreblu biliau.
Ond mae'n bosib osgoi talu'r premiwm am hyd at flwyddyn gan roi'r t欧 ar y farchnad.
Ar 1 Gorffennaf eleni, roedd nifer yr ail dai ar werth yn y sir wedi cynyddu o 97 mewn blwyddyn - cynnydd o 255%.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos bod nifer yr ail dai a llety hunan arlwyo wedi gostwng eleni o'i gymharu 芒 2023.
Dangosa'r ffigyrau fod:
Nifer yr ail dai wedi disgyn o 3,364 i 3,271 (gostyngiad o 2.7%)
Nifer y llety hunan arlwyo wedi disgyn o 2,621 i 2,425 (gostyngiad o 7.47%)
Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, y premiwm yn rhannol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl leol allu fforddio prynu tai yn yr ardaloedd y cawson nhw eu magu.
Cafodd Hedd Ladd Lewis, sy'n ymgyrchydd dros ddiwygio'r farchnad dai, ei fagu yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.
Mae tua 30% o'r eiddo yn y dref yn ail dai neu yn llety gwyliau.
Dywedodd Mr Lewis fod y cynnydd yn nifer yr ail dai sydd ar werth yn "galonogol", ond "dwi鈥檔 credu mai rhan o鈥檙 broblem yw hwnna oherwydd pwy sydd yn mynd i brynu鈥檙 tai yma?"
"Beth sydd gyda ni yw marchnad agored a dyw鈥檙 bobl leol sydd yn ennill cyflogau bach - ar gyfartaledd 拢28,000 y flwyddyn - dydyn nhw methu cystadlu ac felly mae yna ryw anghyfiawnder mawr o ran y farchnad dai.
"Yn sicr mae angen gweld ryw fath o ddeddf eiddo sydd yn mynd i sicrhau fod gan y gymuned leol hawl gyfreithiol i gartref."
Yn 么l Neil Evans, perchennog gwerthwyr tai West Wales Properties, mae'r premiwm treth cyngor wedi cael "effaith enfawr", yn enwedig mewn llefydd fel Tyddewi a Threfdraeth.
"Ry'n ni'n gweld tai yn dod ar y farchnad ar lefel nad ydw i wedi ei weld mewn 30 mlynedd," meddai.
"Fe allan nhw (perchnogion ail dai) brynu eiddo'r ochr arall i Afon Hafren a chael dim o hyn.
"Be ry'n ni'n ffeindio hefyd yn gyffredinol yw ei fod wedi effeithio'r farchnad wyliau."
- Cyhoeddwyd4 Medi
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
Dywedodd y Cynghorydd Aled Thomas, Ceidwadwr lleol sy'n gwrthwynebu'r premiwm: "Mae twristiaid yn un o'r pethau sy'n dod 芒'r arian i'r economi ond mae dal pobl sydd yn mynd allan o fusnes achos y polis茂au yma.
"Y peth i wneud yw adeiladu mwy o dai. Dim ond ryw 20/30 o dai sydd wedi cael eu hadeiladu gan y cyngor yn y 30 mlynedd diwethaf ac mae hwnna'n warthus.
"Os ni eisiau bod yn serious am gael mwy o dai i bobl leol a phrisiau tai yn dod lawr mae angen adeiladu mwy o dai."
Mae Cyngor Sir Benfro yn anghytuno 芒 ffigyrau'r Cynghorydd Aled Thomas, gan ddweud eu bod wedi cwblhau dau ddatblygiad - cyfanswm o 44 o unedau - yn 2024/25.
Maen nhw'n dweud y bydd saith arall ar un o'r safleoedd hynny wedi'u cwblhau mewn ychydig fisoedd, a bod dau ddatblygiad - cyfanswm o 18 uned - ar y gweill i'w hagor yn 2025/26.