Sefydlu eisteddfod leol wedi Prifwyl lwyddiannus Pontypridd
- Cyhoeddwyd
Wedi llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 mae'r rhai oedd ynghlwm 芒 threfniadau'r brifwyl ym Mhontypridd wedi penderfynu cynnal eisteddfod arall.
Mewn cyfarfod diweddar roedd pawb yn gyt没n, medd y cadeirydd Iolo Roberts, bod yn rhaid cael eisteddfod leol wedi bwrlwm y brifwyl ar Barc Ynysangharad.
"Eisteddfod Pontypridd fydd hi a'r bwriad yw ei chynnal fis Mehefin nesaf," meddai.
"Mae cael eisteddfod o'r fath wedi deillio yn uniongyrchol o waddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn ein hardal ni.
"Mae Eisteddfod y Rhondda eisoes yn bodoli ac Eisteddfod y Cymoedd - fe fydd hi'n braf felly cael eisteddfod i'n rhan ni o'r ardal - sef ardal y Taf yng ngwaelod y cymoedd.
"Fe fydd y dalgylch, mae'n debyg, o gwmpas ardal Pontypridd a gobeithiwn ddenu disgyblion o ysgolion cynradd, Pontypridd, Garth Olwg, Llanhari ac ysgolion cynradd ardal Tonyrefail."
Ychwanegodd Mr Roberts fod pobl yr ardal am "adeiladu ar y brwdfrydedd a gafwyd" cyn ac yn ystod y brifwyl ar Barc Ynysangharad.
"Roedd nifer yn teimlo eu bod wedi mwynhau y gwaith cymunedol, wedi joio'r cymdeithasu ac am i hynny barhau - pa ffordd well na chael eisteddfod arall?"
'Newyddion gwych'
Ar ddechrau ei chyfnod yn ei swydd dywedodd swyddog datblygu newydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Angharad Brinn Morgan, ei bod yn awyddus i sefydlu eisteddfodau newydd.
"Mae'r newyddion am gael eisteddfod leol ym Mhontypridd yn ffantastig," meddai wrth siarad 芒 Cymru Fyw wedi cyfarfod rhyngddi hi ag un o'r swyddogion fore Mawrth.
"Pan mae eisteddfod yn cael ei sefydlu a'r pwyllgor yn ymuno 芒'r gymdeithas mae cymorth ariannol o 拢100 ar gael ac mae gennym becyn cymorth sy'n nodi o ble y gellid cael nawdd a grantiau.
"Mae'n wych ac mae'r pwyllgor, sydd ond wedi cyfarfod wythnos diwetha', yn barod i fynd amdani."
Wedi ymweliad yr Eisteddfod ym mis Awst roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn hynod o bles gyda'r digwyddiad.
鈥淢ae hi wedi bod yn wych gweld y dref yn llawn pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr achlysur llwyddiannus yma," meddai Andrew Morgan, arweinydd y cyngor, yn fuan wedyn.
"Tra bod yr achlysur ei hun wedi para am wyth diwrnod, rydyn ni'n gobeithio y bydd gwaddol yr Eisteddfod yn golygu y bydd ymwelwyr yn dod yn 么l i鈥檙 dref a鈥檙 sir am flynyddoedd lawer i ddod.鈥
"Mae'n hynod o bwysig parhau 芒'r gweithgarwch," medd Scott Thomas a oedd yn ddolen gyswllt rhwng yr Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf.
"Be' ni'n gobeithio fydd yn digwydd yw gallu defnyddio adeiladau fel y Muni, canolfan YMa a Chlwb y Bont - mae'r trafodaethau yma i ddigwydd ond byddai'n braf cyfleu awyrgylch debyg i'r hyn a gafwyd adeg yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Byddwn ni'n gweithio ar y cyd 芒'r fenter iaith leol - mae'n bwysig cadw'r momentwm a'r awyrgylch arbennig 'na oedd gyda ni.
"Roedd hi'n Eisteddfod Genedlaethol arbennig iawn ac rwy'n mawr obeithio y bydd eisteddfod Pontypridd yn eisteddfod leol boblogaidd iawn."
Yr wythnos ddiwethaf ar Ddiwrnod Shw鈥檓ae Su鈥檓ae fe gafodd Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod eu cyhoeddi - gwobrau sy'n cydnabod y defnydd a wnaed ac a wneir gan fusnesau ardal Rhondda Cynon Taf o'r Gymraeg a'u croeso i'r Eisteddfod.
Mae'r gwobrau yn bartneriaeth rhwng Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, yr Eisteddfod Genedlaethol, Helo Blod, Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Ymbweru Bro, ac maen nhw yn rhan o waddol yr Eisteddfod.
Dywedodd Osian Rowlands, prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf: 鈥淩oedd yr Eisteddfod eleni ymysg y goreuon ers blynyddoedd lawer, ac roedd tref Pontypridd a鈥檙 ardal gyfan yn rhan enfawr o鈥檌 llwyddiant.
鈥淐afodd pawb a ddaeth i鈥檙 ardal groeso ardderchog gan fusnesau a chwmn茂au ar hyd a lled y dalgylch.
"Rydyn ni鈥檔 awyddus i ddathlu hyn drwy lansio鈥檙 cynllun gwobrau busnes cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio鈥檙 Eisteddfod fel y sbardun i annog rhagor o ddefnydd o鈥檙 Gymraeg yn y sector preifat.
鈥淒iolch i鈥檙 holl bartneriaid am eu hawydd i fod yn rhan o鈥檙 cynllun sy鈥檔 rhan o waddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf