Canser y prostad yn 'fygythiad tawel' sy'n effeithio 1 o bob 8

Disgrifiad o'r llun, Yn 51 oed, cafodd Andrew Williams o Lan y Fferi ddiagnosis o ganser y prostad
  • Awdur, Elen Davies
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

"Yn 50, o鈥檔 i鈥檔 iach, o鈥檔 i becso am ddim byd. Yn 51, o鈥檔 i鈥檔 cael e [prostad] wedi tynnu mas yn yr Heath yng Nghaerdydd."

Yn 51 oed, cafodd Andrew Williams o Lan y Fferi ddiagnosis o ganser y prostad.

Yn ystod digwyddiad 鈥楤recwast Mawr鈥 yn siop goffi Ffab, Llandysul fore Mercher, mae'n egluro: 鈥淏eth o鈥檇d yn bod arna i oedd gorfod mynd i鈥檙 toilet yn rhy aml, yn y diwedd o鈥檔 i鈥檔 dechrau colli bach.鈥

Yn ystod mis Tachwedd, mae elusen Prostate Cymru yn cynnal digwyddiadau ar hyd a lled Cymru er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth o鈥檙 elusen a鈥檙 canser mwyaf cyffredin ymysg dynion.

Disgrifiad o'r llun, Mae elusen Prostate Cymru yn trefnu digwyddiadau 'Brecwast Mawr' er mwyn codi ymwybyddiaeth a chodi arian i gefnogi teuluoedd

Bydd un o bob wyth o ddynion Cymru yn wynebu diagnosis o ganser y prostad yn ystod eu bywyd yn 么l Prostate Cymru, gyda鈥檙 ystadegau yn fwy o bryder i ddynion du.

Yn 么l yr elusen, mae'r math hwn o ganser yn effeithio ar un o bob pedwar o ddynion du yng Nghymru.

Mae canser y prostad yn "fygythiad tawel", meddai'r elusen, a mewn rhai achosion does dim symptomau o gwbl.

Mae鈥檙 risg yn cynyddu鈥檔 sylweddol ar gyfer y rhai sydd 芒 hanes teuluol hefyd, gyda'r canser yn effeithio ar un ym mhob tri dyn.

'Ma' fe yn y teulu'

Bu farw tad Andrew o ganser y prostad yn 89 oed.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 gwybod bod rhyw broblem gyda fy nhad, ond do鈥檇d fy nhad ddim yn siarad amdano fe.

"Ar 么l i fi gael popeth, siarades i gyda fy nhad, lan i鈥檙 meddyg yn Llandysul a gweud 鈥榝i鈥檔 gwybod bod problem gyda fy nhad, ma鈥 eisiau edrych arno fe鈥 ond o鈥檇d dwy flynedd wedi mynd ers iddo fe gael ei weld ac o achos hynny, o鈥檇d e鈥檔 rhy hwyr.

"Ma鈥 fe yn y teulu. Ma鈥 cousin gyda fi nawr wedi cael yr un operation 芒 fi yn 53 oed.鈥

Mae鈥檙 holl arian sy'n cael ei godi yn nigwyddiadau 鈥楤recwast Mawr鈥 Prostate Cymru yn aros yng Nghymru, yn 么l yr elusen.

Y bwriad ydy defnyddio'r arian i helpu i godi ymwybyddiaeth ac i gefnogi gwaith ymchwil a thriniaeth i ddynion yng Nghymru sydd 芒 phroblemau iechyd neu ganser y prostad.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Deryc Rees o Prostate Cymru, mae'r Brecwast Mawr yn gyfle "nid yn unig siarad 芒鈥檙 dynion, ni鈥檔 siarad 芒鈥檙 menywod hefyd"

Deryc Rees yw cadeirydd gr诺p yr elusen yn Sir Gaerfyrddin.

鈥淣i鈥檔 neud y brecwastau mawr 鈥榤a ar draws Tachwedd. Dwi鈥檔 ffeindio fe鈥檔 ffordd dda i fynd 芒鈥檙 neges i wahanol ardaloedd. Mae tri [brecwast] gyda ni yn Sir G芒r eleni,鈥 meddai.

鈥淣id yn unig siarad 芒鈥檙 dynion, ni鈥檔 siarad 芒鈥檙 menywod hefyd achos ni gyd yn gwybod bod dynion yn gyndyn iawn i fynd i鈥檙 doctor ambell waith so ry鈥檔 ni鈥檔 siarad 芒鈥檙 menywod i wneud yn siwr bod nhw鈥檔 deall y sefyllfa hefyd.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae鈥檙 elusen yn dosbarthu taflenni yn nodi symptomau canser y prostad

Fel rhan o鈥檜 hymgyrch, mae鈥檙 elusen yn dosbarthu taflenni yn nodi'r symptomau.

Gobaith yr elusen yw helpu dynion i fod yn ymwybodol o鈥檙 arwyddion sy鈥檔 awgrymu fod problem.

Wrth ateb yn onest, gall dynion fesur iechyd presennol eu prostad mewn ychydig eiliadau.

鈥淕all diagnosis cynnar arbed bywydau,鈥 yn 么l Prostate Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae Andy Thomas o Prostate Cymru yn annog dynion i siarad 芒鈥檜 meddygon teulu am brofion prostad

Yn gadeirydd ar yr elusen, dywedodd Andy Thomas nad yw鈥檙 DU yn sgrinio ar gyfer canser y prostad.

鈥淒yw鈥檙 profion sydd gyda ni ddim yn ddigon cywir i sgrinio y boblogaeth gyfan o ddynion,鈥 meddai.

鈥淏eth ni鈥檔 trio gwneud yw codi ymwybyddiaeth ymysg dynion dros 50 neu dynion sy鈥檔 45 mlwydd oed sydd 芒 hanes teulu neu dynion du, sydd 芒 risg uwch o ddatblygu canser y prostad, bod ganddyn nhw鈥檙 hawl i fynd i siarad 芒鈥檜 meddygon teulu am brofion prostad.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Chris Jones, cyn-gyflwynydd tywydd S4C, yn annog dynion i fynd at eu meddyg teulu os oes ganddyn nhw bryderon

Roedd Chris Jones, cyn-gyflwynydd tywydd S4C, newydd droi yn 50 pan gafodd broblemau gyda鈥檌 brostad.

鈥淓s i ddathlu fy mhenblwydd yn 50 a methu pasio d诺r am 24 awr.

"Ces i fy rhuthro i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, cael y driniaeth wedyn ar gyfer prostad wedi chwyddo, byw gyda hwnna am dair blynedd a wedyn y symptomau yn dechrau 鈥榯o sbo.

"Es i n么l mewn chwech wythnos a wedyn dod o hyd i鈥檙 celloedd 鈥榤a.鈥

Mae'n dweud ei fod yn 鈥渄ipyn o sioc i ddweud y gwir, bod rhywun mor ifanc 芒 fi yn gallu cael y math yma o beth".

"Y cyngor, os oes unrhyw symptomau gyda chi, yn enwedig os oes gyda chi ganser y prostad yn y teulu, ewch i weld y meddyg teulu.鈥