Pwyllgor lleol Eisteddfod 2023 yn codi dros 拢500,000

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau bod y pwyllgor gwaith lleol yn Ll欧n ac Eifionydd eleni bellach wedi codi dros 拢500,000 - sy'n swm record.

Llynedd fe wnaeth cronfa Eisteddfod Tregaron godi 拢463,671, oedd eisoes yn swm uwch nag erioed o'r blaen.

Ond ar ddiwrnod cyntaf y Brifwyl ym Moduan ddydd Sadwrn, cafwyd cadarnhad fod y swm eleni wedi cyrraedd 拢503,610.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, fod ganddo "ddim byd ond parch ac edmygedd at ein holl wirfoddolwyr" oedd wedi gwneud hynny'n bosib.

Disgrifiad o'r llun, Mae cymunedau ar draws Gwynedd wedi bod yn codi arian at yr Eisteddfod ers blynyddoedd bellach

'Dangos pwysigrwydd symud'

Cafodd y swm diweddaraf ei gyhoeddi gan Liz Saville Roberts AS, wrth iddi annerch Pafiliwn yr Eisteddfod yn ei haraith groeso fel Llywydd yr 诺yl eleni.

"O gofio mai'r targed oedd 拢400,000, i godi dros hanner miliwn, mae hwnna'n anhygoel," meddai wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru.

"Rhaid i ni gofio mae'r Eisteddfod yn hwyr yn ein cyrraedd ni oherwydd Covid, ac yn ystod Covid roedd rhaid i ni godi'r arian, ac yn sgil effaith Covid.

"Dwi'n gobeithio bod ni'n gallu dod at ein gilydd a dathlu'r gwaith caled sydd 'di dwyn ffrwyth yma ar y maes."

Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Rheoli a Llywydd Llys yr Eisteddfod, Ashok Ahir, fod yr ardal wedi aros yn eiddgar am gael Eisteddfod arall, gyda'r un diwethaf yn ardal Pwllheli yn 1955, a rhai mwy diweddar yng Nghricieth a Porthmadog.

"Ar gyfer ni sy'n rhan o reoli a threfnu'r 诺yl, mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw e bod Eisteddfod yn mynd o le i le," meddai wrth ganmol cyfanswm ariannol y pwyllgor gwaith lleol.

"Mae'n dangos y brwdfrydedd a'r ymrwymiad mae pobl leol yn gallu 'neud i bob 'Steddfod sy'n dod atyn nhw.

"Ni mor ddiolchgar i bobl Ll欧n ac Eifionydd am y gwaith maen nhw wedi 'neud, nid jyst eleni wrth fynd dros hanner miliwn, ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Cyngor Gwynedd fod arian wedi cael ei godi o bob cwr o'r sir, gan gynnwys 拢20,000 o ardal Bangor hyd yn oed

Doedd neb yn fwy balch na chadeirydd y pwyllgor gwaith ei hun, Michael Strain, a roddodd glod i鈥檙 holl bobl oedd wedi gweithio鈥檔 galed i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

"Rydw i鈥檔 grediniol fod y targed ac awydd ein trigolion lleol ar draws y dalgylch i gefnogi鈥檙 Eisteddfod wedi helpu i ail-agor Ll欧n, Eifionydd ac Arfon yn dilyn y pandemig," meddai.

"Fe ddaeth pobl yn 么l at ei gilydd. Fe ail-ddechreuodd y cymdeithasu ac fe lifodd yr arian i mewn i goffrau ein g诺yl.

"Felly heddiw, mae鈥檔 bleser cyhoeddi ein cyfanswm - hyd yn hyn. Ac mae鈥檙 arian yn dal i鈥檔 cyrraedd bron yn ddyddiol."

Eisteddfod arall am ddim?

Ddydd Sadwrn fe wnaeth Plaid Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth ariannol i鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol wrth symud ymlaen.

Wrth ymateb i hynny dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod trafodaeth "barhaus" yn digwydd gyda鈥檙 llywodraeth am gostau.

"Bysen i'n dadlau bod cymdeithas w芒r yn un ble mae gan bawb mynediad i ddiwylliant," meddai.

"[Ond] law yn llaw 芒'r argyfwng costau byw, mae 'na argyfwng yn y diwydiant digwyddiadau, ble mae costau wedi mynd drwy'r to.

"Felly roedd 'na bwynt llynedd ble roedd rhaid i ni edrych ar ble i wneud arbediad o 拢1m, a dyna'r realaeth i ddigwyddiadau."

Disgrifiad o'r llun, Awgrymodd Betsan Moses y gallai fod yn annheg cael Eisteddfod arall am ddim yn y de os nad oedd llefydd yn y gogledd hefyd yn cael y cynnig

Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi ceisio cadw costau i lawr, gyda phris tocyn bargen gynnar "yr un pris 芒 thocyn 10 mlynedd yn 么l".

Roedd Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhoi cefnogaeth ar gyfer mynediad am ddim i鈥檙 诺yl yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, fel a gafwyd yng Nghaerdydd yn 2018.

Ond pwysleisiodd Betsan Moses mai鈥檙 "flaenoriaeth" oedd ceisio sicrhau cynlluniau fel mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel, fel sy鈥檔 digwydd eleni, yn hytrach na Phrifwyl arall yn y de am ddim.

鈥淥 ran tegwch, pam nad yw Gwynedd yn cael Eisteddfod am ddim, pam nad yw Wrecsam yn cael Eisteddfod am ddim?鈥 meddai.