Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Gofod i greu' wrth agor canolfan gelfyddydol newydd
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Newyddion S4C
Bydd canolfan gelfyddydol newydd ym Mangor yn hwb i greadigrwydd a鈥檙 sector greadigol yng ngogledd Cymru, yn 么l artistiaid.
Wedi buddsoddiad o 拢4.5m mae canolfan Nyth, sy鈥檔 eiddo i yn paratoi i agor ei drysau yn swyddogol ddiwedd yr haf, ond mae eisoes yn llawn bwrlwm.
Mae鈥檙 ganolfan wedi ei lleoli mewn hen eglwys yng nghanol dinas Bangor, sydd wedi ei thrawsnewid i gynnwys sawl stiwdio, neuaddau ymarfer ac ardaloedd ar gyfer gweithwyr goleuo a sain.
Er nad ydi鈥檙 ganolfan wedi agor yn swyddogol, mae sawl cynhyrchiad eisoes yn gwneud defnydd o鈥檙 safle cyn mentro ar deithiau ledled Cymru.
Bywyd newydd i hen adeilad
Er mwyn creu mynedfa hygyrch roedd yn rhaid tyllu dan ddaear i greu gofod gwastad a newydd, sydd hefyd wedi rhoi cyfle i osod swyddfeydd newydd a mannau cymunedol.
Yn 么l cwmni Fr芒n Wen roedd awydd pendant gan y cwmni a鈥檙 bobl ifanc ynghlwm i wneud defnydd o hen adeilad gwag yn hytrach na chodi adeilad newydd.
鈥淢ae鈥檙 pensaer wedi gwneud gwaith arbennig yn dod 芒鈥檙 hen a鈥檙 newydd at ei gilydd," meddai cyfarwyddwr artistig Fr芒n Wen, Gethin Evans.聽
鈥淢ae鈥檙 adeilad yn listed felly oeddan ni eisiau gwarchod y treftadaeth yna ond hefyd dod 芒 bywyd newydd."
Wrth ymweld 芒 Nyth roedd nifer o bobl ifanc yn sgriptio, ymarfer eu crefft ac yn paratoi am gynyrchiadau, gyda Hedydd Ioan yn eu plith.
鈥淢ae鈥檔 mynd yn 么l rhyw bum mlynedd... mwy r诺an... pan o'n i鈥檔 15 oed yn ymwneud 芒 Fr芒n Wen fel rhywun ifanc ac wrth weithio ar brosiectau haf - roedd s么n am yr adeilad newydd oedd am ddod.
鈥淒wi鈥檔 meddwl fod o wedi dod 芒 fi a lot o鈥檙 bobl ifanc sy鈥檔 gweithio efo鈥檙 cwmni yn agos i鈥檙 adeilad a 鈥榙a ni鈥檔 teimlo rhyw berchnogaeth dwi鈥檔 meddwl."
'Gwahoddiad i greu'
Mae Nyth yn cynnwys gofodau eang i ymarfer a mannau distaw i sgriptwyr a chyfarwyddwyr.
Un o鈥檙 mannau mwyaf trawiadol yw rhan hyna鈥檙 eglwys, sydd bellach yn ofod eang i ymarferion.
鈥淢a鈥檔 hollol hyblyg," meddai Gethin Evans.
鈥淒a ni鈥檔 gallu dod 芒 seti allan, da ni鈥檔 gallu dod 芒 pherfformiadau informal 'mlaen, mae 'na ymarferion yn digwydd ar hyn o bryd.
鈥淵 gobaith yw ei fod o'n wahoddiad i greu o鈥檙 newydd ac i gymunedau a phobl ifanc greu o鈥檙 newydd, ond hefyd i fynegi eu hunain.
鈥淢a鈥檔 rhan ddiddorol a phwysig o鈥檙 sector greadigol yn yr ardal ac i artistiaid gael y gofod i greu."
Ers prynu鈥檙 adeilad n么l yn 2019 mae鈥檙 gwaith adnewyddu wedi bod yn bellgyrhaeddol, gyda chyllid wedi deillio o sawl ffynhonnell fel y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.聽
Wedi blynyddoedd o actio ac ymarfer mewn hen siop 'sgidiau ar stryd fawr Bangor, mae actorion ifanc eisoes yn cymryd mantais.聽
鈥淒wi鈥檔 meddwl ma' 'na wastad wedi bod stigma o ran pobl sydd eisiau gwneud rhywbeth yn y celfyddydau,鈥 meddai聽Tesni Hughes, sy'n actio gyda chwmni Fr芒n Wen.
鈥淒oes na鈥檓 lot o gyfleodd 鈥榙a chi鈥檔 clywed am, ond r诺an ma' nyth yn massive, 'da chi methu methu fo.
"Felly, ma' cael lle mor fawr, lle mor boblogaidd efo sioeau poblogaidd yn digwydd - ma' gynno ni rhywbeth i 'neud a fydd pobl yn iwsio fo dwi鈥檔 meddwl."
Bydd Nyth yn agor yn swyddogol wedi cyfnod yr haf.