Rhoddion ymgyrch Gething: 'Ni ddylai Llafur dderbyn yr arian'

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

Ni fyddai鈥檔 iawn i Lafur gymryd arian sy'n weddill o'r rhoddion dadleuol i ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething, meddai aelod o鈥檌 gabinet.

Derbyniodd Mr Gething arian gan gwmni sy鈥檔 eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Dywedodd Mick Antoniw os mai ef oedd yn penderfynu, yna na fyddai am i'r blaid dderbyn unrhyw arian gan Dauson Environmental Group (DEG).

Awgrymodd y cwnsler cyffredinol, sef cynghorydd cyfreithiol uchaf Llywodraeth Cymru, y gallai unrhyw arian gael ei roi i elusen yn lle hynny.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud y byddai unrhyw arian ychwanegol yn mynd i Blaid Lafur y DU.

Nid yw'n glir ar hyn o bryd faint o arian sydd ar 么l o ymgyrch ddiweddar Mr Gething, a gododd fwy na 拢250,000.

Rhoddodd DEG 拢200,000 o'r swm hwnnw.

Mae Mr Gething wedi amddiffyn derbyn yr arian, gan fynnu ei fod wedi dilyn yr holl reolau.

拢42,000 yn fwy

Yn y cyfamser mae wedi dod i'r amlwg bod Mr Gething wedi cael 拢42,000 yn fwy na'r hyn a adroddwyd yn flaenorol ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth aflwyddiannus gyntaf, yn 2018, gan yr un cwmni dadleuol.

Dywedodd y Comisiwn Etholiadol ei fod wedi gadael yr arian ychwanegol o'i gronfa ddata rhoddion mewn camgymeriad, a ddaeth i'r amlwg yr wythnos hon ar 么l ymholiadau gan 大象传媒 Cymru.

Roedd ei wefan wedi dangos yn flaenorol bod cwmn茂au DEG wedi rhoi 拢38,000 i ymgyrch Vaughan Gething yn 2018, ond mae cyfrifon y cwmni o 2018-19 yn dangos ei fod wedi rhoi cyfanswm o 拢80,000.

Mae鈥檙 gronfa ddata sydd wedi鈥檌 diweddaru bellach yn dangos iddo godi cyfanswm o fwy na 拢112,000 y flwyddyn honno, gan gynnwys gan gwmn茂au DEG Atlantic Recycling, Neal Soil Suppliers a Cardiff Demolition.

'Ddim yn briodol'

Wrth siarad gyda'r 大象传媒 am yr ornest fwy diweddar, dywedodd Mr Antoniw na fyddai wedi bod yn 鈥渉apus鈥 i dderbyn yr arian gan Gr诺p Amgylcheddol Dauson.

鈥淒oeddwn i ddim yn ymgeisydd yn yr etholiadau penodol hynny. Byddwn wedi dewis cwrs gwahanol,鈥 meddai.

O ran a ddylai Llafur gymryd yr arian, dywedodd: 鈥淧e bai i fyny i mi yn unig, nid wyf yn meddwl y byddai'n briodol gwneud hynny.

鈥淢ae鈥檔 fater i bwyllgor gwaith Cymru [y Blaid Lafur] ei ystyried a dwi鈥檔 meddwl ei fod hefyd yn fater i ystyried pa opsiynau amgen allai fod.

鈥淓fallai ei fod yn rhywbeth y dylid ei roi i elusen neu opsiwn arall.鈥

O dan reolau鈥檙 Blaid Lafur byddai angen rhoi unrhyw arian dros ben o ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething i鈥檙 blaid.

Mae Llafur Cymru wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru o'r blaen mai hi, ac nid Llafur y DU, fyddai'n derbyn yr arian.

Ond mae鈥檙 Comisiwn Etholiadol wedi dweud y byddai鈥檙 arian yn mynd i鈥檙 Blaid Lafur ganolog.