´óÏó´«Ã½

'Neuadd fwyd y Sioe yn help i ddenu busnes o dramor'

Kirstie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae posib gwneud cysylltiadau gwerthfawr o gael presenoldeb yn y Sioe Fawr, medd Kirstie Jones o Hufenfa De Arfon

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Sioe Frenhinol wedi cael ei ddisgrifio gan fusnesau bwyd a diod Cymru fel "ffenest siop" ar gyfer denu prynwyr masnachol byd-eang.

Yn ôl rhai ar y 70 stondin yn Neuadd Fwyd y sioe, mae'r ardal yn pontio'r bwlch rhwng y cynhyrchwyr â'r marchnadoedd amrywiol, ac yn gyfle i greu cysylltiadau.

Daw hyn wedi i'r sector sicrhau trosiant o £9.3bn yn 2023.

"Yn y ddwy flwyddyn ddiwetha', 'dan ni wedi allforio i America," meddai Kirstie Jones, rheolwr marchnata Hufenfa De Arfon.

Ychwanegodd eu bod yn "'neud cysylltiadau reit dda yn y sioe" a bod Llywodraeth Cymru yn "dod â phobl rownd, rhai pobl o dramor yn dod yma" sy'n prynu nwyddau ar ran gwledydd eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Max Evans bod cwmni Crwst yn gwerthu nwyddau i gwmnïau amlwg fel Harrods a Selfridges

Wedi cychwyn drwy bobi bara o'u cartref yn 2016, mae gan gwmni Crwst ddau gaffi bellach, a nifer o wobrau i'w henw.

Mae eu cynnyrch nawr ar gael mewn siopau byd-enwog.

"Ar y funud ma' caramel range ni i gyd yn cael eu gwerthu yn Harrods, ma' hwnna'n big name drop i ni," meddai Max Evans, rheolwr gweithrediadau Crwst.

"Hefyd, mae granola ni fan hyn yn cael ei werthu yn Selfridges - two big names fan 'na…

"Ni'n cwrdd â phobl sy'n prynu stwff ni o fan 'ny a helpu i bridgeo y gap 'na.

"Bydden ni ddim yn cwrdd â nhw 'se nhw ddim yn dod i'r sioe. Mae'n helpu ni lot."

Disgrifiad o’r llun,

Prysurdeb ardal Neuadd Fwyd y Sioe Frenhinol

Uwch y neuadd fwyd ar faes y sioe mae lolfa fusnes, lle mae 300 o gynhyrchwyr yn arddangos eu bwyd a diod.

Mae 360 o brynwyr yn ymweld â'r ystafell yn ystod wythnos y sioe.

Gobaith Llywodraeth Cymru oedd cynyddu gwerth y sector 'sylfaen bwyd' i o leiaf £8.5 biliwn erbyn 2025.

Llynedd, serch hynny, roedd gan y sector - sef busnesau sy'n cynhyrchu, prosesu a chyfanwerthu nwyddau bwyd a diod - drosiant o £9.3 biliwn, gyda'r targed yn cael ei gyrraedd dwy flynedd yn gynnar.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ieuan Edwards bod ei gwmni, Edwards of Conwy, wedi dechrau gwerthu bwydydd i'r Dwyrain Canol

Wrth ddisgrifio cyflwr y sector bwyd a diod yng Nghymru, dywedodd Ieuan Edwards, cyfarwyddwr cwmni Edwards of Conwy: "Mae hwn yn ffenest siop nid yn unig i Gymru, ond i Brydain ac Ewrop hefyd.

"'Dan ni, er enghraifft, wedi dechrau gwerthu yn y Middle East.

"Ma' hynny'n dod yn aml iawn oherwydd y gwelwch chi brynwr yn dod i'r sioe 'ma, achos mae o'n un o'r sioeau mwya' blaenllaw yn Ewrop bellach, a mae hyn yn rywbeth fedrwn ni gyd fod â hyder ynddo fo, a balchder hefyd."

Pynciau cysylltiedig