Pryder am holl swyddi Wilko ar 么l i drafodaethau fethu

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd disgwyl eisoes i siop Wilko ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd gau yr wythnos hon

Mae pryder am holl swyddi Wilko yng Nghymru ar 么l i drafodaethau i achub y busnes fethu.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd gweinyddwr y byddai chwech o'r 28 o siopau yng Nghymru - ynghyd 芒 chanolfan dosbarthu - yn cau yr wythnos hon.

Ond ddydd Llun dywedodd undeb gweithwyr GMB y bydd yr holl siopau'n cau erbyn dechrau Hydref.

Mae'n golygu bod tua 950 o bobl yng Nghymru yn wynebu colli eu swyddi.

Roedd perchennog HMV, Doug Putman, wedi bwriadu cadw hyd at 300 o'r siopau ar agor.

Fe ddaeth y trafodaethau ar 么l i fusnes Wilko fynd i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf.

Daeth cadarnhad y bydd siopau Bae Caerdydd, Llandudno a Phort Talbot yn cau ddydd Mawrth, a siopau Treforys, Heol y Frenhines Caerdydd a'r Rhyl ddydd Iau.

Dywedon hefyd y bydd canolfan ddosbarthu Magwyr yn cau yr wythnos hon.

Ond ar 么l i drafodaethau fethu, erbyn hyn, fe fydd yr holl siopau'n cau erbyn dechrau fis nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad i bapur newydd The Sun, fe awgrymodd Doug Putman fod costau cynyddol wedi cymhlethu'r cais i achub y busnes.

"Mae鈥檔 siom fawr na allwn barhau 芒鈥檙 broses brynu ar gyfer Wilko bellach ar 么l gweithio gyda gweinyddwyr a chyflenwyr dros nifer o wythnosau i chwilio am ffordd i鈥檞 achub fel busnes byw," dywedodd.

"Doedd dim modd sicrhau sylfaen sefydlog i sicrhau llwyddiant hirdymor i'r busnes a'i bobl yn y ffordd y byddem wedi dymuno," ychwanegodd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn "newyddion trist iawn" fod yr ymdrech i achub Wilko heb fod yn llwyddiannus.

Fe addawodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag eraill i geisio dod o hyd i gyfleoedd swyddi i'r staff.

Fe allai rhai o siopau Wilko gael eu gwerthu i gwmn茂au eraill fel Poundland neu The Range.

Mae disgwyl i weinyddwr gyhoeddi manylion colledion swyddi a siopau dros y dyddiau nesaf.