Pryder am ddyfodol pedair cangen Swyddfa'r Post yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Ian S/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Mae Swyddfa'r Post Caernarfon yn un o'r canghennau sy'n wynebu dyfodol ansicr

Mae posibilrwydd y gallai pedair cangen Swyddfa'r Post yng Nghymru gau dan gynlluniau newydd y cwmni.

Daw hyn wrth i Swyddfa'r Post gychwyn trafodaethau am ddyfodol y canghennau - sy'n gwneud colled ariannol.

Ar draws y DU, mae'n bosib y gallai hyd at 115 o ganghennau gau, a channoedd golli eu swyddi wrth i'r busnes geisio ailstrwythuro.

Mae tua 1,000 o bobl yn gweithio yn y canghennau yma ac mae pedair cangen o Gymru ar y rhestr, gan gynnwys Caernarfon.

Gallai hyn olygu fod manwerthwyr fel WHSmith yn cymryd rheolaeth o rai o'r canghennau.

Pa ganghennau sydd mewn perygl?

Y pedair cangen yng Nghymru sydd ar y rhestr gyda'r posibilrwydd o gau yw:

  • Y Maes, Caernarfon
  • Stryd John, Merthyr Tudful
  • Heol yr Orsaf, Port Talbot
  • Stryd Wyndham, Pen-y-bont ar Ogwr

Angen 'dechrau newydd' i Swyddfa'r Post

Dywedodd undeb y CWU, sy'n cynrychioli gweithwyr Swyddfa'r Post, ei bod yn "anfoesol" bod y cwmni yn cynnig y newidiadau tra bo'r ymchwiliad i sgandal Horizon yn parhau.

Rhwng 1999 a 2015 cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn wedi i'r rhaglen gyfrifiadurol nodi'n anghywir bod arian wedi diflannu o'u canghennau.

Mae gan Swyddfa'r Post 11,500 o ganghennau ar draws y DU, gyda nifer ohonynt yn fanwerthwyr, a 115 yn Swyddfeydd Post y Goron.

Y llywodraeth sy'n gyfrifol am Swyddfa'r Post.

Nod yr adolygiad strategol, sy'n yn cael ei arwain gan gadeirydd newydd Swyddfa'r Post Nigel Railton, yw ailwampio sut mae'r sefydliad yn gweithredu.

Dywedodd wrth is-bostfeistri ddydd Mercher fod angen i Swyddfa'r Post gael "dechrau newydd" a bod "cynnig newydd" am eu rhoi "wrth galon y busnes".

Mae'r cwmni yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys cystadleuaeth gan gwmn茂au dosbarthu parseli eraill fel Evri, a'r ffaith fod llai o bobl yn gyrru llythyron, ac o ganlyniad mae refeniw y canghennau yn cael eu heffeithio.

Bwriad yr aildrefnu yw sicrhau fod y busnes mewn gwell lle yn ariannol, ond daw hyn yn ystod camau olaf yr ymchwiliad i sgandal Horizon.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes a Masnach: "Mae'r llywodraeth mewn trafodaethau cyson gyda Nigel Railton ynghylch ei gynlluniau i roi is-bosfteistri wrth galon y sefydliad ac i gryfhau rhwydwaith Swyddfa'r Post er lles ei ddyfodol hir dymor."