'Angen newid sut ni'n meddwl am ein dillad ni'

Disgrifiad o'r llun, Mae Sam yn dweud bod busnes hi yn "ail-feddwl gwastraff ffasiwn a thecstilau"
  • Awdur, Ellie Carter
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Ydych chi'n dueddol o brynu gwisg newydd bob tro chi'n mynd allan? Neu a yw siopa a gwerthu ar apiau fel Vinted yn hobi newydd chi?

Beth am fynd mis heb brynu rhywbeth newydd?

Trwy gydol mis Medi, mae elusen Oxfam yn rhedeg prosiect Second Hand September, lle maen nhw'n annog pobl i brynu dillad ail-law a rhoddi eu dillad diangen i helpu lleihau'r angen am ddillad newydd.

Yn 么l ymchwil gan gr诺p eCommerce, y siopwyr ieuengaf - pobl yn eu harddegau, 20iau a 30au - yw'r siopwyr ail-law mwyaf gweithgar.

Disgrifiad o'r llun, Trwy gydol mis Medi, mae elusen Oxfam yn rhedeg prosiect Second Hand September

Mae Sam Eastcott, 25 oed o Gaerffili, yn dweud nad yw hi wedi prynu dilledyn newydd ers tair blynedd.

Fe wnaeth siopa ail-law dod yn "naturiol" iddi hi, meddai, ar 么l methu 芒 ffeindio pethau i'w siwtio ei steil hi ar y stryd fawr.

"Fi ddim yn hoffi beth ma' pawb arall yn gwisgo, felly nes i ddechrau mynd i siop elusen i edrych am stwff gwahanol," meddai.

"Pan o'n i'n mynd i鈥檙 stryd fawr doedd dim byd yn ffitio fi yn gywir - oedd o yn rili frustratio fi."

Ar 么l gadel y brifysgol, roedd Sam yn edrych am ffordd o greu busnes gyda dillad ail-law.

"Nes i ddechrau trwy werthu dillad fy hunan, a wedyn o'n i'n rhedeg mas o ddillad fy hun.

"Felly es i siop elusen a prynu p芒r o 'sgidiau Adidas Gazelles am 拢7 a glanhau nhw."

'Meddwl am ein dillad ni yn wahanol'

Erbyn hyn, mae Sam wedi agor dwy siop ail-law yn ei hardal leol, ac yn rhedeg dosbarthiadau i ddysgu pobl sut i drwsio hen ddillad, neu eu troi nhw'n rhywbeth newydd.

"Ni'n dysgu chi sut i lanhau neu up-cyclio dy ddillad dy hunan, ni'n trio dathlu siopa ail-law a meddwl am ein dillad ni yn wahanol," meddai.

"Ni鈥檔 'neud gwersi gwn茂o, ni hefyd yn hyfforddi designers sydd eisiau gwerthu eu dillad nhw.

"Ni'n dangos pobl sut i newid crys dynion i mewn i grys sydd wedi cael ei ysbrydoli gan ddillad Ganni, sy'n mynd am dros 拢100."

Disgrifiad o'r llun, Mae Sam yn cynnal sesiynau lle mae hi'n dysgu pobl sut i adfer a thrwsio eu dillad

Yn 么l ymchwil newydd gan Oxfam Cymru, pe bai pawb yng Nghymru'n prynu un p芒r o j卯ns ail-law yn hytrach na rhai newydd, byddai'n arbed digon o dd诺r i lenwi 16,000 o boteli.

Mae Sam yn credu bod prosiectau fel Second Hand September yn "bwysig iawn", ond bod rhaid cofio fod modd siopa ail-law trwy gydol y flwyddyn.

"Mae hi hefyd yn bwysig atgoffa pobl pam ni'n neud e - y rhesymau tu 么l iddo fe, achos mae鈥檔 hawdd i gwmn茂au massive ddweud eu bod nhw鈥檔 defnyddio fabrics recycled, ond rili, mae鈥檔 green-washing."

Yn ei siop hi, mae Sam yn cynnig cymhellion fel Second Hand Saturdays - os yw rhywun yn dod 芒 hen ddilledyn i mewn ar ddydd Sadwrn, maen nhw'n cael arian i'w wario yn y siop amdano.

"Ni'n rhoi 拢1 am bob eitem. Mae popeth yn cael eu circulatio yn lleol, sydd yn neis."

Disgrifiad o'r llun, Mae Catrin, Maddy a Izzy newydd ddechrau astudio ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru

Yn ystod wythnos y glas, mae myfyrwyr Prifysgol De Cymru wedi bod yn gweithio gydag Oxfam ym Mhenarth i greu gwahanol wisgoedd o'r dillad a roddwyd i'r siop elusen.

"Cadw lan gyda trends" yw'r peth anoddaf yn 么l Maddy - sy'n astudio ffasiwn - a dyna pam mae siopa ail-law yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg pobl ifanc.

"Ma' TikTok yn ap da i dangos sut chi'n gallu ailddefnyddio pethau," ychwanegodd Catrin, sydd ar yr un cwrs.

Dywedodd Izzy ei bod hi'n "hoff iawn" o ddefnyddio apiau fel Vinted a Depop i chwilio am ddillad ail-law.

"Meddylia os wyt ti am wisgo'r dillad fwy nag unwaith," yw'r cyngor mae Izzy yn ei roi.

Disgrifiad o'r llun, Mae Phillipa yn hoffi sgwrsio gyda phobl sy'n dod i'r siop

Mae Phillipa Gibson wedi bod yn gwirfoddoli yn siop Oxfam Aberteifi ers wyth mlynedd.

Mae hi wedi sylwi bod mwy o bobl yn dod mewn i'r siop yn ddiweddar.

"Falle costau byw yw hynny, ond ma' pobl yn sylwi bod bargains i gael," meddai.

Ond dyw Phillipa ddim yn poeni am apiau fel Vinted yn cymryd busnes oddi ar y siop.

"Fi'n sylwi bod pobl yn hoffi dod mewn a gweld dillad ac i drio nhw ymlaen," meddai.

"Pobl dlotaf y byd sydd yn ennill pan ti'n siopa mewn siop elusen."