Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
G锚m gyfartal i Gymru oddi cartref yn erbyn Twrci
Fe wnaeth Cymru frwydro i gael g锚m gyfartal yn erbyn Twrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Sadwrn.
Dyma oedd pumed g锚m Craig Bellamy wrth y llyw a nid yw Cymru wedi colli ers iddo gymryd yr awennau.
Roedd pedwar newid i'r t卯m a ddechreuodd yn erbyn Montenegro fis diwethaf gyda Kieffer Moore, Wes Burns a'r amddiffynnwr Owen Beck i gyd wedi鈥檜 hanafu.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn parhau yn yr ail safle yng ngr诺p 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd,
Roedd yr hanner cyntaf yn llawn cyffro gyda chefnogaeth i'r t卯m cartref yn atseinio'n gryf o un pen y cae i'r llall.
Er i Gymru gael sawl cyfnod ar y droed flaen i roi Twrci dan bwysau, y t卯m cartref oedd yn rheoli'r meddiant gyda sawl cyfle addawol at y g么l.
Cafodd Twrci 11 ymdrech at y g么l yn ystod yr hanner cyntaf, o'i gymharu a dim ond un gan y Cymry.
Daeth cyfle mwyaf addawol y t卯m cartref gyda rediad cyflym yr ymosodwr Ynus Akgun ond llwyddodd Karl Darlow i atal y b锚l rhag croesi'r llinell.
Roedd saib yn y g锚m ym munudau olaf yr hanner cyntaf wrth i Joe Rodon a Mark Harris dderbyn triniaeth ar y cae ar 么l taro eu pennau yn erbyn ei gilydd.
Wedi i'r g锚m ail-ddechrau daeth eiliad o obaith i'r Cymry.
Fe wnaeth Harry Wilson gymryd cyfle gyda'i droed chwith ond tarodd y b锚l yn erbyn y postyn mewn ymdrech agos iawn.
Yn dilyn hanner cyntaf llawn cyffro di-sg么r oedd hi ar yr egwyl.
Cafodd Cymru ddechrau mwy cyfforddus i'r ail hanner. Daeth Daniel James ymlaen i gymryd lle Mark Harris a dangosodd ei gyflymder wrth ymyl Sorba Thomas a Brennan Johnson.
Gyda'r dorf yn parhau i ysgogi'r t卯m cartref, dechreuodd Cymru i golli'r b锚l yn aml yng nghanol y cae.
Fe ildiodd Sorba Thomas gic rydd am gyffwrdd a'r b锚l gyda'i law ond roedd ergyd Orkun Kokcu yn rhy llydan i roi Twrci ar y blaen.
Yr un oedd canlyniad y ddau gyfle nesaf - teithiodd y b锚l yn llydan heibio'r g么l.
Daeth ergyd i Gymru wrth i Joe Rodon dderbyn garden felen ac ildio cic o'r smotyn i'r t卯m cartref - tarodd y b锚l y postyn unwaith eto.
Bydd Cymru yn croesawu Gwlad yr I芒 i Gaerdydd ddydd Mawrth.