Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Fferyllfeydd cymunedol yn wynebu'r cyfnod 'anoddaf erioed'
- Awdur, Sion Tootill
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae rhybudd bod fferyllwyr cymunedol yn wynebu 鈥渕wy o bwysau nag unrhyw bryd arall yn y 40 mlynedd diwethaf鈥.
Ar gyfartaledd, caeodd 18 fferyllfa gymunedol bob wythnos yn y DU rhwng Ionawr a Mehefin 2024, yn 么l ymchwil gan gwmni cyfrifeg PwC.
Yn 么l Mark Griffiths, cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru - corff sy'n cynrychioli 700 o fferyllfeydd annibynnol ar draws y wlad - mae dyfodol rhai o fferyllfeydd Cymru'n ansicr oherwydd costau uwch a phwysau cynyddol i ddarparu mwy o wasanaethau.
Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud bod gan fferyllwyr cymunedol r么l hanfodol i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd.
Mae fferyllwyr cymunedol - sy'n cael eu cyflogi gan GIG Cymru - yn prosesu presgripsiynau, gwerthu meddyginiaeth dros y cownter ac yn trin rhai cyflyrau.
Mae Jenny White wedi rhedeg ei fferyllfa yn Rhosneigr, Ynys M么n, gyda鈥檌 g诺r ers 2019.
Mae hi鈥檔 teimlo bod sefyllfa bresennol fferyllfeydd yn 鈥渄orcalonnus鈥.
鈥淔e ddes i鈥檔 fferyllydd oherwydd o鈥檔 i eisiau helpu pobl, ond mae鈥檔 teimlo fel ei bod yn mynd yn anoddach ac yn anoddach gwneud hynny," meddai.
Mae'r gwasanaethau ychwanegol mae Jenny yn cynnig i gleifion, fel cynnal clinig, yn golygu bod ganddi lai o amser i brosesu presgripsiynau.
"Rwy'n hoffi bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni ddarparu gwasanaethau ychwanegol," meddai.
"Rwy'n hoffi gwneud y pethau dwi wedi hyfforddi i'w gwneud a darparu gofal i'r gymuned."
Yn 么l Jenny, byddai modd cynyddu a thyfu'r gwasanaethau yn ei fferyllfa hi, ond "dyw hynny ddim yn bosib gyda'r cyllid" sydd ar gael iddi ar hyn o bryd.
鈥淣id heb gael unrhyw arian ychwanegol eleni, ond mae ein costau ni wedi codi.
"Dwi a fy ng诺r yn aml yn gweithio dros ein horiau erbyn hyn er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau sylfaenol ni ar gael i bobl, ond tydi hynny ddim yn gynaliadwy."
Mark Griffiths yw cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru, ac mae wedi gweithio yn y diwydiant ers dros 40 mlynedd.
Mae鈥檔 credu mai dyma鈥檙 cyfnod "anoddaf erioed i fferyllfeydd".
鈥淩y鈥檓 ni wedi gweld cyflogau staff yn codi鈥檔 gyflym, costau cyffredinol fel biliau ynni yn codi a galw i ddarparu gwasanaethau ychwanegol, ond yn anffodus dydyn ni ddim wedi gweld y cyllid sydd ar gael yn cyfateb 芒 hynny oll,鈥 meddai.
Dywedodd bod llawer o fferyllfeydd wedi dweud eu bod wedi gorfod edrych ar lefelau staffio neu gwtogi ar eu horiau agor i arbed arian.
鈥淵n syml, mae hon yn sefyllfa anghynaladwy," meddai.
"Rydyn ni'n gwneud y gorau gallwn ni, ond dwi'n credu y gallen ni wneud yn well os ydyn ni'n cael ein hariannu i'r lefel cywir."
Ers bron i flwyddyn mae Arfon Bebb wedi bod yn fferyllydd yn Llanberis.
Mae'n dweud bod diffyg cyflenwad a phrisiau uchel meddyginiaethau'n "peri pryder".
"'Da ni am hanner cynta' pob mis gydag ansicrwydd mawr, o ran y meddyginiaethau 'da ni yn gallu cael gafael ynddyn nhw - bod y prisiau wedi codi ond 'da ni ddim yn cael ein had-dalu prisiau sy鈥檔 cyfro鈥檙 costau yna," meddai.
"Mae鈥檙 ansicrwydd yna - a ydyn ni鈥檔 gallu darparu meddyginiaethau heb wneud colled - yn teimlo鈥檔 annheg iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan fferyllwyr cymunedol r么l hanfodol i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ogystal, maen nhw鈥檔 dweud eu bod wedi cynyddu鈥檙 cyllid sydd ar gyfer y Fframwaith Cytundebol Fferylliaeth Gymunedol fwy na 拢25m ers i鈥檙 diwygiadau eang i drefniadau cytundebol fferylliaeth gymunedol ddechrau yn 2016/17.
Dywedodd y llefarydd fod hyn yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau clinigol, gan alluogi mwy o bobl yng Nghymru i gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnyn nhw.