ý

Badenoch 'yn agored' i ystyried un rôl arweiniol i’r Ceidwadwyr Cymreig

Sam Kurts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Samuel Kurtz fod yr arweinydd newydd “eisiau i ni fel aelodau’r Senedd gael rhan wrth siapio’r blaid wrth symud ymlaen"

  • Cyhoeddwyd

Mae Cadeirydd Grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd yn dweud bod Kemi Badenoch yn “agored iawn” i alwadau i greu un rôl benodol fel Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Ysgrifennodd Samuel Kurtz at yr holl ymgeiswyr i olynu Rishi Sunak yn gofyn iddyn nhw wneud arweinydd grŵp y Senedd yn arweinydd swyddogol y blaid yng Nghymru.

Kemi Badenoch enillodd y ras i arwain y Ceidwadwyr yn dilyn pleidlais o aelodau llawr gwlad y blaid, gan guro Robert Jenrick, sef dewis Arweinydd presennol y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Dywedodd Samuel Kurtz fod yr arweinydd newydd “eisiau i ni fel aelodau’r Senedd gael rhan wrth siapio’r blaid wrth symud ymlaen.”

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Andrew RT Davies wedi rhoi ei gefnogaeth gyhoeddus ef i wrthwynebydd Ms Badenoch yn y ras i arwain y blaid, Robert Jenrick

Ar hyn o bryd mae arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi ei rhannu rhwng Arweinydd y Grŵp yn y Senedd, Andrew RT Davies, Cadeirydd y Blaid yng Nghymru, Tomos Dafydd Davies, ac Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, yr Arglwydd Byron Davies.

Ond mae 'na alwadau ers tro gan Aelodau Ceidwadol Senedd Cymru i'r arweinydd yn y Senedd fod yn arweinydd swyddogol ar y blaid yng Nghymru.

Dywedodd Mr Kurtz ei fod yn credu bod arweinydd newydd y Ceidwadwyr ym Mhrydain yn gwrando ar y galwadau hynny.

“Mae Kemi eisiau gwrando arnom ni fel Aelodau o’r Senedd, fel Cynghorwyr lleol, fel yr aelodaeth, am beth fydd yn gwella’r sefyllfa i ni fel plaid yng Nghymru.

"Ac mae’r ffaith fod ein harweinydd ni, Andrew RT Davies, dim ond yn arweinydd y Grŵp ym Mae Caerdydd a ddim yn Arweinydd y blaid yng Nghymru – roedd hi’n agored ar hwnnw ac mae hi eisiau cydweithio.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kemi Badenoch sydd wedi ei hethol yn arweinydd nesa'r Blaid Geidwadol

Roedd Andrew RT Davies wedi rhoi ei gefnogaeth gyhoeddus ef i wrthwynebydd Ms Badenoch yn y ras i arwain y blaid, Robert Jenrick.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Telegraph, dywedodd fod gan Mr Jenrick “gynllun clir ar sut i adfer ffydd yng ngwleidyddiaeth Prydain” a bod “y cyhoedd wedi cael digon o wleidyddion di-bolisi.”

Roedd Mr Jenrick wedi cyhuddo Kemi Badenoch o fod yn “amharchus” at aelodau Ceidwadol yn ystod yr ornest arweinyddiaeth, am fethu â chynnig polisïau clir.

Ond wrth ymateb i’r cyhoeddiad bod Kemi Badenoch wedi ennill y ras i olynu Rishi Sunak, dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn llongyfarch Kemi Badenoch ar ddod yn arweinydd ac yn galw ar ei blaid i “ddod at ei gilydd” tu ôl iddi.

“Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn longyfarch Kemi ar ddod yn arweinydd ein plaid a dymuno’n dda iddi wrth arwain Gwrthblaid Ei Mawrhydi.

"Cyflwynodd y ddau ymgeisydd weledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein gwlad a nawr bod yr ornest wedi dod i ben, mae’n bryd i ni ddod at ein gilydd a chefnogi Kemi i ddwyn y Llywodraeth Lafur ofnadwy hon i gyfrif sydd eisoes wedi achosi cymaint o niwed i Gymru yn eu cyfnod byr mewn grym.

“Mae’n hanfodol ein bod yn dod â rheolaeth Llafur ar ddau ben yr M4 i ben, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Kemi i wneud i hynny ddigwydd.”

Wrth ymateb i’r ffaith fod Andrew RT Davies wedi cefnogi gwrthwynebydd yr arweinydd newydd, dywedodd Samuel Kurtz fod hynny’n “benderfyniad i Andrew.”

“Ond nawr fod Kemi wedi ennill fi’n gwybod bydd Andrew yn tynnu tu ôl i Kemi ac uno'r blaid yma yng Nghymru tu ôl i’r arweinydd newydd.”

Wrth siarad ar ôl cyhoeddi’r canlyniad fore Sadwrn, dywedodd Kemi Badenoch bod angen ymestyn allan at holl aelodau Ceidwadol ledled y Deyrnas Unedig er mwyn ail-adeiladu’r blaid.

“Mae’r gwaith enfawr hwnnw’n dechrau nawr. A byddwn ni’n gweithio i gynnwys ein holl gydweithwyr yn hynny o San Steffan i Senedd yr Alban i Senedd Cymru, ein ffrindiau yng Ngogledd Iwerddon ynghyd â chynghorwyr ac aelodau’r blaid.”

Pynciau cysylltiedig