大象传媒

Guto Harri yn galw ar Andrew RT Davies i ymddiswyddo

Guto Harri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen arweiniad newydd ar y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, medd Guto Harri

  • Cyhoeddwyd

Mae angen "arweiniad newydd" ar y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, ac i'r blaid ddangos nad ydyn nhw ond "yno am y cyflog" yn 么l cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson yn Downing Street.

Dywedodd Guto Harri wrth 大象传媒 Radio Wales Breakfast bod Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd angen "pwrpas a gwir synnwyr o uchelgais o ran pam maen nhw yna".

Andrew RT Davies yw arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn y Senedd ers dychwelyd i'r r么l ddechrau 2021.

Ond yn 么l ffynhonnell sy'n agos at Mr Davies, mae Mr Harri "yn troi o fewn cylchoedd cenedlaetholgar Cymreig" sy'n cynnwys unigolion "nad sydd 芒 buddion y Blaid Geidwadol Gymreig mewn golwg".

'Yna i gynnig dewis amgen'

Dywedodd Guto Harri ar y rhaglen ddydd Mawrth: "Wna'i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod a dweud fy mod yn meddwl bod y Blaid Geidwadol yn y Senedd angen arweiniad newydd, synnwyr o bwrpas a gwir synnwyr o uchelgais o ran pam maen nhw yna.

"Dydyn nhw ddim yno ond i gael cyflog. Maen nhw yno i gynnig dewis amgen i'r hyn sydd wedi bod, hyd yma, yn wladwriaeth un blaid trwy holl gyfnod datganoli."

Nododd taw "prawf mawr" cyntaf arweinydd nesaf Ceidwadwyr y DU, yn dilyn etholiad mis Tachwedd, fydd etholiadau Senedd Cymru a Senedd Yr Alban yn 2026.

Dywedodd Mr Harri ei fod yn gobeithio y bydd y chwe ymgeisydd yn canolbwyntio'n "llwyr" ar y realiti yna "dros yr wythnosau nesaf".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew RT Davies wedi ennyn beirniadaeth o sawl cyfeiriad dros yr wythnosau diwethaf

Dywedodd Andrew RT Mr Davies fis diwethaf nad oedd yn teimlo bod ei swydd dan fygythiad, yn sgil sylwadau dadleuol ynghylch cig halal mewn ysgolion ac ymddiheuriad gan un o aelodau ei gr诺p dros ddefnyddio term hiliol.

Fe gafodd ei feirniadu hefyd gan un o'i ragflaenwyr, yr Arglwydd Nick Bourne, dros neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ysgogi dadl ynghylch a ddylid diddymu'r Senedd.

Mynnodd Mr Davies ei fod ond yn ceisio barn y cyhoedd mewn sioe amaethyddol, ac fe danlinellodd nad yw'n bolisi gan ei blaid, na'i hun yn bersonol, y dylid diddymu'r Senedd.

Tua'r un pryd fe fynegodd rhai Aelodau Ceidwadol o'r Senedd bryderon yn breifat ynghylch negeseuon Mr Davies ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd un bod y negeseuon yn gynyddol "anodd eu hamddiffyn" a phe byddai pethau'n parhau ar yr un trywydd y byddai ei sefyllfa yn "anghynaladwy".

'Taro tant gyda'r cyhoedd'

Mewn ymateb i sylwadau Guto Harri fe gyhuddodd ffynhonnell sy'n agos at Andrew RT Davies y sylwebydd gwleidyddol o droi "o fewn cylchoedd cenedlaetholgar Cymreig".

"Does gan y bobl hyn mo fuddiannau'r Blaid Geidwadol Gymreig mewn golwg - dim ond eu hawydd i ehangu datganoli," dywedodd.

"Mae gwrthwynebiad Andrew i greu 36 yn rhagor o wleidyddion yn y Senedd yn boblogaidd ac yn taro tant gyda'r cyhoedd, gan greu gwahaniaeth amlwg gyda Llafur a chenedlaetholwyr Plaid Cymru.

"Mae'r rheiny sydd eisiau disodli Andrew ag obsesiwn 芒 ffugio cydsyniad ar gyfer datganoli mwy o bwerau, ac maen nhw'n gwybod na fydd yn gadael i hynny ddigwydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Guto Harri yn falch o weld r么l i David TC Davies ym Mae Caerdydd, gan ddweud ei fod yn "ymroddgar eithriadol i Gymru"

Yn ei gyfweliad ddydd Mawrth, fe holwyd Mr Harri hefyd ynghylch penderfyniad y cyn Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol, David TC Davies i dderbyn swydd fel uwch ymgynghorydd i'r AS Laura Anne Jones, sy'n destun ymchwiliad heddlu dros dreuliau.

Fe gollodd Mr Davies sedd Mynwy yn etholiad cyffredinol mis Gorffennaf.

Dywedodd Mr Harri ei fod "wedi gwneud cyfraniad mawr i wleidyddiaeth Cymru, yn y Senedd - neu'r Cynulliad fel yr oedd ar y pryd - ac yna yn San Steffan".

Ychwanegodd ei fod "yn ymroddgar eithriadol i Gymru, felly mae'n dda i'w weld yn rhan [o wleidyddiaeth Cymru] yn hynny o beth".