'Gallai symud i Loegr arbed 拢1,000 y mis mewn cost gofal plant'
- Cyhoeddwyd
Mae mam i dri o blant ifanc yn dweud y gallai hi arbed dros 拢1,000 y mis mewn costau gofal plant drwy symud dros y ffin i Loegr.
Mae gan Emily Broughton, 36 ac sy'n byw tua 10 milltir o'r ffin 芒 Lloegr yn Sir Fynwy, blentyn tair oed, a gefeilliaid a gafodd eu geni ym mis Awst.
Yn 么l Emily, mae'r gwahaniaethau mewn costau gofal plant rhwng y ddwy wlad yn rhwystredig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi dros 拢100m mewn gofal plant ar gyfer plant dros ddwy oed bob blwyddyn.
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
Mae Emily yn gweithio i elusen amgylcheddol tra bod ei g诺r James yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd.
Yn Lloegr, mae rhywfaint o ofal plant ar gael am ddim i fabanod dros naw mis oed, ond yng Nghymru mae nifer o deuluoedd yn gorfod aros tan ddechrau'r tymor ysgol cyntaf ar 么l i'w plentyn droi yn dair oed.
"Dwi'n meddwl 'sa ni'n arbed rhwng 拢1,000 a 拢1,400 bob mis pe bai ni'n byw tua 10 milltir lawr y lon yn Lloegr," meddai Emily.
"Byddai teithio yn 么l dal yn bosib ac mae teulu gennym ni yn Lloegr... wrth ystyried faint o arian gallwn ni ei arbed dros sawl blwyddyn mae symud yn rhywbeth sydd yn werth meddwl amdano."
Esboniodd eu bod nhw wedi aros tan fod eu plentyn cyntaf yn dair oed cyn cael plentyn arall er mwyn bod yn si诺r y byddai cefnogaeth ariannol ar gael.
Mae Emily wedi bod yn talu tua 拢900 y mis am dridiau a hanner o ofal plant yr wythnos i'w plentyn hynaf. Mae hi'n disgwyl y bydd costau ar gyfer yr efeilliaid yn ddwbl hynny.
"Bydd rhan fwyaf fy nghyflog i wedi mynd, a dwi'n meddwl mai'r realiti i nifer o deuluoedd dyddiau yma yw ei bod hi'n ofnadwy o anodd i fyw ar gyflog un person.
"Mae nifer o deuluoedd angen cymorth nawr."
'System Lloegr yn well nag un Cymru'
Ers mis Medi, mae costau gofal plant ei phlentyn hynaf wedi gostwng i 拢300 y mis gan ei bod hi bellach yn dair oed.
"Mae 'na system dda yng Nghymru unwaith mae plant yn troi'n dair oed," meddai Emily.
"Ond os ydi'r ddau riant yn gweithio, mae'n anodd iawn tan hynny - mae tair blynedd yn amser hir a dydi hi ddim yn glir sut 'da ni'n fod i ymdopi gyda hynny.
"Dyw'r system gofal plant yn Lloegr ddim yn berffaith, ond mae o bendant yn well na'r un yng Nghymru."
Pa gymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru?
Mae gofal plant yn fater sydd wedi ei ddatganoli, ac mae gan Lywodraeth Cymru ddau gynllun maen nhw'n ariannu ar hyn o bryd.
Mae cynllun Dechrau'n Deg yn darparu 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed sy'n byw mewn rhai ardaloedd mwy difreintiedig am hyd at 39 wythnos o'r flwyddyn.
Mae'r cynllun yma yn cael ei ehangu fesul cam a bydd ar gael yn y pen draw i bob plentyn dwy oed fel rhan o gytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dan yr ail gynllun, mae rhieni sy'n gymwys yn gallu hawlio hyd at 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn i blant dros dair blwydd oed.
Pa gymorth sydd ar gael i rieni yn Lloegr?
Yn Lloegr mae gwahanol gynlluniau yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd.
Ers mis Medi, mae rhieni sy'n gweithio yn gallu hawlio 15 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant dros naw mis oed, tra bod 30 awr o ofal plant eisoes ar gael i blant tair a phedair oed.
Erbyn mis Medi 2025 - fe fydd pob plentyn cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant am ddim yn ystod y tymor ysgol.
Ond mae rhai wedi mynegi pryder am nifer y llefydd fydd ar gael i blant, a phrinder staff posib wrth geisio ymdopi 芒'r cynnydd mewn galw.
Yn 么l Joeli Bearly, sylfaenydd elusen Pregnant then Screwed, mae'r system yng Nghymru yn fwy blaengar o'i gymharu 芒'r un yn Lloegr, ond yn "hynod aneffeithlon".
"Mae'n cosbi rhieni sengl a'r rhai sydd wedi rhoi genedigaeth i fwy nag un plentyn, tra bod y rhai ar incwm canolig i uchel yn fwy tebygol o elwa.
"Mae rhieni yn cael eu drysu gan yr holl wahanol systemau, sy'n golygu nad yw pob rhiant yn hawlio'r hyn sydd ar gael iddyn nhw."
Ychwanegodd Ms Bearly y byddai'n hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gofal plant: "Ry'n ni'n erfyn arnyn nhw i ddeall ei bwysigrwydd yn economaidd ac yn addysgol, ac i ystyried dulliau mwy effeithlon o fuddsoddi yn ei ddatblygiad."
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
Dywedodd Emily y byddai hi a'i g诺r yn hoffi dychwelyd i'r gwaith pan mae hynny'n bosib.
"Dylen ni gael cefnogaeth fel bod modd i ni barhau i weithio, yn enwedig ar 么l treulio cymaint o amser yn creu gyrfaoedd i ni'n hunain, a pan fyddai'n dychwelyd dyna fydd y prif reswm, yn bendant dim arian," meddai.
"Dwi'n teimlo y dylai mwy gael ei wneud i annog merched i weithio a'u cadw mewn swyddi, beth bynnag yw'r swyddi hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n buddsoddi dros 拢100m bob blwyddyn mewn gofal i blant dros ddwy oed drwy ein cynlluniau Dechrau'n Deg a'n cynlluniau Cynnig Gofal Plant.
"Mae'n cynnig Gofal Plant yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed.
"Yn wahanol i Loegr, mae ar gael i rieni sy'n hyfforddi neu mewn addysg yn ogystal 芒'r rhai sy'n gweithio.
"Mae'r cymorth ar gael am 48 wythnos bob blwyddyn, o'i gymharu 芒 38 wythnos yn Lloegr, ac mae hynny'n cynnwys rhywfaint o hyblygrwydd o ran darpariaeth yn ystod cyfnodau o wyliau."