'Angen gwell arwyddion' at gartref Owain Glynd诺r
- Cyhoeddwyd
Mae angen arwyddion twristiaeth ym Mhowys er mwyn cyfeirio ymwelwyr at gartref Owain Glynd诺r, medd trigolion lleol.
Maen nhw'n dweud bod rhai yn mynd ar goll wrth geisio dod o hyd i Gastell Sycharth.
Yn ddiweddar, dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n prynu'r safle er i filoedd arwyddo deiseb yn galw am wneud hynny.
Ond yn 么l un aelod o gabinet Cyngor Powys fe allai gosod arwyddion brown ddenu gormod o ymwelwyr.
Arwydd brown o gymorth
Mae Castell Sycharth wedi'i leoli i'r de o Lansilin.
Dros 600 mlynedd yn 么l roedd y lle yn llawn bywyd gydag ymwelwyr yn dod o bell ac agos.
Yn fwy diweddar mae鈥檙 castell wedi cael cryn sylw wrth i ddeiseb ag arni dros 10,000 o lofnodion alw ar Lywodraeth Cymru i brynu'r safle gan berchennog preifat - a hynny er mwyn ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.
Nawr mae 'na alw am osod arwyddion twristiaeth brown ar hyd y ffyrdd i鈥檙 castell mwnt a beili er mwyn hwyluso鈥檙 broses o ddarganfod y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Blaid Cymru: "Mae eisiau gwneud y mwyaf o鈥檔 treftadaeth - ma' eisiau 'neud y mwyaf o鈥檔 twristiaeth dreftadol.
鈥淵 flwyddyn nesa', mae gyda chi Eisteddfod yr Urdd lawr y ffordd a鈥檙 math o bobl fydde 芒 diddordeb yn ein treftadaeth hanesyddol ac felly ma' angen gwneud y mwya' o hynny - nid gweld e fel problem ond gweld e fel cyfle.
鈥淵 peth pwysig yw mater syml o hwyluso. Ma' 'na arwyddbyst sydd ddim yn bell o fan hyn yn cyfeirio at Lansilin, at Groesoswallt ac yn y blaen a bydde'n hawdd iawn rhoi聽Sycharth聽a chyfeirio pobl heb lawer o gost.
鈥淢a 'na arwyddion i fynd i Gastell Dolforwyn sy鈥檔 ffordd llawer iawn gwaeth a chulach ac mae rhiw serth i fynd ato o'r Drenewydd - da o beth yw hynny ond pam na allwn ni gael un yn fan hyn hefyd?"
I gyrraedd Castell Sycharth mae鈥檔 rhaid gyrru ar hyd lonydd cefn sir Drefaldwyn - maen nhw鈥檔 lonydd cul, ac hyd yn oed ar ddiwrnod braf a chlir dyw hi ddim yn gwbl amlwg lle mae safle鈥檙 castell.
Mae pobl yn mynd ar goll 鈥渂yth a beunydd鈥 wrth geisio dod o hyd i鈥檙 castell yn 么l Bryn Davies, sy鈥檔 gynghorydd sir ac yn byw gerllaw.
鈥淣i鈥檔 clywed am bobl sy鈥檔 trio cyfarfod yn y lle a methu dod o hyd iddo.
"Mae 鈥榥a amaturiaid wedi bod yn rhoi arwyddion fyny bob hyn a hyn ond beth sydd angen yw arwyddion swyddogol i ddangos yn glir o鈥檙 tri cyfeiriad gwahanol ble mae Sycharth.鈥
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023
Sycharth yn rhy fach?
Yn ddiweddar fe ysgrifennodd Aelodau Senedd Plaid Cymru, Cefin Campbell a Heledd Fychan at Gyngor Powys yn galw arnyn nhw i ystyried codi arwyddion twristiaeth.
Mewn ymateb fe ddywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach ei bod hi鈥檔 鈥渄eall yr angen i gael arwyddion digonol ar gyfer ein safleoedd hanesyddol amlwg a phwysig鈥 ond taw 鈥渘ifer cyfyngedig o lefydd parcio oedd yn Sycharth ac y gallai arwyddion ddenu mwy o ymwelwyr na mae鈥檙 safle鈥檔 gallu ei ddal".
Ychwanegodd Ms Charlton bod maint y lleoliad o bosib yn golygu 鈥渘a fyddai鈥檔 cael ei ystyried ar gyfer arwyddion twristiaeth鈥.
Yn 么l yr Athro Rhys Jones, o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, prin yw鈥檙 dystiolaeth bod arwyddion twristiaeth yn denu rhagor o ymwelwyr i safleoedd penodol.
鈥淢ae鈥檙 dystioaleth gyfyngedig sydd ar gael yn dangos nad oes lot fawr o impact gan yr arwyddion brown beth bynnag - yn sicr ar gyfer pobol sydd yn digwydd teithio ar hyd yr hewl ac yn meddwl 'dwi鈥檔 gweld arwydd brown fan hyn ar gyfer safle penodol - 'nai daro mewn i weld beth sydd i鈥檞 gynnig gan y safle'.
"Maen nhw鈥檔 fwy defnyddiol i bobol sy鈥檔 teithio ac sydd ddim yn gwybod ble mae鈥檙 safle, ond ma rheina鈥檔 bobol sydd wedi cynllunio i fynd i鈥檙 safle beth bynnag. Ma鈥檙 arwyddion brown falle yn gallu bod o gymorth fynna.鈥
'Syniad da' hyrwyddo hanes lleol
Yn nhre Llanfyllin, oddeutu wyth milltir o鈥檙 castell, roedd pobl leol yn sicr yn credu bod codi arwyddion brown ar gyfer y safle yn syniad da.
鈥淢ae鈥檔 syniad da i gael pobol i wybod am y lle ac i wybod am yr hanes,鈥 medd Iestyn. 鈥淢ae e鈥檔 le pwysig yn hanes Cymru.鈥
鈥淒wi wedi byw 鈥榤a ers naw mlynedd,鈥 medd Jo 鈥渁 dyw e ddim yn le o鈥檔 i wedi clywed am o鈥檙 blaen.
"Byddai [codi arwyddion brown] yn cael rhagor o bobl i fynd 'na a byddai pobl leol yn clywed am y lle.鈥
鈥淲rth gwrs鈥 oedd ateb Ann. 鈥淒wi鈥檔 gwybod ble mae Sycharth, ond does 鈥榥a ddim arwyddion yno cyn belled 芒 wela i. Wrth gwrs, i bobol cael gwybod lle mae o, achos mae o allan yn y wlad a does na ddim arwyddion na dim byd.鈥