Gweithwyr dur i streicio am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Bydd miloedd o weithwyr Tata Port Talbot yn colli eu swyddi yn sgil yr ailstrwythuro gan y cwmni

Bydd tua 1,500 o staff Tata Steel yn dechrau streic am gyfnod amhenodol fis nesaf dros gynlluniau'r cwmni i dorri miloedd o swyddi, yn 么l undeb Unite.

Dyma fydd y tro cyntaf mewn 40 mlynedd i weithwyr dur yn y DU fynd ar streic.

Bydd tua 2,800 o weithwyr Tata yn colli eu swyddi pan fo'r cwmni'n cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot erbyn diwedd Medi.

Mae'r cwmni yn bwriadu gosod ffwrnais drydanol gwerth 拢1.25bn yno er mwyn parhau 芒'r gwaith, ond bydd angen llawer llai o weithwyr ar honno.

Mae Tata yn dweud y bydd eu cynllun nhw yn achub dyfodol gwneud dur yn y DU, ac mae Llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢500m tuag at adeiladu'r ffwrnais drydan newydd.

Bydd staff Unite ym Mhort Talbot a safle Llanwern yng Nghasnewydd yn dechrau streicio ar 8 Gorffennaf.

Mae staff yr undeb eisoes wedi dechrau ar weithredu diwydiannol, gan wrthod gweithio dros eu horiau gwaith, a dydyn nhw ddim ychwaith yn gwneud unrhyw waith ychwanegol i'w cytundebau.

Mae Tata wedi annog Unite i ohirio'r gweithredu diwydiannol a dychwelyd i'r bwrdd trafod, fel y mae undebau eraill yn ei wneud.

Mae undebau Community a GMB - sydd hefyd yn cynrychioli llawer o weithwyr dur - wedi dweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i beidio 芒 threfnu unrhyw weithredu diwydiannol cyn yr etholiad cyffredinol.

Dadansoddiad ein gohebydd busnes Huw Thomas

Mae streicio yn gam allweddol a difrifol yn yr anghydfod rhwng undeb Unite a Tata Steel.

Tra bo鈥檙 ddau undeb arall - Community a鈥檙 GMB - yn dal i drafod dyfodol a diswyddiadau gweithwyr dur yn ne Cymru, mae Unite yn gamblo bod streicio yn gallu gwella鈥檙 hyn sy鈥檔 wynebu鈥檙 2,800 fydd yn colli eu swyddi.

Eisoes mae Tata Steel wedi dweud y bydd pecyn ariannol fwyaf ffafriol y cwmni yn cael ei dynnu oddi ar y ford, a hynny oherwydd penderfyniad Unite i gynnal gweithred ddiwydiannol yn barod.

Ac fe all y cwmni fynd i鈥檙 llys er mwyn ceisio atal y streic. Mae Tata Steel yn dweud bod gweithrediadau diwydiannol yn 鈥渁nghyfreithlon鈥 oherwydd 鈥渁nghysondebau鈥 ym mhleidlais Unite.

Dyw鈥檙 cwmni ddim wedi gofyn i farnwr benderfynu ar y mater hyd yn hyn.

Mae Unite hefyd yn gamblo鈥檔 wleidyddol.

O fewn diwrnodau o鈥檙 etholiad cyffredinol fe fydd yn rhaid i鈥檙 llywodraeth newydd ddelio 芒鈥檙 streiciau cyntaf yn y diwydiant dur ers 40 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Tata Steel eu bod yn "hynod siomedig gyda phenderfyniad Unite i streicio".

鈥淢ae ein hasedau gwneud dur presennol yn agos at ddiwedd eu hoes, yn ansefydlog yn weithredol ac yn achosi colledion anghynaladwy o 拢1m y dydd," meddai llefarydd.

"Dyna pam nad yw'r paratoadau i gau'r ffwrneisi chwyth a'r gweithfeydd cysylltiedig ym Mhort Talbot wedi newid.

"Fodd bynnag, os ydy diogelwch a sefydlogrwydd ein gweithrediadau yn cael eu peryglu gan y cam yma, byddwn yn cael ein gorfodi i gyflymu鈥檙 cynlluniau cau.

鈥淎r 么l trafodaethau helaeth gyda鈥檙 undebau fe wnaethom wella鈥檔 sylweddol y gefnogaeth a gynigir i weithwyr fydd yn cael eu heffeithio 鈥 y pecyn mwyaf hael yn ein hanes.

"Yn hytrach na streicio, byddem wedi disgwyl i Unite gyflwyno ein cynnig gwell i鈥檞 aelodau."