大象传媒

Pump peth difyr am yr Archdderwydd newydd Mererid Hopwood

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd yr Archdderwydd newydd yn dechrau yn ei r么l ar 27 Ebrill - dim ond yr ail fenyw i wneud y swydd.

Felly wrth i'r Athro Mererid Hopwood dderbyn yr awenau gan yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd, yn seremoni cyhoeddi'r Eisteddfod yn Wrecsam dyma gyfle i wybod ychydig mwy amdani.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Mererid Hopwood

1. Allan o 35 Archdderwydd, dim ond yr ail fenyw i wneud y swydd ydi Mererid Hopwood - ond fu bron iddi fod y gyntaf.

David Griffiths, neu Clwydfardd, oedd y cyntaf i ddal y teitl yn 1876. Roedd yn rhaid disgwyl 137 o flynyddoedd i gael menyw fel Archdderwydd - sef Christine James, yn 2013.

A nawr - 11 mlynedd yn ddiweddarach - mae ail fenyw yn y swydd.

Ond fe gafodd Mererid Hopwood ei henwebu yn 么l yn 2009.

Eglurodd wrth Cymru Fyw: 鈥淎r 么l deall bod Jim Parc Nest wedi ei enwebu hefyd, tynnais fy enw yn 么l bryd hynny.

"Wn i ddim yn hollol beth oedd yn wahanol y tro yma. A minnau bellach yn fam-gu, efallai bod y llais sy鈥檔 dweud 鈥榩am lai!?鈥 ac 鈥榓mdani!鈥 yn siarad yn uwch.鈥

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jim Parc Nest - yr Archdderwydd rhwng 2009-2013 - yn cael ei dywys i gael ei gadeirio yn 2019 gan Myrddin ap Dafydd, sy'n trosglwyddo'r awenau eleni

2. Pan oedd hi'n iau, roedd hi鈥檔 chwarae i Gerddorfa Ieuenctid Cymru... a band pop

Y sielo oedd ei hofferyn ac aeth ar daith gyda Cherddorfa Ieuenctid De Morgannwg i Stuttgart - gefeilldref Caerdydd, lle鈥檙 oedd hi鈥檔 byw. Tydi hi ddim yn chwarae bellach ond yn breuddwydio am ail-afael ynddi ar 么l iddi ymddeol.

Roedd hi hefyd mewn band pop pan oedd hi yn yr ysgol, fel yr eglurodd wrth Cymru Fyw:

鈥淩oedd tipyn o bawb mewn 鈥榞r诺p pop鈥 yn y dyddiau hynny. Mae llun yn rhywle o Mari Emlyn, fy ffrind ysgol, a minnau鈥檔 dal tlws 鈥榬ecord arian鈥 ar faes Eisteddfod yr Urdd - chofia鈥 i ddim yn union ymhle.

鈥淥nd mae gen i gof fy mod i鈥檔 canu鈥檙 git芒r fas ar y sail ansicr fy mod i鈥檔 medru canu鈥檙 sielo (?!) ac rwy bron yn si诺r mai 鈥極ctopws鈥 oedd enw鈥檙 band. Aeth chwech ohonom ni wedyn o Ysgol Llanhari i greu gr诺p, wedi ein hysbrydoli gan 鈥楽idan鈥.

鈥淢ae arna鈥 i ofn nad oeddem ni yn yr un gynghrair 芒鈥檔 harwresau - ac mae gen i gof o gyfweliad ar Sosban, rhaglen radio Richard Rees, a phawb yn siarad dros ei gilydd.鈥

Mae鈥檔 rhaid bod cerddoriaeth yn y gwaed: roedd ei mab Llewelyn yn y band Bromas ac eleni bu'n cystadlu yn C芒n i Gymru gyda鈥檙 g芒n M锚l. Mae un o鈥檌 merched - Hanna - yn chwarae鈥檙 sielo... sef hen un Mererid.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Llewelyn Hopwood, mab yr Archddewydd newydd, gyda Bromas yn 2015

3. Mae 鈥楳ererid Hopwood鈥 yn un ateb i sawl cwestiwn bosib mewn cwis am yr Eisteddfod Genedlaethol.

Pwy oedd y ferch gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Mererid Hopwood.

Pwy ydi鈥檙 unig ferch i ennill y Gadair a鈥檙 Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Mererid Hopwood.

Pwy ydi鈥檙 unig ferch i ennill Y Fedal Ryddiaith, y Goron a'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Ia, Mererid Hopwood.

Enillodd y gwobrau i gyd mewn wyth mlynedd: y Gadair yn 2001, y Goron yn 2003 a鈥檙 Fedal Ryddiaith yn 2008. Mae鈥檙 nofel enillodd y Fedal Ryddiaith - sef O Ran - yn llyfr gosod TGAU.

Disgrifiad,

Mererid Hopwood yn cael ei chadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2001

4. Mae hi鈥檔 dipyn o ieithydd.

Mae鈥檔 amlwg o鈥檌 llwyddiant yn yr Eisteddfod bod ganddi afael go dda ar y Gymraeg, ond Almaeneg a Sbaeneg oedd ei phwnc gradd.

Astudiodd yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i wneud doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.

Roedd hi鈥檔 darlithio am gyfnod yn y Gymraeg ac ieithoedd modern ym Mhrifysgol Abertawe, yna鈥檔 ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ac ers 2020 mae hi鈥檔 Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

5. Mae鈥檔 hoffi cychod a choryglau

Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd, mae ei theulu o Bontiago, Sir Benfro - felly does ryfedd bod heli鈥檙 m么r yn ei gwaed. Ac mae鈥檔 edrych ymlaen at antur eleni.

鈥淢ae cwch bach pysgota wedi bod yn y teulu ers cyn cof,鈥 meddai. 鈥淩oedd gan fy hen dad-cu, John y Gof, gwch bach ar draeth Porthsychan, Pencaer, ac roedd mynd mas ar y m么r i bysgota yn 鈥楪las y Dorlan鈥, cwch fy nhad ac Wncwl Jac, yn antur bob haf slawer dydd.

鈥淥nd eleni, rwy鈥檔 edrych ymlaen at gael mynd mas ar afon Tywi mewn corwgl am y tro cyntaf erioed.鈥