Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y cerddor, actor a'r digrifwr Dewi Pws Morris wedi marw
Mae un o ffigyrau mwyaf amryddawn a phoblogaidd byd adloniant Cymru, Dewi 'Pws' Morris wedi marw yn 76 oed.
Mae'n fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.
Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr oper芒u sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam.
Dewi Pws, fel yr oedd pawb yn ei adnabod ers blynyddoedd, oedd prif leisydd y gr诺p Y Tebot Piws.
Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu'r supergroup Cymraeg cyntaf - y band roc chwyldroadol, Edward H Dafis.
Dewi Pws wnaeth gyfansoddi Lleucu Llwyd - un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws - a Nwy yn y Nen, c芒n fuddugol C芒n i Gymru 1971.
Fe berfformiodd hefyd gyda'r band pync-gwerin Radwm ac ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.
Dewi Gray Morris oedd ei enw bedydd ac fe gafodd ei eni ym mhentref Treboeth ger Abertawe yn 1948.
Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg L么n Las, Llansamlet ac Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, cyn dod i sylw Cymru gyfan gyntaf fel aelod o Aelwyd yr Urdd, Treforys.
Hyfforddi fel athro oedd ei gam nesaf, yng Ngholeg Cyncoed, a dysgu am rai blynyddoedd yn Sblot, Caerdydd.
Ond o fewn dwy flynedd roedd 芒'i fryd ar actio. Dechreuodd ym myd pantomeim a chael swydd lawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru cyn troi at deledu.
Roedd ymhlith cast gwreiddiol Pobol y Cwm, gan chwarae rhan Wayne Harris rhwng 1974 a 1987.
Roedd hefyd yn un o brif gymeriadau'r ffilm deledu chwedlonol, Grand Slam, yn 1978, a'r Dyn Creu yn y gyfres deledu i blant, Miri Mawr.
Fel digrifwr a thynnwr coes fe serennodd ar rai o gyfresi cynnar mwyaf llwyddiannus S4C fel Torri Gwynt, Mwy o Wynt a Hapus Dyrfa - yn ogystal 芒 fel cyflwynydd Byd Pws.
Roedd yn aelod o gast gwreiddiol Rownd a Rownd pan ddechreuodd y gyfres yn 1995, gan bortreadu Islwyn, perchennog y siop bapur newydd, hyd at 2007.
Enillodd wobr y cyflwynydd gorau am ei raglen Byd Pws gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2003.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys llyfrau i blant.
Roedd yn fardd medrus hefyd, gan gystadlu gyda th卯m Crannog yng nghyfres Talwrn y Beirdd Radio Cymru.
Fe gafodd ei benodi'n Fardd Plant Cymru yn 2010, a'i dderbyn i Orsedd Cymru yn 2010, gan ddewis yr enw barddol 'Dewi'n y Niwl'.
Wedi iddo gael ei benodi yn fardd plant dywedodd: "Wy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio 'da plant dros Gymru gyfan, achos wy'n ystyried yn hunan fel math o Peter Pan. Plant sy'n fy nghadw i'n ifanc.
"Ac ar 么l blwyddyn yn y jobyn 'ma, falle bydda i wedi tyfu'n 么l i fod yn 12 oed unweth 'to."
Yn 2018 fe gafodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Dywedodd yn ystod y seremoni mai "yma yn Abertawe ges i fy addysg gynnar lle ddysgais fod Cymru a'r iaith Gymraeg yn bwysig i mi".
Bu'n byw am flynyddoedd gyda'i wraig Rhiannon yn Nhre-saith, yng Ngheredigion, cyn ymgartrefu yn Nefyn, yng Ngwynedd mewn ymateb i dranc y Gymraeg yn y de orllewin.
Roedd hefyd yn Gymro i'r carn. Ymunodd mewn protestiadau'n gyson - o ddyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith i ymgyrchoedd yn erbyn y Bwrdd Iaith.
Gwrthododd ymddangos ar Radio Cymru am gyfnod am ei fod yn teimlo bod gormod o gerddoriaeth Saesneg mewn rhaglenni.
Bu farw yn dilyn cyfnod byr o salwch.