Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Trist' gorfod symud o Gaernarfon oherwydd prisiau rhent
Mae person ifanc o Gaernarfon yn dweud eu bod yn wynebu'r posibilrwydd o orfod symud o'r ardal yn sgil costau rhent uchel.
Ers 2020 mae Reece Moss wedi bod yn byw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan elusen Gisda, ond maen nhw'n awyddus i symud er mwyn cael mwy o annibyniaeth.
Ond mae diffyg tai ar y farchnad rhent, a'r prisiau yn lleol, yn gwneud hynny'n anodd.
Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd prif weithredwr Gisda - sy'n cefnogi pobl ifanc yn y gogledd - ei bod hi'n "hollbwysig" fod rhagor o dai yn cael eu hadeiladu yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago o Gyngor Gwynedd eu bod yn gwneud "pob dim 'da ni'n gallu i newid y sefyllfa, ond mae'n mynd i gymryd amser".
Fe wnaeth Reece Moss, 21, symud i hostel Gisda ym mis Tachwedd 2022, cyn symud i fflat annibynnol gyda chefnogaeth yr elusen ym mis Rhagfyr y llynedd.
"Mae'r hostel yn dda i symud pobl mewn yn sydyn os oes angen - pobl sydd mewn emergency situation, neu sydd angen t欧 ar frys - ma'n gr锚t bo' Gisda yn gallu ymateb mor sydyn," meddai.
"Yr hostel ydy'r cam cyntaf, ar 么l hynny mae 'na fflatiau annibynnol, a pan ti yno ti ddim yn cael gymaint o gefnogaeth, mae o fel trial - ond mae'r gefnogaeth yno os dwi angen o.
"Dyna sy' mor dda am Gisda, ma' nhw'n neud yn si诺r fod pobl yn barod cyn symud, yn lle cael nhw fewn a gwthio nhw allan."
Mae Reece bellach yn teimlo eu bod yn barod i symud o fflatiau Gisda i gartref eu hunain, ond mae prisiau rhent a diffyg tai yn gwneud hynny'n anodd.
"Dwi'n rili diolchgar i Gisda, ond dwi ddim angen nhw gymaint ddim mwy - dwi'n barod i symud 'mlaen ond does nunlle i fi symud.
"Dwi isio aros yng Nghaernarfon achos nes i dyfu fyny mewn pentref cyfagos, fa'ma o'n i yn dod efo ffrindiau, i fa'ma es i'r ysgol - ond hefyd mae Caernarfon yn dda efo trafnidiaeth gyhoeddus ac ati.
"Ond ma'n rili anodd i fi achos dydi'r tai ddim yma i accomodatio pobl.
"Ma'n rili trist meddwl bo' di am orfod symud i ffwrdd just i gael t欧... ac mae gan lot o bobl yr un broblem ac yn wynebu gorfod symud yn bell o le ma' nhw 'di tyfu fyny just i gael chance o gael t欧."
Ychwanegodd nad yw'n adnabod unrhyw un yr un oed 芒 nhw sydd hyd yn oed yn ystyried prynu t欧.
Dywedodd Sian Elen Tomos, prif weithredwr Gisda, bod angen mwy o gyllid arnyn nhw os am ddarparu'r gefnogaeth sydd ei angen.
"Mae 'na gymaint o bwysau ar wasanaethau ar hyn o bryd - mae pawb yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am gyllid.
"Tydi'n maes ni ddim yn ffitio i faes iechyd, gofal ac yn y blaen, ond 'da ni dal yn darparu cefnogaeth ac yn atal pobl rhag cael mwy o gymorth yn y dyfodol.
"Mae'n anodd cael y neges yna drosodd weithiau - ond 'da ni'n helpu arbed cymaint o bres y pwrs cyhoeddus yn y tymor hir."
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd: "Da ni dal yn chwarae catch-up ac mae nifer y bobl ifanc sydd angen tai yn uchel iawn.
"Y nod ydy fod pobl ifanc yn symud ymlaen i fod yn ddinasyddion ifanc ac yn cyfrannu i'w cymunedau."
'Cosbi' pobl ifanc
Mae cymorth elusennau fel Gisda yn helpu lleihau'r pwysau ar wasanaethau yn y tymor hir, yn 么l Ms Tomos.
"Mae'r bobl ifanc sydd yn dod aton ni fel arfer efo bywydau eithaf chaotic efo lot yn mynd ymlaen.
"Da' ni yna i'w sefydlogi nhw, gan ganolbwyntio ar sgiliau cyllidebu, coginio a sut i gadw tenantiaeth fel bod nhw'n gallu symud ymlaen, talu biliau yn annibynnol a gweithio mewn partneriaeth efo'r gymdeithas tai hefyd.
"Yn draddodiadol, fflatiau neu dai un llofft yw'r opsiwn i bobl sydd am symud ymlaen - ond yn anffodus does dim llawer o fflatiau newydd fel na ar hyn o bryd.
"Y bobl ifanc sydd yn cael eu cosbi mewn ffordd."
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, sy'n gyfrifol am dai ar Gyngor Gwynedd, eu bod yn gwneud "pob dim 'da ni'n gallu i newid y sefyllfa, ond mae'n mynd i gymryd amser".
"Mae'n sefyllfa afiach, a be' 'da ni'n neud fel gwlad ydy ymateb yn rhy araf," meddai.
Ychwanegodd fod y cyngor wedi buddsoddi 拢140m mewn tai dros gyfnod o bum mlynedd, gyda'r cyngor yn adeiladu tai eu hunain am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.
Dywedodd fod y cyngor yn "trio cartrefu pobl leol yn ein cymunedau ni... da ni'n trio 'neud mor sydyn 芒 phosib, ond dydi o ddim yn hawdd i 'neud pan 'da chi'n s么n am dai".
Yn sgil prinder tai, dywedodd fod y cyngor yn gwario 拢7m ar bethau fel ystafelloedd mewn gwestai gwely a brecwast, sydd "ddim yn ddefnydd da o arian cyhoeddus".
Disgrifiodd sefyllfa ddigartrefedd fel un sydd "ddim yn gwella".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i fynd i鈥檙 afael 芒 phob math o ddigartrefedd ac rydym yn buddsoddi bron i 拢220m mewn gwasanaethau atal a chymorth eleni yn unig.
鈥淢ae hyn yn cynnwys mwy na 拢7m wedi鈥檌 dargedu鈥檔 benodol at adnabod digartrefedd ymysg pobl ifanc yn gynnar, a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu鈥檙 sgiliau bywyd i fyw yn annibynnol."