Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cerddorion WNO o blaid streicio dros doriadau
Mae cerddorion yng ngherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi pleidleisio o blaid streicio mewn ffrae am doriadau.
Dywedodd Undeb y Cerddorion (MU) fod 81% o'i aelodau wedi cefnogi streiciau, a bod 96% yn cefnogi mathau eraill o weithredu diwydiannol.
Mae鈥檙 undeb wedi cyhuddo鈥檙 cwmni opera o gynllunio i wneud y gerddorfa鈥檔 rhan amser, a thorri cyflog 15%.
Mae'r undeb yn honni bydd yn rhaid i WNO dorri ar deithio o ganlyniad i鈥檙 cynlluniau, gan ddweud fod hynny'n bosib o adael trefi a dinasoedd fel Llandudno a Bryste heb opera o safon uchel.
Dywedodd y WNO eu bod wedi "ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy鈥檔 gweithio i aelodau ein cerddorfa, tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i鈥檔 cyllid".
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol MU, Naomi Pohl: 鈥淣id yw ein haelodau鈥檔 cymryd pleidleisio ar gyfer gweithredu diwydiannol yn ysgafn.
鈥淩ydym bob amser eisiau osgoi streic lawn os yn bosib, ac mae angen i reolwyr WNO weithio gyda ni i ystyried cynigion amgen a dilyn datrysiad ariannu priodol a fydd yn galluogi WNO i aros yn gwmni llawn amser.
"Gallai'r toriadau hyn fod wedi cael eu hosgoi gyda mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr neu gyfuniad o'r tri."
Dywedodd Jo Laverty, trefnydd cenedlaethol yr MU ar gyfer cerddorfeydd: 鈥淧e bai'r gerddorfa鈥檔 cael ei gorfodi i fynd yn rhan-amser, byddai'n niweidiol iawn i鈥檔 haelodau.
鈥淩ydyn ni鈥檔 gwybod o arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni bod 60% o鈥檔 haelodau yn ystyried gadael cerddorfa WNO a 40% yn ystyried gadael y sector yn gyfan gwbl er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
鈥淏ydd toriadau gan Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn cael sgil-effaith ehangach ar y diwydiant ac ecosystem y celfyddydau yng Nghymru.
"Mae'n lleihau cyfleoedd yn y proffesiwn, mae'n lleihau'r cyfleoedd i gerddorion cerddorfaol medrus yng Nghymru, a'n peryglu dyfodol y proffesiwn i ddarpar gerddorion ifanc Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran y WNO: "Er ein bod yn parchu penderfyniad y bleidlais a drefnwyd gan MU, sy鈥檔 cynrychioli aelodau cerddorfa WNO, rydym yn siomedig y byddai hyn yn golygu y bydd ein cynulleidfaoedd yn colli allan yn y pendraw oherwydd yr effaith ar berfformiadau/cyngherddau.
鈥淩ydym wedi parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag undebau ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy鈥檔 gweithio i aelodau ein cerddorfa tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i鈥檔 cyllid.
"Ni fyddai鈥檔 briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
'Penderfyniadau anodd dros ben'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o鈥檔 cymdeithas a鈥檔 lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau鈥檙 dyfodol.
"Rydym wedi gweithredu i liniaru maint llawn y pwysau cyllidebol ar y sectorau hyn, ond rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at 拢700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG.
"Byddwn yn parhau i drafod gyda鈥檙 sectorau. Mater i鈥檙 sefydliad yw telerau ac amodau cyflogaeth a materion yn ymwneud 芒 th芒l yn WNO."
Dywed Cyngor Celfyddydau Lloegr bod WNO "yn rhan bwysig o ecoleg opera ein gwlad, gan gynhyrchu a mynd ar daith gyda gwaith arbennig".
Dyna pam, meddai llefarydd, eu bod "yn buddsoddi dros 拢15.3m yn WNO dros y tair blynedd nesaf am ei waith yn Lloegr".
Mae'r swm hwnnw'n cynnwys cyllid craidd o 拢4m y flwyddyn, a 拢3.25m yn ychwanegol i helpu'r WNO i ad-drefnu busnes er mwyn ymdopi 芒 lefelau ariannu is.
Ychwanegodd nad ydyn nhw'n ymh茅l a threfniadau dydd i ddydd y cyrff maen nhw'n eu hariannu, ond eu bod yn gweithio'n agos 芒 nhw ac yn ceisio "bod mor hyblyg ag y gallwn" wrth iddyn nhw wynebu amodau heriol.