Cyhoeddi Meuryn ac Islwyn newydd Ymryson y Beirdd
- Cyhoeddwyd
Y beirdd Twm Morys a Gruffudd Antur fydd wynebau newydd Ymryson y Beirdd yn y Babell L锚n yn Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd eleni.
Ar 么l 20 mlynedd o feurynna a 40 mlynedd o gadw sg么r, mae Tudur Dylan Jones a Dafydd Islwyn wedi penderfynu trosglwyddo'r awenau i eraill.
Ymddangosodd Tudur Dylan fel y Meuryn am y tro cyntaf yn Eisteddfod Meifod yn 2003 ond flynyddoedd yn gynharach, yn Eisteddfod Caerdydd ym 1978 y dechreuodd Dafydd Islwyn gadw鈥檙 sg么r.
Cyhoeddwyd enwau'r Meuryn a'r Islwyn newydd ar raglen Heno ar S4C nos Fercher.
Y Meuryn newydd
Yn wreiddiol o Lanystumdwy, enillodd Twm y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2003.
Bu hefyd yn Fardd Plant Cymru yn 2009-2010.
Ar hyn o bryd, ef yw golygydd y cylchgrawn cerdd dafod, .
Mae hefyd yn gyfarwydd fel prif ganwr y gr诺p Bob Delyn a'r Ebillion.
Yr Islwyn newydd
Un o Benllyn yw Gruffudd Antur, ac mae wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd fwy nag unwaith.
Gyda gradd mewn Ffiseg, ni ddylai cadw sg么r yn yr Ymryson fod yn broblem iddo.
Yn ogystal 芒 chadw llygad barcud ar y marciau, bydd ei wybodaeth o reolau'r gynghanedd a cherdd dafod hefyd o gymorth i'r Meuryn.
Trosglwyddo'r awenau
Ar 么l 40 mlynedd yn eistedd wrth law'r Meuryn, fe roddodd Dafydd Islwyn y gorau i'r Ymryson yn Eisteddfod Caerdydd yn 2018, ond eleni fe gyhoeddwyd yn swyddogol pwy fyddai ei olynydd.
Fel mae'n digwydd, union 40 mlynedd yn gynharach, ym 1978 yn Eisteddfod Caerdydd y gofynnwyd i Dafydd Islwyn gadw'r sg么r am y tro cyntaf, a hynny gan Drysorydd Barddas ar y pryd, T Arfon Williams.
Bu Dafydd Islwyn yn wyneb cyfarwydd iawn nid yn unig yn y Babell L锚n, ond fe fyddai o, ei ddiweddar wraig Suzanne, ac Angharad eu merch yn edrych ar 么l stondin Barddas ar y maes am flynyddoedd lawer.
Bu hefyd yn ysgrifennydd cymdeithas Barddas am 38 o flynyddoedd.
Os oeddech chi'n ddigon ffodus i fod yn rhan o gynulleidfa'r Ymryson, yn y Babell L锚n, neu'n gwylio ar y teledu, fe wyddech chi bod cyfnod hir o chwerthin o'ch blaen pe byddai Dafydd Islwyn yn dod 芒'i hances wen allan i sychu ei ddagrau.
Gydag 20 mlynedd o feurynna yn yr Ymryson wedi eu cyflawni, Tudur Dylan Jones yw鈥檙 Meuryn sydd wedi gweithredu am y cyfnod di-dor hiraf ers canol y ganrif ddiwethaf.
Bu'r diweddar Gerallt Lloyd Owen yn meurynna rhwng 1978 ac 1989, ac yna rhwng 1992 a 2002.
Pan aeth yntau yn wael, gwahoddwyd Tudur Dylan i feurynna yn 2003 a bu wrthi'n ddiwyd wedyn am yr 20 mlynedd nesaf.
Ond fydd Tudur Dylan ddim yn llaesu dwylo yn yr Eisteddfod ym Moduan eleni.
Bydd wrthi fel math arall o feirniad y tro hwn, yn pwyso a mesur cystadleuwyr yn y cystadlaethau llefaru.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
O ran trefniadau'r Ymryson eleni, beirniad Englyn y dydd fydd Emyr Lewis, a beirniad Limrig y dydd fydd Bethan Gwanas.
Y gornestau fydd:
Dydd Mawrth - Morgannwg v Deheubarth v Caernarfon
Dydd Mercher - Maldwyn v Ll欧n ac Eifionydd v Caerfyrddin
Dydd Iau - Ceredigion v Penceirddiaid v Meirion
Dydd Gwener - Rownd derfynol
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023