Cyflwyno Coron a Chadair Prifwyl Ll欧n ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
Mewn seremoni arbennig yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog nos Fawrth fe gafodd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl.
Elin Mair Roberts o'r Ff么r, ger Pwllheli, sydd wedi creu'r goron eleni, a Stephen Faherty - sy'n byw ger Rhuthun ond yn hanu o Bren-teg, ger Porthmadog - gafodd ei gomisiynu i greu'r gadair.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain bod hi'n "bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a'r Gadair ar ran yr Eisteddfod".
Ychwanegodd ei bod yn "anodd credu", wedi pedair blynedd o baratoadau, mai ond 50 diwrnod sydd bellach cyn diwrnod agoriadol Prifwyl eleni, sy'n cael ei chynnal ym Moduan rhwng 5 a 12 Awst.
Roedd y L么n Goed - y llwybr hanesyddol pwysig ger Chwilog sy'n ffinio Ll欧n ac Eifionydd, ac a gafodd ei hanfarwoli yn y gerdd Eifionydd gan R. Williams Parry - yn ysbrydoliaeth i'r ddwy wobr.
Fe ddefnyddiodd y cynhyrchydd gemwaith Elin Mair Roberts ffiniau'r L么n Goed fel sail i'r goron o arian, sydd 芒 phenwisg deunydd gwyrdd i adlewyrchu "cyfoeth tir yr ardal" a chennin pedr o aur melyn 18ct.
Mae'r dyluniad hefyd yn adlewyrchu'r "ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd, yn ogystal 芒'r gwrychoedd a'r waliau cerrig a welir yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod".
Mae'r Goron yn cael ei noddi eleni gan Gangen Sir Gaernarfon Undeb Amaethwyr Cymru, a theulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy sy'n rhoi'r wobr ariannol o 拢750, er cof am Griffith Wynne.
Os fydd teilyngdod yn y gystadleuaeth, fe fydd yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol yn seremoni'r Coroni brynhawn Llun 7 Awst yn y Pafiliwn Mawr.
Roedd gofyn i ymgeiswyr lunio pryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc Rhyddid.
Y beirniaid eleni yw Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock.
Cerflunio yw arbenigedd Stephen Faherty, a naddodd y Gadair eleni o ddarn mawr o goeden dderw a gafodd ei phlannu ar ymyl y L么n Goed dros 200 mlynedd yn 么l.
Fe gafodd y dderwen gyfan ei chwythu i lawr yn ystod Storm Darwin yn Chwefror 2014, ac fe gyflwynodd Eifion Williams, Tyddyn Heilyn ddarn ohoni i'r Eisteddfod pan glywodd fod y Brifwyl i'w chynnal yn lleol.
Mae'r Gadair felly yn un o'r ychydig rai fydd wedi ei naddu, yn hytrach na'i chreu o ddarnau gwahanol, ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'n ddarn arbennig o bren, ac roedd o'n gweddu i'w gerfio i gadair," meddai Mr Faherty.
"Wrth gwrs rydw i wedi gorfod defnyddio llif i dorri'r bonyn yn si芒p cadair ond mae'n gadair sydd wedi'i chreu o un darn o bren.
"Fy mwriad o'r cychwyn cyntaf oedd gadael y bonyn i siarad drosto'i hun. Mae graen prydferth i'r bonyn ac rydw i am i hwnnw ddod allan a sgleinio. Yn bendant bydd yn tynnu'r llygad."
Mae'r Gadair yn rhan o'r wobr am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Llif.
Cathryn Charnell-White, Karen Owen a Rhys Iorwerth yw beirniaid y gystadleuaeth.
Teulu'r diweddar Dafydd Orwig - addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd - sy'n noddi'r gadair ac yn cyfrannu'r wobr ariannol. Mae seremoni'r Cadeirio yn cael ei chynnal brynhawn Gwener 11 Awst.
Yn 么l Michael Strain, fe dreuliodd un o feibion Dafydd Orwig, Huw , "ddyddiau lu yn helpu Stephen wrth iddo gwblhau'r gwaith" o greu'r Gadair.
Ychwanegodd Mr Strain bod y Goron a'r Gadair yn "hyfryd o hardd, ac yn destun balchder i ni yma yn Ll欧n ac Eifionydd.
"Rwy'n sicr bod pawb ar hyd a lled Cymru, fel ninnau, wedi ein gwefreiddio wrth eu gweld am y tro cyntaf heno.
"Mae'n anodd credu ein bod ni, o'r diwedd, ar fin nodi mai dim ond hanner cant o ddyddiau sydd i fynd tan y byddwn yn agor y giatiau i Brifwyl Boduan, a hynny ar 么l i ni fod yn gweithio ar y paratoadau ers pedair blynedd.
"Dechreuodd y gwaith ar y Maes ddoe, ac mae ein gwaith ni fel gwirfoddolwyr ar draws y fro yn tynnu tua'r terfyn r诺an - ond ddim tan ein bod ni wedi croesawu pawb atom i L欧n ac Eifionydd ddechrau Awst.
"Mae 'na chwip o Eisteddfod yn ein haros, felly dewch yn llu!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023