大象传媒

Galw am derfyn 20mya ar ffordd brysur yng Ngheredigion

Baner ymgyrchuFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trigolion Ffwrnais ac Eglwys-fach wedi bod yn galw am wella diogelwch y ffordd ers dros 50 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am gyflwyno terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr mewn cymuned yng ngogledd Ceredigion oherwydd pryder bod ffordd brysur yn beryglus i gerddwyr.

Mae pobl pentrefi Ffwrnais ac Eglwys-fach 鈥 ar brif ffordd yr A487 鈥 yn dweud eu bod wedi ymgyrchu ers dros 50 mlynedd i wella diogelwch ar y ffordd, heb weld unrhyw newid.

Ond ers i gymunedau cyfagos weld y terfyn cyflymder yn gostwng i 20 milltir yr awr yn ddiweddar, maen nhw am weld yr un peth yn digwydd yn lleol 鈥 gyda鈥檙 terfyn cyflymder ar hyn o bryd yn 40mya.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried diogelwch ffyrdd yn fater difrifol, a'u bod yn "adolygu data gwrthdrawiadau heddlu yn gyson i weld a oes angen mesurau ychwanegol鈥.

Mae Maia yn dal bws i Ysgol Penglais, Aberystwyth bob bore, ond mae hi鈥檔 dweud bod cerdded i鈥檙 arosfan yn codi ofn arni, yn enwedig yn y gaeaf pan mae hi鈥檔 dywyll.

鈥淏ob bore dwi鈥檔 cerdded i ddal y bws ysgol, ac ma' 'na geir sydd yn mynd yn rili gyflym ac mae鈥檔 neud i fi feddwl os ydw i neu fy mrawd i am gael ein hitio," meddai..

"Mae鈥檔 rili neud i fi fecso.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maia yn poeni am gael ei tharo gan gerbyd ar ei thaith i'r ysgol

Ym mis Medi 2023 newidiodd y rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya ledled Cymru i 20mya.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn golygu llai o wrthdrawiadau, anafiadau a marwolaethau ac y byddai pobl o bob oed yn "teimlo'n fwy diogel i gerdded" yn eu cymunedau.

Ond ni wnaeth y terfyn cyflymder drwy Ffwrnais ac Eglwys-fach newid am ei fod yn 40mya yn hytrach na 30mya.

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wedi dweud y bydd newidiadau i'r polisi 20mya - ac y dylai'r terfyn fod mewn llefydd "lle mae 'na risg i blant a'r henoed".

'Mwy o risg i ni yma'

I Robin Mason, sy鈥檔 51 ac sy鈥檔 byw yn Ffwrnais, mae鈥檔 hen bryd i rywbeth newid, wedi dros hanner canrif o ymgyrchu.

Mae e鈥檔 derbyn, o bosib, y bydd angen cyfaddawdu ac efallai nad yw gosod palmant ar hyd yr holl ffordd yn bosib gan ei bod hi鈥檔 gul ac yn ffordd bwysig rhwng gogledd a de Cymru.

Ond mae鈥檔 sicr bod angen gwella diogelwch. 鈥淢a鈥檙 llywodraeth a鈥檙 cynghorau yn dweud 鈥榗erddwch i bobman鈥 ond dyw pobl ddim yn medru cerdded yma," dywedodd.

"Mae鈥檔 beryg bywyd. Ma' 'na ddamweiniau wedi digwydd dros y blynyddoedd yma, pobl wedi cael eu hanafu a鈥檜 lladd."

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai Robin Mason yn hoffi gweld palmant yn cael ei osod ar hyd ochr y ffordd

鈥'Na gyd ni鈥檔 gofyn am yw bach o degwch, bod y cyngor a鈥檙 llywodraeth yn edrych ar y risg. Mae mwy o risg i ni yn Ffwrnais ac Eglwys-fach na sawl pentref arall sydd wedi cael 20 milltir yr awr.

"Mae鈥檙 rhewl ma鈥檔 un o鈥檙 prif ffyrdd rhwng y gogledd a鈥檙 de. Mae wedi bod yn brysur dros y Pasg a nawr mewn i鈥檙 gwanwyn a鈥檙 haf.

鈥淥s bydde nhw ond yn gallu rhoi palmant [ar hyd ochr y ffordd] - neu os ddim palmant, yna gostwng y cyflymder i 30 neu 20 milltir yr awr, ac wedyn ymestyn hwnnw mas o鈥檙 pentre鈥 fel bod pobl yn arafu.鈥

Mae pobl leol wedi cyflwyno deiseb ag arni 419 o lofnodion i鈥檙 Senedd yn galw am ostwng y terfyn cyflymder yn Ffwrnais ac Eglwys-fach i 30mya.

Mae鈥檙 ddeiseb honno'n cael ei hystyried gan y pwyllgor deisebau ar hyn o bryd.

Fe gyfeiriodd cadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant AS, y ddeiseb at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, Lee Waters.

Mewn ymateb fe ddywedodd Mr Waters bod canllawiau newydd ar osod terfyn cyflymder lleol yn cael eu cyhoeddi ac y byddai鈥檙 llywodraeth yn adolygu terfynau cyflymder ar gefnffyrdd ar 么l cyhoeddi鈥檙 canllawiau newydd.

'Becso taw fi fydd y statistic nesa'

Mae Delyth Griffiths, 71, yn byw lan y ffordd yng Nglandyfi, ble gafodd palmant ei osod fel rhan o welliannau ffordd 10 mlynedd yn 么l.

Ond fel un sy鈥檔 mynychu鈥檙 eglwys yn Eglwys-fach ac sy鈥檔 cerdded ar hyd y ffordd, mae hi鈥檔 gweld pa mor beryglus ydi'r ffordd i gerddwyr ar 么l i鈥檙 palmant ddod i stop.

鈥淢ae鈥檔 beryglus dros ben, ac ma' damweiniau wedi digwydd yn y gorffennol, ac ma' damweiniau yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol os nad yw pethau鈥檔 newid.

鈥淢ae 'na blant sy鈥檔 dal y bws ysgol, ac wrth gwrs, ar 么l iddyn nhw gael eu gollwng, ma' nhw鈥檔 gorfod croesi鈥檙 rhewl, a does 'na ddim un man diogel iddyn nhw groesi.

鈥淒wi鈥檔 becso bob tro taw fi fydd y statistic聽nesa - bod rhywun yn mynd i gael damwain andwyol yn y pen draw.鈥

Comisiynu astudiaeth

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ystyried diogelwch ffyrdd yn fater difrifol", a'u bod yn "adolygu data gwrthdrawiadau heddlu yn gyson i weld a oes angen mesurau ychwanegol鈥.

Maen nhw hefyd wedi comisiynu astudiaeth dichonoldeb ar godi palmant yn Eglwys-fach a Ffwrnais, gyda chynllun i ddilyn yn ddibynnol ar gyllid a blaenoriaethau.

Pynciau cysylltiedig