Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prif dyst erlyniad Lucy Letby yn mynnu ei bod hi'n euog
- Awdur, Aled Huw
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae'r nyrs Lucy Letby yn cael ei hadnabod fel llofrudd cyfresol ar hyd a lled y byd, ond cynyddu mae nifer yr arbenigwyr sy'n codi cwestiynau am ddilysrwydd dyfarniad Llys y Goron.
Wedi ei chael yn euog o lofruddio saith babi, a cheisio llofruddio saith arall, fe fydd y cyn-nyrs i fabanod newydd anedig yn marw mewn carchar.
Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.
Dadl rhai arbenigwyr yw bod y dystiolaeth yn erbyn Letby yn gamarweiniol.
Mae ystadegwyr yn cwestiynu'r modd y cafodd rhai ffeithiau eu cyflwyno i'r rheithgor.
Ond mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion S4C, mae'r cyn-ymgynghorydd paediatreg Dr Dewi Evans yn mynnu mai Lucy Letby lofruddiodd y babanod a bod yr holl sylw diweddar yn achosi loes pellach i rieni'r plant.
Dr Dewi Evans oedd prif dyst yr erlyniad yn yr achos llys ac mae wedi byw troseddau dieflig Lucy Letby ers chwe blynedd.
Yn gyn-ymgynghorydd paediatreg, bu'n dyst meddygol arbenigol mewn llysoedd ers degawdau. Ond chafodd yr un achos sylw fel hyn.
Ar 么l pori drwy filoedd o ddogfennau ysbyty Caer, roedd ei dystiolaeth yn ganolog i benderfyniadau'r rheithgor, a charcharu Letby.
Fisoedd yn ddiweddarach, cytunodd tri o uwch farnwyr y Llys Ap锚l bod dadansoddiad Dr Evans yn gwbl ddibynadwy.
Dywedodd y cyn-ymgynghorydd ei fod yn "llwyr argyhoeddedig" mai'r cyn-nyrs oedd yn gyfrifol.
"Heb os, hi oedd yn gyfrifol am lofruddio y saith baban a heb os, hi oedd yn gyfrifol am ymdrechu i drio lladd nifer o fabanod eraill ac mae'n wyrth a dweud y gwir fod cwpwl o nhw dal yn fyw," meddai.
Wrth s么n am yr ymosodiadau arno ef yn bersonol, dywedodd fod yr "ymosodiadau yn dod gan bobl sydd 芒'r lleia' o wybodaeth".
"Maen nhw'n dod wrth feddygon sydd ddim wedi gweld recordiau'r babanod, sydd ddim wedi clywed y dystiolaeth, oedd ddim yn bresennol yn yr achos ac erbyn hyn yn amlwg sy' ddim wedi darllen adroddiad cyflawn y llys ap锚l."
Yn 么l Dr Dewi Evans, ystadegwyr sy'n bwydo'r damcaniaethu a'r amheuon rhyngwladol.
Dywedodd: "Mae'r ystadegwyr wedi bod yn gyrru hyn yn gyson ac amau bod yr heddlu, yr erlyniad a ni fel tystion ddim wedi deall yr ystadegau.
"A'r ateb wrth gwrs yw roedd yr achos hwn ddim byd i wneud ag ystadegau. Doedd statistics ddim i wneud 芒'r erlyniad."
Roedd achos yr erlyniad yn eang a thrylwyr.
Ymhlith y dystiolaeth roedd canlyniadau profion bod dau o'r babanod wedi cael gorddos i inswlin a phrofion pelydr-X yn cadarnhau bod aer wedi cael ei chwistrellu yn fwriadol i gyrff saith arall.
Beth oedd gwendidau amddiffyniad Letby?
Penderfynodd t卯m cyfreithiol Lucy Letby i beidio 芒 galw unrhyw dystion meddygol, gan ddibynnu ar adroddiadau ysgrifenedig yn unig.
Mae Dr Evans yn cytuno bod yna wendidau yn amddiffyniad Letby.
Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi cael achos teg oherwydd "roedd ymchwiliad heddlu Caer yn drylwyr rhyfedda, ro' nhw wedi mynd i bob man alle' ni feddwl i sicrhau bod y dystiolaeth yn deg a bod pob math o wybodaeth gyda nhw".
Mae disgwyl i'r ymchwiliad i'r modd y deliodd ysbyty Countess of Chester 芒'r GIG agor ar 10 Medi. Bryd hynny daw rheolwyr yr ysbyty dan y chwyddwydr.
"Dwi ddim yn rhan o'r ymchwiliad... mae eisiau edrych ar brofiad y teuluoedd a chlywed wrthyn nhw, mae hynny'n hollbwysig.
"Maen nhw wedi cael amser ofnadwy a dwi'n flin iawn bod y cyhoeddusrwydd hwn, sydd o blaid Letby yn dal i barhau achos mae hyn yn bwysau ychwanegol ar y teuluoedd hyn."
Dywedodd fod y teuluoedd "wedi diodde' digon fel mae 'ddi heb gael ystadegwyr... yn clochdar heb gael y wybodaeth".