Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Statws arbennig yn rhoi 'hygrededd' i wisgi Cymreig
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Busnes
Mae rhoi statws arbennig i wisgi brag sengl Cymreig wedi rhoi 鈥渉ygrededd鈥 i鈥檙 ddiod, meddai cadeirydd cwmni Penderyn.
Dywedodd Nigel Short bod y ddiod 鈥渙 safon byd-eang鈥 a bod derbyn y statws i鈥檞 warchod y llynedd wedi cadarnhau hynny.
Mae wisgi brag sengl ymhlith 20 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru i gael statws gwarchodedig (PGI).
Mae cig oen Cymreig, cennin a chaws Caerffili hefyd wedi鈥檜 gwarchod.
Pwrpas y statws PGI yw diogelu a hyrwyddo cynhyrchion o ranbarth neu wlad benodol.
Fe gymerodd hi dair blynedd i wisgi Cymreig gael ei warchod, gyda鈥檙 broses yn cynnwys archwiliad i gadarnhau bod y brag sengl wedi ei wneud yng Nghymru o gynhwysion Cymreig.
Mae Penderyn yn un o bum cynhyrchydd brag sengl Cymreig yng Nghymru sy鈥檔 gallu defnyddio鈥檙 statws PGI, sy鈥檔 eu hamddiffyn rhag dynwared ac yn rhoi amddiffyniad tebyg i鈥檙 hyn sydd gan wisgi o鈥檙 Alban ac Iwerddon.
鈥淥 amgylch y byd, yn llysgenadaethau Prydain ac yn rhai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru, rydych chi鈥檔 cael hygrededd a statws na fyddech chi鈥檔 ei fwynhau fel arall," meddai Mr Short.
"Felly mae'n rhoi tic mawr yn y blwch o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud.鈥
Mae pencadlys y cwmni ym Mhenderyn ym Mannau Brycheiniog, ac mae ganddyn nhw ddwy ddistyllfa arall yn Llandudno ac Abertawe.
Mae cynhyrchiant wisgi Cymreig yn fach iawn o gymharu ag allbwn Yr Alban, sydd werth bron i 拢6bn i economi鈥檙 DU.
Mae'r ffaith fod gwerthiant nwyddau drud yn arafu wedi taro鈥檙 diwydiant yn ddiweddar, ac mae Penderyn yn gobeithio y gall statws PGI ychwanegu at ei ap锚l.
鈥淎r hyn o bryd rydyn ni鈥檔 allforio i tua 40 o wledydd, gyda鈥檙 marchnadoedd mwyaf yn America, Ffrainc a鈥檙 Almaen,鈥 meddai Mr Short.
鈥淩wy鈥檔 meddwl bod yr hygrededd, o gael [PGI] y llynedd, yn helpu hynny, oherwydd rhoddodd statws i ni sy鈥檔 cyfateb i wisgi Albanaidd neu Wyddelig.鈥
Cynnyrch Gwarchodedig
Ymhlith y cynhyrchion Cymreig sydd 芒 statws gwarchodedig mae:
- Cennin Cymreig
- Cregyn Gleision Conwy
- Eirin Dinbych
- Halen m么r Ynys M么n
- Cig oen a chig eidion Cymreig
Ar Fferm Glynhynod yng Ngheredigion mae busnes teuluol yn gyfrifol am ddau gynnyrch sy'n elwa o statws PGI.
Mae distyllfa Da Mhile yn cynhyrchu wisgi brag sengl, tra bod Caws Teifi yn un o dri chynhyrchydd caws Caerffili i dderbyn gwarchodaeth.
鈥淩wy鈥檔 meddwl ei fod e鈥檔 wych iawn pan rydych chi鈥檔 ceisio cadw rhai cynhyrchion yn fyw, achos mi allai fod mor hawdd i ddilyn ffasiwn yn lle,鈥 meddai Rob Savage-Onstwedder.
Sefydlodd ei rieni Caws Teifi ar ddechrau'r 1980au a bellach y cwmni ydy鈥檙 gwneuthurwr caws crefftus hynaf yng Nghymru.
Cafodd caws Caerffili ei enwi ar 么l y dref lle鈥檙 oedd yn cael ei werthu, ond yn draddodiadol roedd wedi鈥檌 wneud mewn ffermdai ledled Cymru.
Mae amddiffyn y cynnyrch rhag dynwared hefyd yn ffordd bwysig o gadw dulliau a ryseitiau traddodiadol yn fyw, yn 么l Mr Savage-Onstwedder.
鈥淵n Ffrainc, mae鈥檙 PGIs hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
鈥淢ae cymaint o fathau o gaws yn dal yn fyw yno oherwydd yr amddiffyniad sy鈥檔 cael ei roi i rai cawsiau o ardaloedd penodol, a dwi鈥檔 meddwl y gall PGI wneud yr un peth yng Nghymru,鈥 meddai.
Cafodd y statws ei roi i gaws Caerffili yn 2018.
鈥淢ae yna lawer o reolau a ffactorau eraill y mae鈥檔 rhaid i ni gadw atynt yn ein rys谩it, ac yn y cynnyrch terfynol, sy鈥檔 wych,鈥 meddai Mr Savage-Onstwedder.